Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:03 pm ar 15 Mai 2018.
Prif Weinidog, dros dri mis y gaeaf, bu'n rhaid i 1,860 o bobl a ddosbarthwyd yn ambr, a byddwch yn gwybod bod hyn yn cynnwys pobl sy'n dioddef strôc neu drawiad ar y galon, aros dros chwe awr am eu hambiwlans. Nawr, does bosib bod hyn yn annerbyniol ac mae angen i ni sicrhau, y gaeaf nesaf, bod rhai o'r safonau sylfaenol iawn hyn yn cael eu bodloni.