3. Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael)

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:54 pm ar 15 Mai 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 3:54, 15 Mai 2018

(Cyfieithwyd)

Dim ond i grybwyll rhywbeth y dywedodd yr Ysgrifennydd Cyllid yn gynharach, yn y bôn, dywedodd fod angen inni gydnabod, wrth ystyried y gwahanol ddewisiadau a wnaed yng Nghymru a'r Alban, bod Cymru wedi pleidleisio i adael yr Undeb Ewropeaidd, tra pleidleisiodd yr Alban i aros. Mae hynny, i mi, yn swnio fel cyfaddefiad, o ran beth mae'n ei olygu ar gyfer datganoli, bod yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei dderbyn yn israddol i'r hyn y mae Llywodraeth yr Alban wedi penderfynu parhau i ymladd drosto. Sut mae'r Llywodraeth hon yn credu bod ganddi bellach yr hawl i benderfynu mai'r hyn a olygodd pleidlais 'ymadael' oedd pleidlais i danseilio datganoli?