Part of the debate – Senedd Cymru am 5:37 pm ar 9 Mai 2018.
Diolch, Ddirprwy Lywydd, mae bob amser yn bleser cael dilyn Mike Hedges, ac roedd mor ddewr yn trafod y mater o safbwynt athronyddol. Roedd i'w weld fel pe bai'n dadlau bod y dreth ar dir yn hanfodol ac yn ddychmygol ar un pryd, ond efallai na lwyddais i ddilyn ei resymeg yn arbennig o dda. Roedd gweddill ei berorasiwn ar ddiben a rhyfeddod trethiant, ac rwyf wedi darllen y cynnig yn ofalus, ac ni allaf weld unrhyw beth ynddo sy'n dweud y dylem fod mewn amgylchedd heb unrhyw drethi o gwbl. Yn amlwg, mae treth yn rhan bwysig o sefydlu unrhyw ffurf ar fywyd dinesig, ac fel Ceidwadwyr rydym yn cydnabod hynny. Ond mae'n ymwneud â chael y gwerth gorau a sicrhau nad yw'r gyfundrefn dreth yn llesteirio'r fenter orau sy'n bosibl, ac am hynny y mae'r ddadl y prynhawn yma. Ac mae'n hollol briodol ein bod yn craffu ar y dewisiadau a wnaeth Ysgrifennydd y Cabinet a lle y dylai'r baich treth fod.
Rwy'n meddwl ei bod hi'n well edrych ar y darlun mawr. Bellach, gyda ffurf gymharol radical o ddatganoli yn y Deyrnas Unedig, rhywbeth rwy'n ei gefnogi, mae gennym botensial i gyflwyno lefel o gystadleuaeth economaidd y gallwn ei rheoli i ryw raddau. Hyd yn hyn, rydym wedi cael ein dominyddu'n helaeth gan batrwm economaidd Llundain a de-ddwyrain Lloegr, sy'n pennu normau go gadarn o ran trethiant a pholisi economaidd ehangach, ond gyda datganoli gallwn bellach wneud mwy o'r dewisiadau hyn ein hunain. A dylem ystyried sut y cymharwn ag awdurdodaethau eraill yn y Deyrnas Unedig; dyna'r peth rhesymegol i'w wneud. O edrych ar y darlun cyfan, onid yw'n well inni ddweud, 'Dewch i Gymru, dyma'r lleoliad mwyaf ystyriol o fusnesau yn y Deyrnas Unedig'?
Siaradodd fy nghyd-Aelod Suzy Davies am farchnadoedd rhentu yn Llundain, ac nid oes neb un anghytuno bod eiddo masnachol yn ddrutach o lawer yn Llundain, ond ein cystadleuwyr am y gweithgarwch economaidd sy'n cael ei wthio allan o Lundain a de-ddwyrain Lloegr yw Manceinion, Newcastle, Lerpwl, a dyna'r ardaloedd y byddwn bellach yn gweld buddsoddwyr yn dianc iddynt, lle y gallent fod wedi dod i Gymru. Ac rwy'n credu bod angen rhoi ystyriaeth ddifrifol i'r pwynt hwn. Nid yw'n neges dda i ddweud, 'Dewch i Gymru a byddwch yn sicr yn talu mwy o dreth trafodiadau tir nag y byddech yn yr Alban neu yn Lloegr'.
Fy ngweledigaeth economaidd ar gyfer Cymru yw inni ddefnyddio'r adnoddau sydd mewn rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig yn ogystal. Rwy'n credu'n gryf y bydd yn gweithio er budd Llundain a de-ddwyrain Lloegr os daw mwy o weithgaredd economaidd i rannau eraill o'r Deyrnas Unedig, ac roedd hyn yn rhan fawr o'r symud a welsom mewn polisi cyhoeddus ar ôl 2010 ac ethol Llywodraeth dan arweiniad y Ceidwadwyr. Mae angen inni ailgydbwyso economi'r Deyrnas Unedig yn ei chyfanrwydd. Dylem weld Llundain fel adnodd. Dylai fod gennym fwy o bresenoldeb yn Llundain. Roeddwn bob amser yn feirniadol braidd o safbwynt fy mhlaid ynglŷn â'n llysgenhadaeth fasnachol, neu beth bynnag y'i gelwir gennym bellach, yn Llundain. Ymddangosai i mi y dylai fod wedi bod yn fwy mawreddog ac amlwg ac uchelgeisiol wrth fynd allan a defnyddio Llundain fel ffordd o ddenu busnes, nid yn unig yr hyn sy'n cael ei wthio allan o Lundain, ond y buddsoddwyr sy'n dod i Lundain i fuddsoddi yn economi Prydain o dramor hefyd.
A gaf fi gynnig i'r Gweinidog, oherwydd fe'i gwelaf yn ysgwyd o dan lach ein beirniadaeth—? [Chwerthin.] Rwy'n edmygu Ysgrifennydd y Cabinet yn fawr, ac yn dymuno'n dda iddo yn ei uchelgais ar gyfer y dyfodol fel—. Rwyf am gynnig—[Torri ar draws.] Rwyf am gynnig—[Torri ar draws.] Rwyf am gynnig—[Torri ar draws.] Rwyf am gynnig rhyw damaid o ffordd allan iddo—