Mawrth, 15 Mai 2018
Cyfarfu’r Cynulliad am 13:30 gyda’r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.
Yr eitem gyntaf ar ein hagenda'r prynhawn yma yw'r cwestiynau i'r Prif Weinidog, a'r cwestiwn cyntaf, Dawn Bowden.
1. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am fuddsoddi mewn twristiaeth ym Merthyr Tudful a Rhymni? OAQ52176
2. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gefnogaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer chwaraeon a ffitrwydd yng Nghasnewydd? OAQ52164
Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood.
3. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gynlluniau adfywio yng Ngorllewin De Cymru? OAQ52206
4. Beth y mae Llywodraeth Cymru'n ei wneud i gefnogi undebau credyd? OAQ52204
5. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am fargen dinas-ranbarth Bae Abertawe? OAQ52203
6. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am berfformiad y gwasanaeth ambiwlans? OAQ52202
7. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ddarparu gofal iechyd yng nghanolbarth Cymru? OAQ52186
8. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gefnogaeth i borthladd Caergybi? OAQ52207
9. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynyddu'r ddapariaeth o addysg feddygol ym Mhrifysgol Bangor? OAQ52201
Yr eitem nesaf yw'r datganiad a chyhoeddiad busnes ac rydw i'n galw ar arweinydd y tŷ i wneud ei datganiad—Julie James.
Yr eitem nesaf, felly, yw'r cynnig cydsyniad deddfwriaethol ar Fesur yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael). Rydw i'n galw ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid i wneud y cynnig—Mark Drakeford.
Yr eitem nesaf ar yr agenda yw'r datganiad gan arweinydd y tŷ ar Ddiwrnod Rhyngwladol yn erbyn Homoffobia, Deuffobia a Thrawsffobia, a galwaf ar arweinydd y tŷ i wneud ei datganiad....
Yr eitem nesaf yw'r datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid ar dreth tir gwag. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, Mark Drakeford.
Eitem 6 yw datganiad gan arweinydd y tŷ: y newyddion diweddaraf ynghylch cysylltedd digidol yng Nghymru. Galwaf ar arweinydd y tŷ i wneud y datganiad—Julie James.
Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliannau 1 a 2 yn enw Paul Davies, a gwelliant 3 yn enw Rhun ap Iorwerth.
Dyma ni'n cyrraedd y cyfnod pleidleisio. Oni bai bod tri Aelod yn dymuno i mi ganu'r gloch, byddaf yn galw'r bleidlais gyntaf. Y bleidlais gyntaf yw'r bleidlais ar y cynnig cydsyniad...
Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch ymchwilio i gamfanteisio ar weithwyr gwasanaethau golchi car yng Nghymru?
Senedd Cymru (Saesneg: Welsh Parliament) neu'r Senedd yw'r corff datganoledig sy'n cael ei ethol yn ddemocrataidd i drafod polisïau ac sy'n cymeradwyo deddfwriaeth sy'n ymwneud â Chymru. Rhan o'i waith yw dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif. Rhwng mis Mai 1999 a mis Mai 2020, enw'r sefydliad oedd Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Saesneg: National Assembly for Wales). – Wicipedia