Addysg Feddygol ym Mhrifysgol Bangor

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:15 pm ar 15 Mai 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 2:15, 15 Mai 2018

Wel, fe allaf i roi'r ymrwymiad hwnnw. Mae'n bwysig i Fangor weithio gyda Chaerdydd ac Abertawe er mwyn cael mynediad i ysbytai mawr y de hefyd, er mwyn rhoi addysg gyflawn i unrhyw ddoctor sydd yn hyfforddi. Yr opsiwn arall yw gweithio gyda Lerpwl. Wel, i mi, mae'n well ein bod ni'n creu system addysg Gymreig ynglŷn a meddyginiaeth rhwng y de a'r gogledd. Mae'r gwaith yna yn parhau ac, unwaith y bydd y gwaith yn barod, rwy'n siŵr bydd yna ddatganiad yn cael ei wneud.