Part of the debate – Senedd Cymru am 4:53 pm ar 9 Mai 2018.
Jest ychydig o eiriau ar yr iaith Gymraeg: a gaf i ddweud ei bod hi'n bosibl i astudio unrhyw brentisiaeth drwy gyfrwng y Gymraeg lle mae'r galw? Rydw i eisiau gwneud hyn yn glir: bod prentisiaid yn gallu astudio yn yr iaith o'u dewis eu hunain, ond y ffaith yw mai ychydig iawn o bobl sy'n dewis gwneud prentisiaeth jest drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae eithaf lot nawr yn ei gwneud hi yn ddwyieithog, ond dewis y prentisiaid yw hynny. Felly, mae lot o bobl sydd ddim gyda'r hyder, efallai, y byddem ni'n gobeithio i'w gwneud hi'n unswydd drwy gyfrwng y Gymraeg.