Part of the debate – Senedd Cymru am 5:09 pm ar 15 Mai 2018.
A gaf i groesawu datganiad Ysgrifennydd y Cabinet heddiw? Mae'n siŵr ei bod yn rhaid ichi fod yn gallu troi eich llaw at bob dim yn y byd treth newydd, onid oes, Ysgrifennydd y Cabinet? Mae llawer o'r trethi yn ymwneud â thir mewn rhyw ffordd neu'i gilydd, felly rwy'n siŵr eich bod yn mynd yn arbenigwr yn eich rhinwedd eich hun.
Fel yr oeddech chi'n dweud heddiw, mae hwn yn dir newydd i Lywodraeth Cymru ac i'r Cynulliad hwn, ac rwy'n deall bod eich datganiad heddiw mewn dwy ran, yn bennaf, fel yr ydych chi wedi'i esbonio. Felly, mae gennych chi brawf ar y peiriant treth newydd drwy gyfrwng y mecanweithiau ar y naill law, y gellir eu defnyddio gyda threthi eraill wedyn, wrth gwrs, ac yna'r dreth wirioneddol, y dreth tir gwag, ar y llall arall—y dreth yr ydych wedi penderfynu symud ymlaen â hi. Mae'r rhan hon o'r broses—trydedd ran y broses—cyn bwysiced â datblygu'r dreth ei hun.
Mae'n debyg mai fy nghwestiwn cyntaf yw: pa fath o amserlen yr ydych yn edrych arni yma? Fel y dywedaf, rwy'n sylweddoli mai dyddiau cynnar yw'r rhain ac ni allwch fod yn fanwl gywir ynglŷn â hynny, ond, mae'n amlwg ein bod ar ddechrau'r broses ac nid ydym wedi bod drwy hyn o'r blaen. Pa fath o amserlen fras a ragwelwch fydd gan bob un o'r gwahanol rannau hyn o'r broses, er mwyn cyrraedd y pwynt y penderfynir ar y dreth neu beidio? Fel y dywedaf, rwy'n deall y ceir nifer o rwystrau i neidio drostyn nhw cyn daw'r ateb i hynny. Rydych wedi sôn am y gwahanol hawliau sy'n ofynnol gan y Cynulliad a Dau Dŷ’r Senedd, ond os gwireddir hynny i gyd yn ôl y cynllun, pryd ydych chi'n tybio y gwelir treth newydd yn dod i rym?
A chan droi at y dreth ei hun, mae'n amlwg, mewn llawer o ffyrdd, nad oes dedfryd eto oherwydd mae nifer o wahanol lefelau o graffu i fynd drwyddyn nhw cyn y gellid penderfynu ar hynny, a byddai gwelliannau iddi a beth fynnwch chi. Rwyf i o'r farn, o'r hyn a welais i, fod rhai rhesymau cadarn dros weithredu treth ar dir gwag, ac rydych wedi cyffwrdd â rhai o'r dadleuon hynny heddiw. Rwyf wedi edrych ar yr ystadegau, ac amcangyfrifir bod datblygwyr tai'r DU yn dal eu gafael ar oddeutu 600,000 o leiniau o dir sydd wedi cael caniatâd cynllunio ond heb eu datblygu hyd yn hyn. Credaf fod ystadegau Cymru ar flaenau eich bysedd. Nid oedd y rheini gennyf i—cefais rai ar lefel y DU, ac mae'n amlwg fod swm aruthrol o dir ar hyn o bryd yn y banc.
Yn ôl y Gofrestrfa Tir, mae hynny hefyd yn cynnwys yr arfer o brynu tir nas datblygwyd gyda'r bwriad o'i rannu'n lleiniau llai ac yna ei werthu am brisiau uwch—arfer sydd wedi bodoli ers cryn amser, rwy'n siwr. Wrth gwrs, os yw hynny'n digwydd, mae'n golygu y bydd pobl sy'n aros am dai, ac yn aros am dai i gael eu hadeiladu, yn gorfod aros am fwy o amser nag y byddent fel arall oherwydd hynny. Mae'r posibilrwydd—. Fe ddylwn ddweud bod y pwyslais ar werth posibl tir yn y dyfodol yn erbyn y pris gwerthu presennol. Mae'n ddrwg gennyf— rhan olaf y frawddeg na lwyddais i'w gorffen oedd honno.
