Part of the debate – Senedd Cymru am 5:14 pm ar 9 Mai 2018.
Croesawaf y cyfle i gymryd rhan yn y ddadl heddiw, ac rwy'n canmol y sawl a'i hagorodd am y sylwadau a wnaeth yn gosod y cefndir ynglŷn â'r ffordd y mae Cymru'n wynebu'r amgylchedd newydd, cyfnod newydd o gyfraddau treth, a'r fantais gystadleuol—neu fel arall, fel y bo'n berthnasol—y mae Cymru ynddo gyda'r cyfraddau y mae'r Llywodraeth yn eu gosod. Mae'n hollol iawn a phriodol i'r Llywodraeth osod y cyfraddau. Rydym yn byw mewn democratiaeth, ac yn seiliedig ar y dystiolaeth sydd ganddynt, a'r galwadau am eu gwasanaethau cyhoeddus a diogelu refeniw cyhoeddus, dyna'n amlwg yw rôl y Gweinidog Cyllid, fel yr amlygodd yn ei lythyr ataf ar 21 Mawrth. Nid ydym yn anghytuno â hynny o gwbl. Y pwynt yr ydym yn ei wneud yn y ddadl heddiw mewn gwirionedd yw bod lefel y trethiant y mae'r Gweinidog wedi dewis ei gosod wedi rhoi Cymru dan anfantais gystadleuol, ac nid y Ceidwadwyr sy'n gwneud y pwynt hwnnw, y diwydiant ei hun sy'n gwneud y pwynt hwnnw gan bron bob syrfëwr masnachol blaenllaw sydd, yn amlwg, wedi bod yn lobïo'r Ysgrifennydd Cyllid ar y mater penodol hwn.
Pan edrychwch ar y manteision economaidd y mae Cymru wedi elwa ohonynt dros y 10 mlynedd diwethaf, mae'n ystyriaeth bwysig i brosiectau yn yr uwch gynghrair o brosiectau dros £50 miliwn, megis campws y bae Prifysgol Abertawe, datblygiad Waterside Caerdydd, 2 Sgwâr Canolog, unedau eiddo'r Llywodraeth yn y Sgwâr Canolog, Friars Walk yng Nghasnewydd, datblygiad Aston Martin, a phentref manwerthu Pen-y-bont ar Ogwr. Buaswn yn awgrymu bod y rhain oll yn brosiectau allweddol sydd wedi helpu i ysgogi a datblygu cyfleoedd economaidd yma yng Nghymru, a'r cyfan â thagiau o £50 miliwn a mwy o fuddsoddiad. Pan ewch i'r sector masnachol i edrych am y lefel honno o fuddsoddiad, nid yw'n afresymol fod y sector yn edrych ar y cynnyrch a gaiff o'r arian y mae'n ei fuddsoddi. Yng Nghymru, rydym yn wynebu amgylchedd cystadleuol iawn i geisio dod â'r datblygwyr hyn draw yr ochr hon i'r dŵr i wneud y penderfyniadau allweddol a'r buddsoddiadau allweddol hynny. Ac yn enwedig nawr, gyda datblygiad democratiaeth leol yn Lloegr, megis y maer ym Mryste, meiri yn Birmingham, Lerpwl a Manceinion, mae yna ffocws penodol yn eu mandadau fel meiri ar ddatblygu amgylchedd cyffrous a deinamig ar gyfer buddsoddi a chyfleoedd i fuddsoddi. Oherwydd, yn amlwg, pan fyddant yn dod gerbron yr etholwyr yn eu cylch pedair blynedd, dyna un o'r meysydd y cânt eu marcio yn eu herbyn i weld a ydynt wedi rhoi mantais gystadleuol i'w cyfryw ardaloedd. Yr hyn a welwn yma yng Nghymru yw'r sector yn amlwg yn dangos nad ydynt yn credu y bydd y gyfradd dreth a bennwyd gan y Gweinidog, drwy bwerau codi treth Llywodraeth Cymru, yn rhoi Cymru—. Ac nid gwleidyddion sy'n dweud hynny, y sector eu hunain sy'n dweud hynny, ac mae'n bwysig gwrando ar yr arbenigwyr yn y maes sydd, yn y pen draw, yn ymdrin â'r cronfeydd buddsoddi mawr a'r cronfeydd pensiwn pan fyddant yn ceisio denu'r lefel honno o fuddsoddiad i Gymru.
Unwaith eto, pan fo'r Ysgrifennydd Cyllid yn canolbwyntio ar y dystiolaeth o adroddiad Prifysgol Bangor, 'Gwaith Craffu Annibynnol ar Ragolygon Refeniw Trethi Datganoledig ar gyfer Cymru' a gomisiynwyd ganddo, yr hyn sy'n destun pryder gwirioneddol yw bod y sector yn dangos yn glir iawn—a darllenais o'r llythyr a anfonasant at y Gweinidog—nad oeddent wedi ymgynghori gyda'r sector o gwbl ar lunio'r adroddiad hwn. Nawr, unwaith eto, rwy'n sylweddoli, yn y llythyr yr anfonodd y Gweinidog ataf ym mis Mawrth, ei fod yn dweud mai ymwneud â lefel y rhagolwg o refeniw trethi oedd adroddiad Ysgol Fusnes Bangor—nid y polisi fel y cyfryw. Ond yn sicr, mae angen i chi gysylltu'r polisi â'r rhagolwg, oherwydd os yw'r polisi'n anghywir, gallai beth bynnag rydych yn ei ragweld fynd o chwith yn ogystal, a gallai'r refeniw yr ydych yn ei ddisgwyl leihau'r pwrs cyhoeddus. Fel y gwelsom yn yr Alban, lle maent wedi mynd am gyfradd is o dreth, bu cynnydd sylweddol yn lefel y dreth a ddaeth i'r gwasanaethau cyhoeddus yn yr Alban—credaf ei fod oddeutu £13.5 miliwn—oherwydd eu bod wedi dewis gosod eu cyfradd dreth trafodiadau tir ar 4.5 y cant er mwyn rhoi mantais gystadleuol iddynt eu hunain dros rannau eraill o'r Deyrnas Unedig.