Cynlluniau Adfywio yng Ngorllewin De Cymru

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:51 pm ar 15 Mai 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of David Lloyd David Lloyd Plaid Cymru 1:51, 15 Mai 2018

(Cyfieithwyd)

Diolch am yr ateb yna, Prif Weinidog. Nawr, yn amlwg, mae bargen ddinesig bae Abertawe yn hollbwysig i geisio datblygu swyddi yn y de-orllewin, ac eto flwyddyn ar ôl y cytundeb bargen ddinesig gan Lywodraeth y DU, ac er gwaethaf y cytundeb gan Lywodraeth Cymru y gall awdurdodau lleol gadw 50 y cant o unrhyw gynnydd i ardrethi busnes, ceir pryderon o hyd ynghylch cyllid a llywodraethu, yn fwyaf nodedig gan gyngor Castell-nedd Port Talbot. Felly, beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud felly i fynd i'r afael â'r pryderon hynny, a pha mor hyderus ydych chi y gall cytundeb cydweithio gael ei gwblhau a'i gytuno gan yr awdurdodau lleol yn y dyfodol agos?