Part of the debate – Senedd Cymru am 5:04 pm ar 9 Mai 2018.
Wel, y rheswm rydym yn gwrthwynebu'r gwelliant yw ei fod yn dechrau gyda 'dileu popeth' gan gyfeirio at ein cynnig. Hefyd, mae gennym rai pryderon ynglŷn â sut y mae Llywodraeth Cymru yn cael ei thrin o gymharu ag awdurdodau lleol a chyrff eraill o bosibl, a'r gwahaniaethau posibl rhwng treth trafodiadau tir a threth dir y dreth stamp a'r effeithiau canoli y credwn y gallai hynny eu cael ar bartneriaethau.
Beirniadais Lywodraeth Cymru o'r blaen am ei diffyg dull cydgysylltiedig o weithredu mewn perthynas â datblygu swyddfeydd a thwf cyflogaeth, yn enwedig yn etholaeth yr Aelod sydd newydd siarad, Canol Caerdydd. Mae un Ysgrifennydd Cabinet, Ken Skates, yn hyrwyddo ardal fenter, ac eto mae un arall, Mark Drakeford, yn ei gwneud yn ddarostyngedig i drethi cosbol. Mae arweinwyr diwydiant yn dweud eu bod eisoes yn gweld prisiadau asedau'n gostwng a buddsoddwyr na fyddant mwyach yn ystyried Cymru o ganlyniad uniongyrchol i'r penderfyniad polisi hwn. Sut y mae cysoni'r hyn y mae Ken Skates yn ei ddisgrifio fel ei ddull o weithredu sy'n gyfeillgar i fusnes ag uwch dreth newydd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid? Mae'r diwydiant eiddo'n dweud wrthym y bydd diddordeb buddsoddwyr preifat yn edwino'n sylweddol gyda'r codiad yn y dreth trafodiadau tir a bydd yn arwain at wneud eiddo Cymru yn llai cystadleuol na gwledydd a rhanbarthau eraill y DU. Bydd buddsoddwyr yn bryderus y gallai hyn ddigwydd eto wedi i'r dreth godi unwaith. Efallai na fydd symud y Gweinidog a gefnogir gan Corbyn, y Gweinidog a gododd y dreth, i'r brif swydd yn lleddfu ofnau o'r fath. Adroddodd y BBC ar 28 Mawrth sut y gallai Llywodraeth Cymru ochrgamu o gwmpas buddsoddwyr preifat sy'n amharod i dalu ei baich treth cynyddol. Yn ôl y BBC, ar gyfer y Sgwâr Canolog, bydd Llywodraeth Cymru yn prynu'r swyddfeydd ar y safle, felly mae trethiant cosbol yn arwain at wladoli. Bydd Jeremy Corbyn wrth ei fodd.
Er bod gan Lywodraeth Cymru esemptiad y Goron rhag treth dir y dreth stamp a'r dreth trafodiadau tir, y cyngor a gefais gan dîm cyfreithiol y Cynulliad drwy'r Gwasanaeth Ymchwil yw y gallai awdurdodau lleol gael eu trin yn llai hael gan y dreth trafodiadau tir. Os byddant yn prynu eiddo ar y cyd â Llywodraeth Cymru, gallai treth trafodiadau tir fod yn daladwy, ond gallai rhai pryniannau y gallai Cyllid a Thollau EM fod wedi'u heithrio rhag treth dir y dreth stamp fod yn ddarostyngedig i'r dreth trafodiadau tir. Efallai mai'r opsiwn mwy diogel i awdurdodau lleol mewn perthynas ag adfywio bellach fyddai ymostwng i arweiniad Llywodraeth Cymru, a dibynnu ar esemptiad y Goron i Lywodraeth Cymru grynhoi tir ar gyfer yr hyn a ddylai fod yn gynlluniau a ysgogir yn lleol. Rwyf wedi siarad am orsaf fysiau Caerdydd, ond gallai'r goblygiadau fod yn ehangach fel y bydd Suzy Davies yn ei drafod ar gyfer rhanbarth Abertawe.
Yn olaf, rwy'n pryderu'n fawr y gallai Ysgrifennydd y Cabinet fod wedi gwneud camgymeriad difrifol ym mis Ionawr yn ei adroddiad ar bolisi treth Cymru ym mharagraffau 60 a 61. Mae'n cyfaddef y bydd treth trafodiadau tir uwch yn gostwng prisiau a nifer y trafodiadau amhreswyl, ond mae'n dweud wedyn,
Amcangyfrifir maint yr effeithiau hyn gan ddefnyddio effeithiau ymddygiadol y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol, gan ddefnyddio hyblygrwydd treth dir y dreth stamp. Mae seilio ei ragolwg ar gyfrifiadau ledled y DU i gyd yn anwybyddu'n llwyr yr effaith newidiol debygol oddi wrth economi gymharol fach Cymru. Er ei bod yn anodd i fuddsoddwyr y DU ddianc rhag treth dir y dreth stamp sy'n uwch, gallant osgoi treth trafodiadau tir yn llawer haws drwy fuddsoddi ym Mryste neu Birmingham neu Reading, yn hytrach nag yng Nghaerdydd neu yn Abertawe. Rwy'n ofni bod penderfyniadau a chyllideb Ysgrifennydd y Cabinet wedi methu ystyried hynny.
Heddiw, rydym yn trafod y dreth trafodiadau tir a'r gyfradd gosbol o 6 y cant a bennwyd gan Lywodraeth Cymru ar gyfer eiddo masnachol gwerth uwch. Ysgrifennydd y Cabinet, ai dyma sut y bydd pethau gyda'r dreth incwm hefyd?