Part of the debate – Senedd Cymru am 5:57 pm ar 9 Mai 2018.
Lywydd, bydd y Llywodraeth yn gwrthwynebu cynnig y Ceidwadwyr heddiw. Rydym yn falch o gefnogi gwelliannau Plaid Cymru. Rydym eisoes yn ymrwymedig i gadw'r holl drethi y mae gennym gyfrifoldeb drostynt dan adolygiad. Byddwn yn ceisio gwneud hynny ar y cyfle ymarferol cyntaf ac yn bwysicaf oll, byddwn yn gwneud hynny ar sail y dystiolaeth go iawn na all ond profiad yn unig ei darparu.