Part of the debate – Senedd Cymru am 3:05 pm ar 15 Mai 2018.
Diolch, Llywydd. Mae'r Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol wedi bod yn ystyried y camau deddfwriaethol angenrheidiol ar gyfer Brexit ers tymor yr hydref 2016 ac wedi ystyried Bil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) yn fanwl. Ddoe, gwnaethom ni gyhoeddi ein trydydd adroddiad ar y Bil, wrth baratoi ar gyfer y ddadl heddiw. Gobeithiaf fod Aelodau wedi cael cyfle i edrych arno. Mewn cyhoeddiad cynharach ar y Bil, bydd yr Aelodau'n cofio y gwnaethom ni osod chwe amcan yr oeddem ni'n credu bod angen eu bodloni er mwyn diogelu ein setliad datganoli a hawliau'r Cynulliad. Ac fe wnaf i atgoffa Aelodau o beth oedden nhw: dileu cyfyngiad cymal 11 ar y setliad datganoli; sicrhau bod Gweinidogion Cymru a'r Cynulliad yn gyfrifol am gywiro pob agwedd o gyfraith sy'n deillio o'r UE mewn meysydd cymhwysedd datganoledig; sicrhau bod pwerau sydd ar gael i Weinidogion Cymru o dan y Bil yn gyfyngedig iawn ac yn llawer llymach na'r rhai a nodir ar hyn o bryd yn y Bil; atal Gweinidogion y DU a Chymru rhag diwygio agweddau ar gyfraith sy'n deillio o'r UE sy'n effeithio ar Gymru, oni bai eu bod wedi eu cadw yn ôl; atal Gweinidogion y DU rhag diwygio Deddf Llywodraeth Cymru drwy ddefnyddio pwerau dirprwyedig; ac, yn olaf, i sicrhau bod y Cynulliad yn gallu gwneud ei drefniadau craffu ei hun.
Yn sgil cytundeb rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU ynglŷn â chymal 11 o'r Bil, fel y'i rhifwyd pan gafodd ei gyflwyno i Dŷ'r Arglwyddi, a'r gwelliannau cysylltiedig i'r Bil a wnaed yn Nhŷ'r Arglwyddi, rydym ni wedi pwyso a mesur y cynnydd a wnaed o ran pob un o'r chwe amcan. Mae'n deg i ddweud, mewn rhai meysydd, fod cynnydd sylweddol wedi'i wneud. Mae hi yr un mor deg dweud nad yw ein hamcanion ni wedi'u bodloni yn llawn ym mhob maes. Ond a gaf i hefyd atgoffa'r tŷ y bu gennym ni amcanion a aeth ymhellach na barn wreiddiol Llywodraeth Cymru?
Mae amcan 1 yn greiddiol i gynnig heddiw, a oedd i gael gwared ar gyfyngiad cymal 11 ar y setliad datganoli. Mae cynnydd sylweddol wedi'i wneud o ran cyflawni'r amcan hwn wrth edrych yn ôl ar y man cychwyn oedd yn ein hwynebu pan gyflwynwyd y Bil. Mae Llywodraeth y DU bellach yn derbyn na all osod cyfyngiad cyffredinol ar gymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad mewn meysydd lle mae fframweithiau polisi Ewropeaidd yn bodoli ar hyn o bryd, ac mae dull ar gyfer sicrhau y gall y Cynulliad ystyried a ddylai roi cydsyniad i unrhyw gyfyngiadau a roddir dros dro ar ei gymhwysedd. Fodd bynnag, golyga sofraniaeth seneddol, mewn amgylchiadau lle mae'r Cynulliad wedi gwrthod ei gydsyniad, y gallai'r Senedd barhau i osod cyfyngiad ar ein cymhwysedd deddfwriaethol. Yn ogystal â hyn, rhoddodd y dull a sefydlwyd gan y gwelliannau diweddar i'r Bil lawer o ddyletswyddau ar Weinidogion Cymru i hwyluso'r Cynulliad i ystyried y cyfyngiadau arfaethedig neu i gyfleu penderfyniadau y Cynulliad. Cawsom farn ynglŷn â beth y gallai'r Cynulliad ei wneud i gryfhau'r agwedd hon ar y dull ac fe wnaf i siarad am hynny ychydig yn ddiweddarach.
Gwnaed cynnydd sylweddol ar yr ail amcan. Y gwaharddiad hwn, yn y Bil fel y'i cyflwynwyd, ar Weinidogion Cymru yn addasu cyfraith yr UE sy'n uniongyrchol berthnasol, sy'n cynnwys llawer o'r gyfraith sy'n ymwneud â'r polisi amaethyddol cyffredin a'r cronfeydd strwythurol, oedd y gwahaniaeth mwyaf rhwng pwerau Gweinidogion y DU a Chymru. Mae hwn wedi'i ddileu, yn amodol ar y dull newydd o ran cyfyngu ar gymal 11.
O ran ein trydydd amcan, daethom i'r casgliad er nad yw hynny wedi ei fodloni yn llawn, rydym ni yn cydnabod bod y pwerau gweinidogol yn fwy cyfyng. Fodd bynnag, maen nhw'n parhau i fod yn eang ac mae'r Bil yn dirprwyo pwerau sylweddol i'r Weithrediaeth, gyda rheolaethau cyfyngedig.
Ni chyflawnwyd amcan 4, ac rydym ni'n arbennig o siomedig nad oedd unrhyw ddarpariaeth ar gyfer cydsyniad y Cynulliad wedi'i wneud ar gyfer amgylchiadau lle mae Llywodraeth y DU yn dymuno defnyddio ei bwerau mewn meysydd polisi sydd wedi eu datganoli i Gymru.
