Part of the debate – Senedd Cymru am 5:54 pm ar 9 Mai 2018.
Wel, Ddirprwy Lywydd, wrth gwrs fy mod wedi clywed y sylwadau a wnaed gan rai yn y sector datblygu. Rwyf fi, a fy swyddogion ar wahân, wedi cyfarfod â'r rhai sydd â phryderon, a bydd yr ymgysylltiad hwnnw'n parhau. Nododd Andrew R.T. Davies eu pryderon yn deg iawn yn ei gyfraniad gwreiddiol ac wrth gwrs y byddaf yn gwrando ac yn parhau i wrando arnynt. Nid oes amheuaeth fod Llywodraeth y DU, ei Lywodraeth ef, yn 2016, yn ei chyllideb, pan gododd y gyfradd uchaf o dreth ar drafodiadau annomestig 25 y cant—nid yr 20 y cant arswydus y soniodd Mark Reckless amdano wrth agor, ond 25 y cant—Canghellor Ceidwadol yn gwneud hynny, ac yna roedd yn dibynnu ar yr hyn y dywedai dogfen y gyllideb wrtho, fod y newidiadau hyn yn sicrhau bod busnesau sy'n prynu'r rhydd-ddaliadau a'r prydlesi uchaf eu gwerth yn gwneud cyfraniad mwy gan sicrhau toriad yn y dreth i'r prynwyr, sef busnesau llai yn aml, sy'n prynu eiddo llai drud; yr un dadansoddiad yn union ag a wnaethom yma yng Nghymru.
Dywedai dogfen gyllideb y Canghellor Ceidwadol, pan gododd gyfradd uchaf y dreth ar eiddo 25 y cant yn y gyllideb honno, nad oedd disgwyl i'r cam hwn gael unrhyw effeithiau macroeconomaidd sylweddol. Pan wneir y pethau hyn gan Ganghellor Ceidwadol, maent yn codi ar eu traed a chymeradwyo. Pan gânt eu gwneud gan Lywodraeth Cymru yma yng Nghymru, mae'r byd i gyd ar fin disgyn ar eu hysgwyddau.
Clywais hefyd, Ddirprwy Lywydd, o'r sector busnes, fod busnesau, pan gafodd y dreth trafodiadau tir ei datblygu, wedi pwysleisio pwysigrwydd sefydlogrwydd a sicrwydd. Byddai ystyried newid y cyfraddau ar ôl mis o weithredu'n unig, heb ragor o dystiolaeth am effaith y cyfraddau hyn, yn gynamserol ac yn creu ansefydlogrwydd ac ansicrwydd a allai fod, ynddo'i hun, yn niweidiol i'r economi yng Nghymru. Felly, yr hyn a wnaf yw'r hyn a ddywedais dro ar ôl tro yn y Siambr hon: byddwn yn edrych ar y dystiolaeth go iawn, nid y dystiolaeth ddyfaliadol, nid y pethau sy'n cael eu dweud ymlaen llaw ynglŷn â'r hyn y gallai'r effaith fod; byddwn yn gweld y dystiolaeth go iawn o drafodiadau ac yn rhoi ystyriaeth ofalus iawn i'r dystiolaeth honno. O ganlyniad i'r gwelliannau a hyrwyddwyd gan ein cyd-Aelod Steffan Lewis yn ystod hynt y Bil, ceir gofyniad deddfwriaethol i sicrhau adolygiad annibynnol o'r dreth trafodiadau tir yn y dyfodol. Yn y cyfamser, bydd ystyriaeth o'r dystiolaeth sy'n dod i'r amlwg yn rhan o bob cylch cyllidebol, ac mae hynny'n arbennig o bwysig ar gyfer treth sydd newydd ei dechrau.