Part of the debate – Senedd Cymru am 3:19 pm ar 15 Mai 2018.
Rwy'n falch o gefnogi'r cynnig sydd gerbron y Cynulliad y prynhawn yma. Fel y noda adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, mae'r cytundeb rhynglywodraethol yn ganolog i'r argymhelliad i gymeradwyo'r cynnig cydsyniad deddfwriaethol, ac rwyf eisiau dychwelyd at hynny yn ddiweddarach. Hyn, ynghyd â'r gwelliannau i'r cymal 11 gwreiddiol. Fel y noda adroddiad y pwyllgor:
'Mae'r gwelliannau a gyflwynwyd gan Weinidogion y DU i gymal 11 o'r Bil yn gam pwysig ymlaen ac maent yn dangos bod Llywodraeth y DU wedi bod yn barod i newid cyfeiriad.'
A dywedodd y pwyllgor hefyd, ac fe gyfeiriwyd at hyn eisoes, fod
'grym confensiwn Sewel wedi dod i'r amlwg wrth i'r Bil a'r trafodaethau cysylltiedig fynd yn eu blaen'.
Rwy'n wirioneddol gredu bod y broses hon o negodi anodd er clod i Lywodraeth y DU a hefyd i Lywodraeth Cymru. Dyma'r hyn a ddisgwyliwn mewn meysydd cyfansoddiadol anodd, nad oedd llawer ohonom ni fyth eisiau eu gweld yn digwydd a ble mae llawer o'r heriau wedi bod yn annisgwyl. Ond mae'n amlwg y bu gwaith adeiladol ar y ddwy ochr ac mae hyn wedi dwyn ffrwyth.
Mae'n amlwg i mi y sicrhaodd Llywodraeth Cymru gonsesiwn pwysig a chyfansoddiadol arwyddocaol gan Lywodraeth y DU o ran y ffordd y caiff cyfraith yr UE ei ddargadw hyd nes y cytunir ar fframweithiau ar gyfer y DU. Caniatewch imi ddyfynnu eto o adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol:
'Mae'r sefyllfa bresennol, lle y cedwir cyfraith yr UE am y tro yn y sefydliadau datganoledig ac yn Lloegr, yn ddatblygiad arwyddocaol.'
Rwy'n wirioneddol gredu bod negodi Llywodraeth Cymru yn y maes hwn wedi bod yn arwyddocaol iawn ac yn amlwg wedi cael effaith ar y ddadl yn yr Alban.
Yn union ar ôl y bleidlais Brexit, a oedd yn fandad democrataidd o bwysigrwydd cyfansoddiadol mawr—ni phleidleisiais i drosto, ond allwn ni ddim gwadu ei bwysigrwydd—cafwyd consensws cryf y byddai angen fframweithiau ar gyfer y DU yn ei chyfanrwydd pan fyddem yn gadael yr UE. Mae'n ymddangos i mi mai'r angen, er budd y cyhoedd i raddau helaeth iawn, i adeiladu fframweithiau oedd yr egwyddor ysgogol sydd wedi bod yn cymell Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU. Yn anffodus, buddiannau gwleidyddol cul fu cymhelliant Plaid Cymru a'r SNP. Ar yr un llaw, maen nhw'n dweud bod angen fframweithiau arnom ni, ond ar y llaw arall, y dylai'r Alban, a Chymru, yn ôl pob tebyg, gael pleidlais atal.
Mae'n briodol nodi yma nad yw fframweithiau yr UE yn gweithredu ar sail pleidlais atal genedlaethol. Maent yn gweithredu drwy negodi, gyda'r gallu i ddefnyddio pleidleisio mwyafrifol os oes angen. Efallai bod y cyhoedd ymhell ar y blaen i'r cenedlaetholwyr. Maen nhw'n sylweddoli bod angen ymarferol am gyd-lywodraethu, sy'n ymwneud â'r amgylchedd a ffermio, er enghraifft. Ymddengys nad oes fawr o gefnogaeth yn yr Alban neu yng Nghymru ar gyfer yr agenda genedlaetholgar gul ynglŷn â'r broses o gytuno ar y fframweithiau.