Part of the debate – Senedd Cymru am 5:18 pm ar 15 Mai 2018.
Diolch yn fawr, Llywydd—Dirprwy Lywydd, mae'n ddrwg gen i. Rwy'n croesawu datganiad heddiw gan yr Ysgrifennydd Cabinet. Wrth gwrs, mae Plaid Cymru yn croesawu'r ffaith ein bod ni'n defnyddio'r grymoedd newydd yma, a bod yna broses yn ei lle er mwyn cytuno gyda Llywodraeth San Steffan sut y dylai'r pwerau yma gael eu trosglwyddo i Gymru. Mae yn bwysig, fel mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi dweud, ein bod ni'n edrych ar y dystiolaeth, ac yn sicr nid ydym yn gwrthwynebu treth o'r fath mewn egwyddor, ond fe fyddem ni eisiau gweld bod y dreth yn mynd i weithio yn y cyd-destun Cymreig ac yn mynd i'r afael â'r cwestiwn sylfaenol o ai dyma beth sydd yn dal datblygu tir ar gyfer adfywio neu dai yn ôl yng Nghymru, neu a oes yna ffactorau eraill ar waith.
Yn y cyd-destun hwnnw, rydych yn dweud yn eich datganiad eich bod chi am sefydlu grŵp penodol fel rhan o'r grŵp ymgynghorol sydd gyda chi i edrych ar y maes yma. A gaf i jest ofyn i chi ddweud ychydig mwy am sut rŷch chi'n gobeithio y bydd y grŵp yna yn gweithio? Hynny yw, a fydd e'n grŵp sy'n wynebu yn allanol, fel petai, yn cymryd tystiolaeth? A fydd e ar gael i ddod i'r Pwyllgor Cyllid, er enghraifft, i rannu ei ganfyddiadau? Neu a ydy e'n grŵp hollol—ni wnaf ddweud 'cyfrinachol', ond tu ôl i'r llenni, tu fewn i'r Llywodraeth? Pa fath o grŵp yw hwn? Rwy'n gofyn er mwyn i bobl deimlo'n hyderus fod y gwaith yn cael ei wneud yn y ffordd fwyaf eang y tu fewn i hynny.
Rŷch chi hefyd yn dweud yn eich datganiad, ac rwy'n cytuno'n llwyr—beth rwyf newydd grybwyll, a dweud y gwir—fod nifer o ffactorau yn effeithio ar y ffaith bod tir heb ei ddatblygu yng Nghymru er bod caniatâd cynllunio arno fe. Mae gennych chi gynllun arall, wrth gwrs, ar gyfer safleoedd sydd wedi'u rhewi neu sy'n stalled, fel rŷch chi'n eu galw nhw, ac yn y gyllideb eleni roeddech chi'n sôn am ddefnyddio cyfalaf trafodiadau ariannol ar gyfer y pwrpas yna. Nid ydw i'n gwybod a ydych chi'n gallu ein diweddaru ni ynglŷn ag a ydy'r cynllun yna'n gweithio, ond yn benodol, sut ydych chi'n meddwl y byddai'r cynllun yna yn mynd law yn llaw gydag unrhyw dreth tir gwag arfaethedig? Achos mae'n amlwg os nad yw argaeledd arian yn symud rhai o'r safleoedd yma, a ydy treth arnyn nhw yn mynd i'w symud nhw? Mae yna rywbeth arall efallai yn dal y datblygiadau yma yn ôl, ac yn y cyd-destun yna wrth gwrs, cynllunio, caniatâd ar gyfer wayleaves a phethau felly, mae yna nifer o ffactorau sy'n gallu effeithio ar dir a datblygu tir. Jest os fedrwch chi roi unrhyw syniad i ni o sut rŷch chi'n mynd i ystyried y pictiwr llawn yma. Rwy'n derbyn eich bod chi'n dweud yn y datganiad eich bod chi'n mynd i wneud, ond beth yw'r camau penodol er mwyn sicrhau bod y dreth yn mynd i ateb unrhyw alw penodol?
A gaf i ofyn hefyd, jest ar y pwynt olaf—pwynt sydd wedi cael ei wyntyllu yn weddol ddiweddar ac mae'n ymwneud â thir yng Nghymru? Mae yna fwriad gan y Blaid Lafur ar lefel y Deyrnas Gyfunol i sôn am yr hawl i brynu tir ar gyfer tai fforddiadwy—ymddiriedolaeth tir sofran yw'r ffordd y mae wedi ei disgrifio hyd yma. Rwy'n credu bod eich Ysgrifennydd Cabinet dros faterion gwledig, sydd yn gyfrifol am gynllunio, wedi sôn bod hwn yn bosibiliad yng Nghymru neu o leiaf yn rhywbeth i'w ystyried. Eto, datblygiad arall a fydd yn gorfod ffitio mewn i unrhyw ddatblygiad o dreth o'r math yma, achos rŷm ni'n sôn am sawl ffordd wahanol fan hyn o flingo cath mewn ffordd. Felly, ble y mae'r cysyniad yma yn ffitio i mewn i'r cynlluniau hyn? Ac a fyddwch chi, pan fyddwch chi'n trosglwyddo—? Dywedwch eich bod chi yn penderfynu mynd ymlaen â'r dreth yma, a fyddwn ni fel Cynulliad yn gallu ystyried y dreth, nid jest ar ei phen ei hunan, ond yng nghyd-destun y paceidi yma o bolisïau rydw i wedi'u crybwyll yma, ac efallai bod yna rai eraill, fel bod gyda ni syniad mwy cyfansawdd o beth yw polisi ehangach y Llywodraeth tuag at dir, datblygu tir a meysydd cynllunio?