Part of the debate – Senedd Cymru am 5:19 pm ar 9 Mai 2018.
Wel, hoffwn ddweud hyn: dengys y dystiolaeth sy'n deillio o'r sefyllfa yn yr Alban fod y gyfradd is o dreth—ac rwy'n credu hyn fel Ceidwadwr beth bynnag: fod economi treth ar gyfradd isel yn cynhyrchu mwy o refeniw yn gyffredinol oherwydd eich bod yn ysgogi unigolion i fynd allan, i weithio'n galed a chreu mwy o gyfoeth. [Torri ar draws.] Fe gymeraf ymyriad arall os gallwch gyfeirio at economi treth uchel sy'n gwrth-ddweud y ddadl honno.