Part of the debate – Senedd Cymru am 2:36 pm ar 15 Mai 2018.
Mae gen i ddau fater yr hoffwn i eu codi efo chi, os gwelwch yn dda. Y cyntaf: yn y cytundeb cyllideb rhwng Plaid Cymru a Llafur, fe neilltuwyd £2 filiwn tuag at hyrwyddo cydweithio rhwng siroedd y gorllewin ar faterion strategol ieithyddol ac economaidd. Yn anffodus, mae yna ddryswch o hyd ynglŷn â pha Ysgrifennydd Cabinet sydd â chyfrifoldeb dros y cynllun pwysig yma, neu o leiaf nid ydym yn gallu cael y wybodaeth honno. A fedrwch chi ysgrifennu ataf fi, tybed, efo eglurder ynglŷn â hynny? Mae gan Blaid Cymru gynllun sydd wedi cael ei ddatblygu efo arweinwyr llywodraeth leol, ac mae angen i hwn gael ei roi ar waith cyn gynted â phosib.
Yr ail beth ydy’r cyhoeddiad yr wythnos ddiwethaf bod awdurdod tân ac achub y gogledd yn wynebu toriadau cyllid sylweddol, a bod yna nifer o opsiynau wedi cael eu cyflwyno, yn cynnwys torri ar wasanaethau yn fy etholaeth i. Ar hyn o bryd, rwy’n deall bod yna ymgynghoriad yn mynd ymlaen ynglŷn â llywodraethiant ac ariannu, ac efallai byddai’n gwneud mwy o synnwyr i hwnnw ddigwydd yn gyntaf cyn bod unrhyw doriadau yn dod. Felly, a gawn ni ddatganiad gan eich Llywodraeth chi am ddyfodol y gwasanaethau tân ac achub ar draws Cymru, os gwelwch yn dda?