Part of the debate – Senedd Cymru am 6:35 pm ar 15 Mai 2018.
Diolch, Llywydd. Mae ansawdd y lleoedd y mae pobl yn byw ac yn gweithio ynddynt yn cael effaith uniongyrchol ar les. Mae'n hanfodol bod pobl yn gallu cerdded o'u cartrefi i'r gwaith, i siopau, meddygfeydd ac ysgolion y mae eu teuluoedd yn eu defnyddio heb orfod mynd yn eu ceir. Mae hyn yn cael effaith gadarnhaol ar iechyd meddwl ac iechyd corfforol, yn ogystal â lleihau allyriadau a gwella ansawdd yr aer. Mae'n rhaid i fynediad at wasanaethau drwy gerdded, seiclo neu ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus fod yn ystyriaeth allweddol.
Wrth feddwl am unrhyw ddatblygiad newydd, mae'n rhaid inni hefyd ystyried sut y bydd y dyluniad neu'r cynllun yn effeithio ar fywydau bob dydd y trigolion. Mae'n rhaid ystyried ein mannau gwyrdd, sy'n gwella iechyd a lles, ac yn darparu cynefinoedd ar gyfer fflora a ffawna, hefyd. Creu lleoedd yw'r ffordd o ddwyn y materion hyn at ei gilydd i greu cymunedau cynaliadwy, ffyniannus. Mae creu lleoedd yn meithrin egwyddorion Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, ac yn eu rhoi wrth wraidd trafodaethau sy'n effeithio ar yr amgylchedd adeiledig.
Fel y gwyddom ni i gyd, does dim o hyn yn hawdd. Mae yna lawer o fuddiannau sy'n cystadlu i'w hystyried. Mae'r system gynllunio yn rhan annatod o gydbwyso'r buddiannau hyn. Mae'n rhaid inni sicrhau ein bod yn adeiladu datblygiadau o ansawdd uchel sy'n cael effaith gadarnhaol ar yr economi, yr amgylchedd a'n cymunedau. Mae'n rhaid inni reoli datblygiadau newydd er budd y cyhoedd.
Mae creu lleoedd yn hanfodol. Mae'n rhaid iddo ddod yn nodwedd ganolog o'n system gynllunio. I gyflawni hyn, mae'n rhaid inni ganolbwyntio ar ganlyniadau yn hytrach na dim ond cyfrif nifer y cartrefi yr ydym ni'n eu hadeiladu neu pa mor hir mae'n ei gymryd i benderfynu ar gais cynllunio. Mae'r pethau hyn yn dal i fod yn bwysig, ond mae angen inni ystyried ansawdd yn ogystal â nifer. Mae Llywodraeth Cymru yn arwain ar y mater hwn. Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) yn gosod patrwm ar gyfer sefydliadau cyhoeddus i ystyried cymunedau cynaliadwy a chreu lleoedd. Rydym ni wedi diwygio 'Polisi Cynllunio Cymru' i sicrhau bod creu lleoedd wrth wraidd ein polisi cynllunio cenedlaethol. Mae'n datgan yn glir bod yn rhaid ystyried creu lleoedd da yn gynnar yn natblygiad cynllun datblygu lleol a dyluniad cynlluniau unigol. Mae'r ymgynghoriad ar bolisi cynllunio drafft Cymru yn cau ddydd Gwener, ac edrychaf ymlaen at ddarllen yr ymatebion. Byddaf yn cyhoeddi'r polisi terfynol yn yr hydref.
Rwy'n falch bod y ddogfen ddrafft wedi'i chroesawu ar draws sectorau, yn enwedig o'i chymharu â pholisi dros y ffin. Mewn cymhariaeth ddiweddar rhwng polisi cynllunio drafft Cymru a pholisi cynllunio drafft Lloegr, nododd Hugh Ellis, cyfarwyddwr polisi y Gymdeithas Cynllunio Gwlad a Thref, sylwadau cadarnhaol. Dywedodd fod Lloegr ymhell ar ei hôl hi o ran uchelgais a chymhwysedd polisi Cymru wrth ddatblygu polisi cydlynol ag amcanion cryf a chanlyniadau wedi'u nodi.
Mae'r fframwaith datblygu cenedlaethol yn codi ein huchelgeisiau ar gyfer creu lleoedd yn effeithiol. Bydd yn edrych ar ba seilwaith a pholisïau strategol y mae eu hangen i siapio Cymru. Rwyf ar hyn o bryd yn ceisio barn ar yr opsiwn a ffefrir ar gyfer y fframwaith datblygu cenedlaethol a'r cyfeiriad polisi y dylid ei gymryd wrth arwain penderfyniadau datblygu mawr yng Nghymru dros yr 20 mlynedd nesaf. Mae'r ymgynghoriad ar hyn yn parhau tan fis Gorffennaf.
Mae mabwysiadu cynllun datblygu lleol yn hanfodol er mwyn i awdurdod cynllunio fynegi ei weledigaeth ar gyfer ardal. Pan fo materion yn gymhleth, yn effeithio ar nifer o awdurdodau, gallai fod angen dull strategol o lunio lleoedd drwy gynlluniau datblygu strategol hefyd. Mae'n rhaid i'r pecyn cyfan o bolisïau cynllunio yn genedlaethol, yn strategol ac yn lleol weithio gyda'i gilydd i sicrhau ein bod yn cyflawni o ran creu lleoedd ar lawr gwlad, a hynny drwy wneud penderfyniadau cyson ar geisiadau cynllunio sy'n helpu i greu lle gwell. Er mwyn cyflawni ein huchelgais o ran creu lleoedd, mae angen digon o adnoddau ar adrannau cynllunio awdurdodau lleol. Dylai hyn gynnwys unigolion o amrywiaeth eang o broffesiynau sy'n ymwneud â'r amgylchedd adeiledig, gan gynnwys cynllunwyr, dylunwyr, ecolegwyr, cadwraethwyr a swyddogion adfywio.
Rwy'n parhau i gefnogi gwaith awdurdodau cynllunio lleol gyda'r gwasanaeth cynghori ar gynllunio i ddeall eu costau yn llawn. Rwyf wedi ymrwymo i symud tuag at adennill costau llawn ac wedi cadw'r ffioedd cais uwch i wella'r broses o gyflenwi gwasanaethau cynllunio. Ar hyn o bryd, rwy'n cefnogi gwaith gan y Sefydliad Cynllunio Trefol Brenhinol i gynhyrchu pecyn cymorth i ddeall yn well y gwerth y mae'r system gynllunio yn ei gynhyrchu ar gyfer ardal, a byddaf yn cyhoeddi'r canlyniadau ar gyfer Cymru fis nesaf. Bydd y pecyn cymorth yn caniatáu i bob awdurdod lleol amcangyfrif y gwerth a gynhyrchir gan y system gynllunio ar gyfer eu hardal nhw, a bodloni'r achos dros fwy o adnoddau. Mae'n rhaid inni gydweithio er mwyn cyflawni gweledigaeth gyffredin o sut le y gall Cymru fod yn y dyfodol, lle sicrheir bod pobl a chreu lleoedd wrth wraidd ein penderfyniadau ar ddatblygu. Edrychaf ymlaen at glywed barn yr Aelodau ar y pwnc pwysig hwn y prynhawn yma.