Part of the debate – Senedd Cymru am 6:40 pm ar 15 Mai 2018.
Diolch yn fawr, Llywydd, ac rwy'n falch o gynnig y gwelliannau, ac rwy'n falch o gymryd rhan yn y ddadl hon. Dydw i ddim yn siŵr ein bod ni'n trafod cynllunio yn aml iawn, ond mae'n bwysig iawn, iawn. Er mwyn ad-dalu haelioni'r Gweinidog wrth gyflwyno hwn y prynhawn yma, hoffwn ddechrau mewn maes lle y mae yna gytundeb diamheuol, sef bod cynllunio da a datblygu lleoedd cydlynol yn hanfodol ar gyfer iechyd a lles hirdymor pobl Cymru. Os gallaf ddyfynnu y Sefydliad Cynllunio Trefol Brenhinol:
dinasoedd fydd y lleoedd a fydd yn pennu iechyd a llesiant y rhan fwyaf o’r boblogaeth yn yr unfed ganrif ar hugain. Am fod y costau sy’n gysylltiedig â chyflyrau iechyd yn gynyddol anghynaladwy ac y disgwylir iddynt gynyddu yn y blynyddoedd nesaf, mae angen inni gymryd safbwynt rhagweithiol, ataliol a hirdymor er mwyn hyrwyddo dinasoedd iach.
Ac, wrth gwrs, mae hyn yn wir am drefi a hyd yn oed pentrefi hefyd. Mae'n bwysig iawn bod gennym ni gynllunio effeithiol ac uchelgeisiol. Er enghraifft, mae mannau gwyrdd yn rhoi dihangfa naturiol mewn cymdogaethau prysur a dwys eu poblogaeth, i drigolion a gweithwyr fel ei gilydd. Fel y nododd astudiaeth ddiweddar yn The Guardian, canfu ymchwilwyr fod pob cynnydd o un radd o wyrddni o gwmpas wedi arwain at welliant o 5 y cant yn natblygiad cof gweithio tymor byr dros gyfnod o un flwyddyn. Yn ogystal â hyn, os ydym ni'n dadansoddi'r effaith y gallai datblygiad sydd wedi'i gynllunio'n dda, gyda gwell seilwaith trafnidiaeth, ei chael ar ansawdd aer, mae yna hefyd fuddion sylweddol i'w gwneud i iechyd a lles hirdymor trigolion.
Felly, rwy'n cytuno bod angen inni fod yn fwy uchelgeisiol yn ein gweledigaeth, ac rwy'n falch o ddweud, Llywydd, y bydd y Ceidwadwyr Cymreig yn cyflwyno ein syniadau ein hunain mewn dogfen bolisi y byddwn yn ei chyhoeddi ddydd Iau, cyn ein cynhadledd ddydd Gwener; dydw i ddim i fod i hyrwyddo hwnnw, rwy'n amau, ond rydych chi mor hael ag erioed.
Os gallaf droi at bwynt 2, rydym ni wedi diwygio hwn dim ond oherwydd nad wyf i eisiau rhoi cymeradwyaeth mor agored i ymagwedd y Llywodraeth, ond rwy'n falch o wylio eu gwaith ar y gweill, os gallaf ei roi felly. Felly, y cyfan y mae ein gwelliant cyntaf yn ei wneud yw pwysleisio'r angen i addasu ein systemau a'u gwneud yn fwy cyfannol, fel y gall yr amgylchedd adeiledig, yn arbennig, sicrhau bod cynnydd yn y cyflenwad o dir ar gyfer tai. Nid dadl am dai yw hon, ac rwyf wedi sôn am argyfwng tai y DU yn aml, sydd yn anffodus mor wael yng Nghymru ag ydyw mewn unrhyw ran arall o'r wlad. Felly, rwyf eisiau gweld system fwy effeithiol sy'n cynyddu'r cyflenwad o dir ar gyfer tai, ac yna i'r tai hynny gael eu hadeiladu, ac iddynt gael eu hadeiladu i safon uchel, o ran dyluniad pob tŷ, ond hefyd o ran dyluniad cyffredinol y gymdogaeth ac integreiddio mannau gwyrdd, systemau trafnidiaeth cynaliadwy ac ati.
