1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid – Senedd Cymru ar 16 Mai 2018.
1. Pa drafodaethau y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU am y gronfa cyd-ffyniant? OAQ52189
6. Pa drafodaethau y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'u cael ynglŷn â chronfa cyd-ffyniant y Deyrnas Gyfunol? OAQ52200
Diolch, Lywydd, a diolch am gadarnhau eich bod wedi caniatáu i gwestiynau 1 a 6 gael eu grwpio.
Nid yw Llywodraeth y DU wedi rhannu unrhyw fanylion hyd yn hyn ynglŷn â'i chynigion ar gyfer cronfa cyd-ffyniant. Rwyf wedi crybwyll mater cyllid yn lle cronfeydd strwythurol wrth Brif Ysgrifennydd y Trysorlys, ac mae ein safbwynt, gan gynnwys ymreolaeth gyllidol, wedi'i nodi yn glir yn ein papur 'Buddsoddi Rhanbarthol yng Nghymru ar ôl Brexit'.
Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ymateb. Yn gyffredinol, cydnabyddir bod menywod wedi dioddef yn anghymesur o dan bolisïau cyni yn y DU, a gŵyr pob un ohonom pa mor bwysig y mae cronfeydd strwythurol Ewropeaidd wedi bod wrth fynd i'r afael ag anghydraddoldeb. Sut y gallwn sicrhau y bydd unrhyw gyllid a ddaw yn lle cronfeydd strwythurol yr UE ar ôl Brexit yn canolbwyntio ar anghydraddoldebau yn y gymdeithas?
Wel, Lywydd, a gaf fi ddiolch i Julie Morgan am ei chwestiwn, a diolch iddi am y gwaith y mae'n ei wneud yn cadeirio pwyllgor monitro'r rhaglen ar gyfer y rownd bresennol o gyllid Ewropeaidd? A bydd yn gwybod, o ganlyniad i'r sylw craff y mae'r pwyllgor hwnnw'n ei roi i anghydraddoldeb, fod rhaglenni presennol y gronfa gymdeithasol, er enghraifft, yn cynnwys targedau penodol i ddarparu sgiliau a hyfforddiant i dros 95,000 o fenywod yn y gweithle, a chynllun arbennig o dda i annog 15,000 o fenywod ifanc i fynd ati i ddysgu pynciau STEM yma yng Nghymru. Gyda chymorth pwyllgor monitro'r rhaglen, fe ffurfiasom ein cynigion, a nodir yn 'Buddsoddi Rhanbarthol yng Nghymru ar ôl Brexit', ac un o'r egwyddorion allweddol yn y papur hwnnw yw ein bod yn dysgu gwersi o'r rowndiau cyllid presennol a blaenorol, a'n bod yn ailadrodd y llwyddiannau yn y dyfodol. Gallaf roi sicrwydd i'r Aelod fod materion anghydraddoldeb yn parhau i fod wrth wraidd cynigion Llywodraeth Cymru ar gyfer datblygu buddsoddiad rhanbarthol wedi inni adael yr Undeb Ewropeaidd.
Mae hi'n destun pryder nad oes yna unrhyw gynigion cynhwysfawr wedi cael eu cyhoeddi gan Lywodraeth Prydain eto ynglŷn â sut yn union y bydd y gronfa cyd-ffyniant yma yn gweithio. Fel mae hi rŵan, wrth gwrs, Llywodraeth Cymru a chynghorau sir, drwy Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru, sydd yn penderfynu ar beth mae'r grantiau rhanbarthol yn cael eu gwario yng Nghymru. Yn y man cyntaf, mae'n bwysig na fydd Cymru yn colli yr un geiniog o'r arian yr oeddem ni yn ei dderbyn gan Ewrop, sy'n golygu y bydd yn rhaid i'r arian gael ei ddyrannu ar sail angen yn hytrach na thrwy fformiwla Barnett. A fy mhryder i hefyd ydy, os bydd y system yn newid, ble bydd yn rhaid i gyrff yng Nghymru fidio am grantiau i bot o bres Llywodraeth Prydain, yna mi fyddai hynny yn enghraifft arall o'r Torïaid yn San Steffan yn dwyn pwerau, yn y maes datblygu economaidd y tro yma. A wnewch chi sefyll i fyny dros Gymru ar y mater yma, ynteu a ydym ni am eich gweld chi yn ildio eto, dan faner eich ideoleg unoliaethol?
