5. Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid: Treth Tir Gwag

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:26 pm ar 15 Mai 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mr Neil Hamilton Mr Neil Hamilton UKIP 5:26, 15 Mai 2018

(Cyfieithwyd)

Rwy'n croesawu'r datganiad, ac rwyf yn y sefyllfa baradocsaidd o fod yn fawr iawn o blaid datganoli'r pŵer i drethu, ond nid mewn gwirionedd yn awyddus iawn i'w ymarfer. Mae hwn yn bwynt yr wyf wedi'i wneud o'r blaen, sef fy mod o blaid cystadleuaeth ar dreth oherwydd credaf ei bod, yn gyffredinol, yn tueddu i weithio yn erbyn codiadau mewn trethi ledled y Deyrnas Unedig. Ond tybed a yw'r dreth tir gwag wedi'i dewis am ei bod, ymhlith yr holl drethi posibl, y lleiaf tebygol o effeithio ar fwy na nifer bychan iawn o bobl. Rwy'n credu ei bod yn dreth dda iawn yn hynny o beth i'w dewis ar gyfer profi'r system, ac rwyf o'i phlaid yn fawr iawn.

Mewn gwirionedd rwyf wedi darllen dogfen Llywodraeth Cymru 'Safleoedd sydd ar Stop a Chytundebau Adran 106'. Nid yw'n ddifyr ei darllen, ac ni chafodd ei bwriadu i fod felly. Ond yr hyn a wnaeth fy nharo o'i darllen yw pa mor fychan yw nifer yr achosion a allai gael eu heffeithio gan y dreth hon, os yw wedi'i chynllunio ar gyfer nodi achosion o fancio tir lle bo datblygwyr yn eistedd yn fwriadol ar dir y dylid fel arall ei ddatblygu ac y gallen nhw ei ddatblygu ond eu bod wedi penderfynu peidio â gwneud hynny. Wrth gwrs, ceir adegau pan fydd cymhelliad i wneud hyn. Rwy'n cofio'n dda, fel yn siŵr y gwna Ysgrifennydd y Cabinet ei hun, yn y 1970au cynnar roedd yna gryn ddadlau ynglŷn ag adeilad Centre Point yn Llundain a oedd yn eiddo i Harry Hyams. Roedd yr adeilad yn wag am lawer o flynyddoedd oherwydd roedd gwerth tybiannol yr adeilad yn fwy fel adeilad gwag gyda'r posibilrwydd o'i werthu fel y cyfryw na phe byddai yn llawn o swyddfeydd yn talu rhent. Ystyrid hynny yn sgandal ar y pryd, rhyw 40 mlynedd yn ôl.

Ond y pwynt yr wyf yn awyddus i'w wneud yn hyn o beth yw, os ydym am gael treth ar dir gwag, bydd yn rhaid iddo fod yn sensitif i amgylchiadau economaidd. Roedd yr 1970au cynnar yn gyfnod pan welwyd prisiau eiddo yn codi'n gyflym, mewn modd anghynaladwy yn wir. Ac yn syth ar ôl hynny, ym 1975, bu cwymp yn y farchnad a chafwyd cam yn ôl. Felly, mae'n rhaid inni fod yn ddigon hyblyg i allu ymdopi â'r amgylchiadau oherwydd mae'r hyn sydd yn sgandal mewn un achos yn ddim ond canlyniad amgylchiadau economaidd anffodus mewn achos arall, ac nid ydym yn dymuno, fel y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'i ddweud eisoes, canfod bod busnesau yn cael eu cosbi'n annheg am beidio â gwneud yr hyn sydd, ar y pryd, yn amhosibl am resymau amrywiol.

Soniodd am yr astudiaeth gan Oliver Letwin sy'n mynd rhagddi ar hyn o bryd. Unwaith eto, yr hyn sy'n fy nharo i wrth ddarllen ei lythyr yw pa mor gyfyng yr ymddengys golygon yr astudiaeth honno ar hyn o bryd hefyd, oherwydd mae'n edrych yn unig ar safleoedd mawr ar gyfer datblygu ar hyn o bryd. Yn ystod yr astudiaeth honno mae Letwin yn cydnabod bod pob math o resymau economaidd neu gynllunio neu dechnegol fel na fwrir ymlaen â'r datblygiadau hynny. Ac o ran tai cymdeithasol, eto, gan fod tai cymdeithasol o dan gytundebau adran 106 yn cael eu hariannu gan werthiant llwyddiannus gweddill y datblygiad, os na ellir gwerthu'r tai hynny, yna, wrth gwrs, nid oes unrhyw arian ar gael i adeiladu'r tai cymdeithasol.

Felly, mae hwn yn fatrics cymhleth iawn y mae'n rhaid ei ddeall. Gan hynny, pan fydd treth yn cael ei ffurfio, os neu bryd bynnag y digwydd hynny, teimlaf ei bod yn mynd i gynnwys darn cymhleth iawn o ddeddfwriaeth sy'n berthnasol mewn gwirionedd i nifer bychan iawn o achosion posibl yn ymarferol. Felly, er fy mod o blaid rhoi cynnig ar hyn—a derbyniaf yn llwyr y pwynt a wnaeth Ysgrifennydd y Cabinet ei fod yn mynd i seilio ei benderfyniadau ar dystiolaeth; mae hwnnw'n ddatganiad canmoladwy iawn i'w wneud—bydd angen inni, rwy'n credu, gael llawer mwy o dystiolaeth na'r hyn a ddarperir yn y ddogfen ar safleoedd sydd ar stop a chytundebau adran 106. Yn fy marn i, bydd angen inni edrych ar nifer mawr o astudiaethau academaidd am yr hyn sydd wedi digwydd mewn rhannau eraill o'r byd hefyd. Felly, rwy'n gobeithio y bydd y cyfan ar gael ar ffurf hwylus fel y gall Aelodau'r Cynulliad gael dadl arno, ond dymunaf yn dda iddo ar ei fenter hyd yn oed os ydw i'n gohirio rhoi barn ar yr hyn a ddaw yn y diwedd. Felly, ni allaf addo iddo fy mod yn mynd i gefnogi'r hyn y bydd yn ei gyflwyno ar ddiwedd y daith, ond byddaf yn sicr yn cefnogi'r broses.