3. Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael)

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:16 pm ar 15 Mai 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of David Lloyd David Lloyd Plaid Cymru 3:16, 15 Mai 2018

(Cyfieithwyd)

Ond o ran—. Does dim cydraddoldeb rhwng y gwledydd datganoledig a Lloegr o ran deddfu. Yn y meysydd datganoledig ar gyfer Lloegr, mae hynny'n rhan o'r cytundeb rhynglywodraethol, sy'n wleidyddol ac nid yn gyfreithiol, tra bod unrhyw ddeddfwriaeth mewn meysydd datganoledig ar gyfer Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon yn rhan o ddeddfwriaeth, felly mae'r driniaeth yn wahanol.