Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid – Senedd Cymru am 1:45 pm ar 16 Mai 2018.
Wel, Lywydd, mae'r Aelod yn gwneud nifer o bwyntiau pwysig. Wrth gwrs, mae'r anawsterau a wynebir gan bobl ddigartref yn gymhleth, ac yn aml maent yn ymwneud â phroblemau eraill yn eu bywydau. Dyna pam, o'r £10 miliwn a ddarparwyd yn uniongyrchol ar gyfer gwasanaethau digartrefedd yn y gyllideb eleni, fod £6 miliwn ohono wedi mynd i ddarparu lleoedd ychwanegol i bobl aros, ac mae £4 miliwn wedi mynd i'r gwasanaethau cymorth sydd angen eu darparu, er mwyn sicrhau y gall pobl fanteisio ar y cyfle y gallai dechrau newydd mewn lle newydd ei ddarparu iddynt.
Byddaf yn ystyried y pwynt a wnaed ganddi ynglŷn â chyfuno cyllidebau. Mae ganddynt fanteision; mae ganddynt anfanteision hefyd. Mae angen i bawb sy'n rhoi arian mewn cronfa ddeall y gellir defnyddio'r arian hwnnw at ddibenion y tu hwnt i'r rhai y maent yn gyfrifol amdanynt eu hunain. Mae'n ddealladwy, mewn cyfnod anodd, fod sefydliadau yn aml yn edrych yn genfigennus iawn ar yr arian y maent hwy eu hunain wedi'i gyfrannu, ac mae Aelodau yma yn aml yn gofyn cwestiynau i sicrhau bod yr arian yn dal i gael ei ddefnyddio at y diben y cafodd ei ddarparu ar ei gyfer. Felly, gall rhannu cyllidebau fod yn ateb, ond nid ydynt yn dod heb eu hanfanteision chwaith. Yn sicr, mae'n bosibilrwydd y byddwn yn ei gadw mewn cof.