Wel, diolch i Siân Gwenllian am y cwestiynau. Rwy'n cytuno â bron popeth roedd hi'n ei ddweud, tan y diwedd. Jest i fod yn glir, rwyf yn cytuno â hi; mae hi yn fwy nag amser i Lywodraeth y Deyrnas Unedig ddod ymlaen â'r awgrymiadau sydd gyda nhw. O dan yr awgrymiadau yna, mae hi'n hollbwysig, ynghylch y pethau roedd pobl yng Nghymru yn eu clywed gan bobl a oedd yn trïo eu perswadio nhw i adael yr Undeb Ewropeaidd, nôl yn y refferendwm—i fod yn glir, pob ceiniog roeddem ni'n ei chael drwy fod yn aelodau o'r Undeb Ewropeaidd—ac mae'n rhaid i'r arian yna ddod i Gymru yn y dyfodol, achos mae'r anghenion a oedd gennym ni yn dal i fod yna. Nawr, byddai'n hollol afresymol o Lywodraeth y Deyrnas Unedig petaen nhw'n trïo dod ymlaen â system newydd lle byddai'n rhaid i ni fidio i mewn i gronfa newydd. Y ffordd orau, rwy'n siŵr, yw jest i weld yr arian sy'n dod i Gymru ar hyn o bryd, i roi hwnnw mewn i'r baseline sydd gyda ni ar ein cyllid ni, a rhoi'r cyfrifoldeb i ni, fel mae cyfrifoldebau gyda ni yn barod, i redeg y system yn y dyfodol. A dyna beth rydw i wedi ei ddweud yn barod wrth Brif Ysgrifennydd y Trysorlys, a dyna beth rydw i'n mynd i fwrw ymlaen i ddweud pan fydd cyfleon gennym ni yn y dyfodol.
Rwy'n cytuno gyda chi, Ysgrifennydd y Cabinet, a gyda Siân Gwenllian. Rwy'n anghytuno â'r ddau ohonoch ar yr un pryd, felly, gwnewch o hynny beth a fynnwch. Ond mae'n amlwg fod datblygu'r gronfa cyd-ffyniant yn bwysig iawn i economi Cymru a'n nod yma yw sicrhau nad yw Cymru yn waeth ei byd ar ôl Brexit mewn perthynas â lwfans y cronfeydd strwythurol. Cytunaf â'r hyn a ddywedoch nad ydym yn awyddus i gael system newydd lle byddem yn waeth ein byd drwy orfod gwneud cynigion, mewn rhyw ffordd, am yr arian hwn, ond ar yr un pryd, credaf y byddech yn cytuno â mi, Ysgrifennydd y Cabinet, ein bod yn awyddus i osgoi Barnetteiddio'r arian a ddaw i Gymru, gan y byddai hynny hefyd yn rhoi pwysau ar y gyllideb mewn ffordd wahanol, ond ffordd arwyddocaol iawn serch hynny.
Pa drafodaethau a gawsoch gyda Llywodraeth y DU ynglŷn ag osgoi'r posibilrwydd y caiff y gronfa honno ei Barnetteiddio? A hefyd, ochr yn ochr â hyn, dylai Llywodraeth Cymru fod yn datblygu ei pholisïau rhanbarthol ei hun er mwyn sicrhau ein bod yn y sefyllfa orau bosibl i wneud defnydd o'r cronfeydd newydd hynny pan ddônt i Gymru. Pa gam rydych wedi'i gyrraedd ar ddatblygu'r polisi rhanbarthol newydd hwnnw a fydd yn cyd-fynd â strategaeth Llywodraeth y DU?