Er nad yw ein pumed amcan wedi'i fodloni yn llawn, gwnaed cynnydd sylweddol o ran diogelu Deddf Llywodraeth Cymru. Fodd bynnag, mae pryderon o hyd ynghylch pwerau Llywodraeth y DU i weithredu'r cytundeb ymadael, a rhaid inni beidio â cholli golwg ar y ffaith honno.
Ac, yn olaf, diben amcan 6 oedd sicrhau y gall y Cynulliad bennu ei drefniadau craffu ei hun.
Talaf deyrnged i'r gwaith pwysig y mae'r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol wedi ei wneud yn hyn o beth, ac yn arbennig yr argymhellion ar gyfer sefydlu pwyllgor sifftio, a gymeradwywyd gan y Cynulliad hwn. Rydym ni'n credu, yn yr amgylchiadau, fod gweithredu'r trefniadau craffu a ffefrir gan y Cynulliad drwy welliannau i'r Bil yn gyfaddawd ymarferol, ond nad yw'n amharu ar ein hymrwymiadau i egwyddor y chweched amcan. Fodd bynnag, rydym ni yn siomedig bod Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU wedi dewis peidio â gweithredu holl ystod y trefniadau craffu y cytunwyd arnyn nhw yn unfrydol gan y Cynulliad hwn ar 7 Mawrth, ac yn disgwyl i'n Pwyllgor Busnes gywiro hyn yn ei gynnig i newid y Rheolau Sefydlog.
O'r asesiad hwn o'n chwe amcan, gallwch weld bod y cytundeb rhynglywodraethol a'r Bil diwygiedig wedi creu sefyllfa gryfach ar gyfer y Cynulliad nag o dan y Bil fel y'i drafftiwyd yn wreiddiol. Ond mae hi yn wir i ddweud nad ydyn nhw yn dileu yn llwyr y peryglon a amlygwyd gennym ni o'r blaen. Erys tasg sylweddol ar gyfer y Cynulliad hwn. Ac os rhoddir caniatâd heddiw, bydd yn rhaid inni yn y Siambr hon ddefnyddio'r dulliau gweithdrefnol sydd ar gael inni er mwyn sicrhau ein bod yn chwarae ein rhan lawn yn y broses o reoli cymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad yn y misoedd a'r blynyddoedd i ddod.
Yn ein hadroddiad, rydym ni yn argymell bod y Pwyllgor Busnes yn ystyried yr achos dros ddiwygio'r Rheolau Sefydlog i osod dyletswyddau ychwanegol ar Weinidogion Cymru: i sicrhau y manteisir i'r eithaf ar y cyfle i graffu ar unrhyw gyfyngiadau ar ein cymhwysedd deddfwriaethol arfaethedig; y cawn ni o leiaf yr un maint o wybodaeth â'r Senedd ynglŷn â hyn, ac ar yr un pryd; a'i bod hi'n ofynnol i Weinidogion Cymru gyfleu penderfyniad y Cynulliad ynglŷn â chydsyniad ar gyfer cyfyngiadau dros dro ar ei gymhwysedd deddfwriaethol. Ddoe, yn ein cyfarfod pwyllgor, ymrwymodd y Prif Weinidog i ddarparu materion o'r fath ar y pwyntiau uchod, a gobeithiaf y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn ailddatgan y sicrwydd hwnnw i'r Cynulliad y prynhawn yma.
Wrth wraidd y cytundeb rhynglywodraethol hwn mae proses rhyngseneddol. Rydym ni hefyd yn dod i'r casgliad yn ein hadroddiad y byddai cyfathrebu cryfach rhwng deddfwrfeydd yn rhoi sicrwydd ychwanegol ynghylch y broses, gan osgoi'r angen i ddibynnu ar ffynonellau llywodraethol o wybodaeth yn unig. Rwy'n bwriadu crybwyll y mater hwn ar gyfer y drafodaeth yn y fforwm rhyngseneddol nesaf ynglŷn â Brexit.
Pan gyflwynir y rheoliadau drafft sy'n cynnig cyfyngiadau ar ein cymhwysedd deddfwriaethol ar gyfer craffu, mae angen inni sicrhau bod gennym ni'r gweithdrefnau cywir ar waith i graffu arnynt yn drylwyr. Heb ymyrryd yn y gwaith pwysig y mae'r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol yn ei wneud yn y maes hwn, rydym ni'n credu y bydd swyddogaeth ar y cyd ar gyfer pwyllgorau'r Cynulliad yn craffu ar y rheoliadau drafft hyn, os ydym ni'n mynd i arfer yr ystod lawn o arbenigedd technegol a pholisi wrth eu trin. A gyda chaniatâd y Llywydd, byddwn efallai yn trafod hyn yn un o fforymau y Cadeiryddion y dyfodol.
Cyn hir bydd angen inni bleidleisio ar un o'r penderfyniadau mwyaf sylweddol i'r Cynulliad ei wynebu ac yn y broses Brexit. Gobeithio drwy gydol ein hystyriaeth o'r Bil ymadael ein bod ni wedi ceisio sicrhau y caiff swyddogaeth y Cynulliad a'r pwerau sydd wedi'u datganoli i Gymru eu hamddiffyn yn y broses Brexit. Rydym ni'n gobeithio y bydd ein hadroddiad yn helpu Aelodau i benderfynu a ddylid rhoi caniatâd deddfwriaethol y prynhawn yma yn cefnogi rhoi'r cydsyniad deddfwriaethol ai peidio. Ond beth bynnag yw canlyniad y bleidlais heddiw, byddwn, fel pwyllgor, yn parhau i wneud popeth y gallwn ni i warchod buddiannau Cymru yn y broses Brexit ac i ddwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif am ei gweithredoedd.