Mae gwir angen inni wneud hyn yn gyflym. Rwy'n credu mai honno yw'r ddadl yr hoffwn i ei gwneud yma, ac rwy'n gobeithio yn fawr iawn y bydd yr adolygiad tai fforddiadwy yn dweud bod angen inni gynyddu'r cyflenwad o gartrefi newydd yn sylweddol iawn. Wrth gwrs, bydd angen cynllunio o ansawdd uchel iawn i wneud hynny. Mae'r cartrefi hynny yn mynd i fod yno am ddegawdau a degawdau i ddod, felly rydym ni eisiau sicrhau ein bod yn gwneud y gorau o bethau ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol hefyd.
A phwynt 3, wedyn, yr unig fater sydd gennyf i yma, mewn gwirionedd, yw bod y materion hyn fwy neu lai yn rhan o'r ymgynghoriad ar hyn o bryd, felly dydw i ddim yn siŵr bod angen iddynt gael eu cymeradwyo mor gryf fel creu lleoedd cenedlaethol cydlynol. Ar hyn o bryd, er hyn, fel y dywedais, rwy'n gweld hyn fel gwaith sydd ar y gweill ac rydym yn edrych ymlaen at gymryd rhan yn hyn, oherwydd rwy'n credu y gall fod llawer o feysydd lle mae cytundeb gwirioneddol ddwfn, ac yn sicr mae er budd y cyhoedd ein bod yn canfod y rheini a'n bod ni'n gwneud ein gorau ar gyfer cenedlaethau'r presennol a'r dyfodol. Felly, hoffwn weld yr ymatebion ymgynghori i'r ddwy ddogfen, un ohonyn nhw a ddechreuodd ond ychydig o wythnosau yn ôl, yn dod i law. Felly, rwy'n credu bod angen ychydig mwy o wybodaeth arnom ni. Ond, fel y dywedais i, mae hwn i fod yn welliant adeiladol, ond rwy'n amau na chaiff lawer o gefnogaeth gan y Llywodraeth, ond mae'n bwysig ein bod yn ei roi ar y cofnod.
Ac yna, pwynt 4. Credaf ei bod hi'n bwysig—byddwn yn cytuno â hyn, yr hyn a ddywedodd y Llywodraeth—pwysleisio swyddogaeth gweithwyr proffesiynol wrth ddarparu'r lleoedd o'r ansawdd uchaf y gallwn ni eu cael. Mae yna broblem ynghylch yr arbenigedd hwn mewn adrannau cynllunio, ac mae hynny'n adolygiad sydd i'w groesawu.
Rwy'n gweld bod yr amser yn brysur ddod i ben. A gaf i ddweud y byddwn ni'n cefnogi gwelliant Plaid Cymru, oherwydd mae'n bwysig iawn bod TAN 20 yn cael ei adolygu a bod rhan cymunedau Cymraeg eu hiaith yn hyn o beth yn bwysig iawn? Nid wyf i yn mynd i ymrwymo'r Ceidwadwyr Cymreig i gael arolygiaeth cynllunio ar wahân i Gymru. Rwy'n agored i'r ddadl, ond dydw i ddim yn meddwl ei bod wedi ei gwneud eto, ac mae'n bwysig iawn inni gael yr arbenigedd a'r gweithwyr proffesiynol o'r ansawdd uchaf yn dod o Loegr i weithio yng Nghymru ac i'r gwrthwyneb. Felly, nid wyf i mor siŵr am y darn hwnnw. Ond rwy'n dal i fod yn awyddus i gefnogi eich gwelliant, oherwydd yr hyn y mae'n ei ddweud am TAN 20. Diolch ichi, Llywydd.