Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:06 pm ar 15 Mai 2018.
A gaf i ymuno â'r Aelod i roi fy ngwerthfawrogiad, fy ystyriaeth a'm diolch, yn wir, i'r staff ambiwlans am yr hyn y maen nhw'n ei wneud i achub bywydau ddydd ar ôl dydd yng Nghymru? Gallaf ddweud bod adnoddau sylweddol wedi eu buddsoddi yn y blynyddoedd diwethaf, gyda'r nod o sicrhau bod nifer y staff rheng flaen yn cael ei gynyddu, yn y canolfannau rheoli ac, yn wir, ar y ffordd. Mae gennym ni'r nifer uchaf erioed o staff, a dweud y gwir, wedi eu cyflogi yn y gwasanaeth. Yn ôl ym mis Hydref, cyhoeddwyd buddsoddiad o £8.2 miliwn gennym i alluogi gwasanaeth ambiwlans Cymru i barhau i uwchraddio'r fflyd bresennol, sy'n dod â chyfanswm y buddsoddiad mewn cerbydau ambiwlans newydd ers 2011 i bron i £45 miliwn.