Y Gwasanaeth Ambiwlans

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:01 pm ar 15 Mai 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 2:01, 15 Mai 2018

(Cyfieithwyd)

Gwnaf. Mae gwasanaeth ambiwlans Cymru yn parhau i ddarparu gwasanaeth hynod ymatebol i bobl Cymru er gwaethaf lefelau uwch nag erioed o alw. Ym mis Mawrth, cafodd 69.6 y cant o alwadau lle'r oedd bywyd yn y fantol ymateb o fewn wyth munud, gydag amser ymateb nodweddiadol o bum munud a 29 eiliad.