Wel, Lywydd, cytunaf na fyddai gwneud cynigion na mabwysiadu ymagwedd sy'n deillio o fformiwla Barnett tuag at gronfa cyd-ffyniant yn dderbyniol i ni yma yng Nghymru, gan gofio nad yw'r gronfa hon yn tarddu o Gymru a bod y blaid a'i cynigiodd yn bendant heb sicrhau mwyafrif o'i phlaid yma yng Nghymru. Gadewch imi ddweud bod y trafodaethau'n parhau i fynd rhagddynt ar lefel weinidogaethol ac ar lefel swyddogol. Pan fydd Llywodraeth y DU yn cyflwyno cynigion manylach ar gyfer y gronfa, rwy'n gobeithio y bydd modd trefnu cyllid i Gymru yn y ffordd a amlinellwyd gennyf yn fy ateb i Siân Gwenllian.
Yn y cyfamser, rwy'n cytuno â Nick Ramsay ei bod yn bwysig iawn inni fwrw ymlaen â'r cynlluniau rydym yn eu datblygu ar gyfer y modd y byddai arian yn cael ei ddefnyddio at ddibenion buddsoddi rhanbarthol yng Nghymru yn y dyfodol. Rydym wedi cynnal ymarfer ymgynghori, fel y gŵyr Nick Ramsay, ar y papur a gyhoeddwyd gennym. Denodd yr ymarfer hwnnw gryn dipyn o ymateb. Ar hyn o bryd, mae swyddogion yn dadansoddi'r holl ymatebion a gawsom ac rwy'n gobeithio y byddaf mewn sefyllfa i'w cyhoeddi cyn bo hir.
Ysgrifennydd y Cabinet, i gefnogi eich papur 'Buddsoddi Rhanbarthol yng Nghymru ar ôl Brexit' yn llawn, sut y gallwn sicrhau bod trefniadau cyllido yn y dyfodol yn cyd-fynd â chronfeydd Ewropeaidd eraill y gobeithiwn fanteisio arnynt ar ôl Brexit, megis Horizon 2020 a'r rhaglen gydweithredu ryngdiriogaethol?
Wel, Lywydd, mae Jane Hutt yn gwneud pwynt ychwanegol pwysig iawn, gan fod ein pryderon ynglŷn â'r gronfa cyd-ffyniant, pe bai'n cael ei rhoi ar waith yn y ffordd anghywir, nid yn unig yn ymwneud â'r ffaith y gallai Cymru fod ar ei cholled yn ariannol drwy system o wneud cynigion neu system sy'n seiliedig ar fformiwla Barnett, ond pe bai ymgais o ddifrif i weithredu cronfa cyd-ffyniant o Whitehall, ble mae'r bobl ar lawr gwlad y gallai Llywodraeth y DU ddibynnu arnynt i wneud defnydd effeithiol o'r cyllid hwnnw?
Ugain mlynedd ers datganoli, Llywodraeth Cymru a chyrff Cymreig eraill sydd â phrofiad o ddatblygu economaidd rhanbarthol ac o sicrhau y gellir cydlynu'r ffrydiau cyllido a ddaw i Gymru gyda'i gilydd yn briodol fel y gallwn sicrhau eu bod yn cael yr effaith fwyaf bosibl. Ac un o'r mân fanteision y cred rhai ohonom a ddaw o beidio â bod yn rhan o'r Undeb Ewropeaidd yw y byddai gennym fwy o hyblygrwydd i sicrhau y gellid cydlynu'r arian a ddaw'n uniongyrchol i Gymru yn well gyda ffrydiau cyllido eraill ar gyfer y dyfodol. Rydym yn y sefyllfa iawn i wneud hynny. Nid oes gan Lywodraeth y DU adnoddau yng Nghymru i wneud hynny, ac mae'r pwyntiau a wnaeth Jane Hutt ynglŷn â chydlynu ein cronfeydd gyda rhaglenni eraill yn bwysig iawn.