Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid – Senedd Cymru am 1:30 pm ar 16 Mai 2018.
Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ymateb. Yn gyffredinol, cydnabyddir bod menywod wedi dioddef yn anghymesur o dan bolisïau cyni yn y DU, a gŵyr pob un ohonom pa mor bwysig y mae cronfeydd strwythurol Ewropeaidd wedi bod wrth fynd i'r afael ag anghydraddoldeb. Sut y gallwn sicrhau y bydd unrhyw gyllid a ddaw yn lle cronfeydd strwythurol yr UE ar ôl Brexit yn canolbwyntio ar anghydraddoldebau yn y gymdeithas?