Mae Llywodraeth y DU wedi dweud y byddan nhw'n edrych ar yr holl faes hwn eu hunain. A ydych yn cysylltu â nhw ynglŷn â hynny, neu â'r swyddogion yn San Steffan? Mae'n debyg mai'r allwedd i'r cwestiwn hwn, a'r allwedd i ddatblygu'r holl drethi, yw: a ydych yn hyderus fod y dreth yr ydych yn ei chynnig yn angenrheidiol mewn gwirionedd—a fydd hi'n datrys y materion yr ydym ni'n mynd i'r afael â nhw? Rwy'n llwyr ddeall yr hyn yr ydych yn ei ddweud am dreth yn offeryn gwerthfawr i newid arferion, ond, wrth gwrs, nid treth yw'r unig ddewis. Nid oes raid ichi ddefnyddio'r offeryn sydd gennych chi yn eich meddiant bob amser pe bai dewisiadau eraill y gellid eu defnyddio i leddfu'r sefyllfa.
Fel y deallaf, yn ôl adroddiad dros dro Oliver Letwin i Lywodraeth y DU, ymddengys mai prif yrrwr y cyfraddau adeiladu, pan roddir caniatâd i safleoedd mawr, yw'r gyfradd amsugno—y gyfradd y gellir gwerthu cartrefi newydd a adeiladwyd heb wyrdroi prisiau'r farchnad leol. Mae'r math o gartref, hefyd, yn ffactor yn hynny, felly, yn amlwg, mae hon yn dirwedd gymhleth y mae angen inni weithio oddi mewn iddi.
Roeddech chi'n sôn am wledydd eraill—edrychais ar esiampl Iwerddon. Pa wersi y gellir eu dysgu oddi wrth wledydd gyda threth tir gwag, yn eich barn chi? Nodaf fod yr ardoll yn Iwerddon yn cael ei feirniadu yn barod gan rai gwerthwyr blaenllaw dros fôr Iwerddon. Mae'r cynnydd yn y gyfradd yno i 7 y cant wedi arwain at bryderon y gallai chwyddo ffyniant a methiant y tu hwnt i'r hyn a fyddai fel arall hebddo. Gan fod tir yn cael ei ystyried yn ddeunydd crai, mae'n naturiol i ddatblygwyr gadw stoc o dir datblygu, ond ni fyddan nhw'n cadw banc o dir mewn marchnad araf, sy'n golygu y bydd datblygwyr yn treulio'r blynyddoedd cynnar yn trefnu safle yn hytrach nag adeiladu'r tai y gallasen nhw ac y dylsen nhw fod yn ei wneud. Rwy'n gwybod mai cwestiwn ar gyfer cyfnod sydd i ddod yw hwn fwy na thebyg, ond rwyf i o'r farn ei fod yn allweddol i ddatblygiad y dreth hon. Felly byddai gennyf ddiddordeb i wybod pa dystiolaeth yr ydych chi'n ei loffa o esiampl gwledydd eraill.
Felly, croesawaf eich datganiad heddiw. Credaf ei fod yn iawn ynddo'i hun, Ysgrifennydd y Cabinet, ac rwy'n credu bod y Cynulliad yn sylweddoli bod profi'r peirianwaith yn hollbwysig yn y cyfnod hwn. Er y bydd llawer o'r cwestiynau hyn yn aros yn y dyfodol, credaf y byddai'n beth da pe baech yn rhoi peth cig ar yr esgyrn nawr o ran pa drafodaethau yr ydych wedi'u cael â Llywodraethau eraill ac â'r sector.