1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid – Senedd Cymru ar 16 Mai 2018.
2. Will the Cabinet Secretary outline the process for calculating the amount of funding allocated to the local government and public services portfolio to support homelessness? OAQ52175
Diolch i'r Aelod am ei chwestiwn. Mae'r broses ar gyfer dyrannu arian i wasanaethau digartrefedd yn dilyn y broses ar gyfer y gyllideb yn ei chyfanrwydd. Nodir y blaenoriaethau mewn cyfarfodydd dwyochrog, gyda'r Cabinet yn cytuno ar y dyraniadau terfynol. Roedd nifer cynyddol yr achosion o ddigartrefedd, a dyhead y Llywodraeth hon i ddileu digartrefedd ymhlith pobl ifanc, yn sail i'r arian ychwanegol a gytunwyd gan y Cynulliad at y dibenion hyn ym mis Ionawr eleni.FootnoteLink
Diolch am y wybodaeth honno, Ysgrifennydd y Cabinet. Rwy'n ofni bellach, a thywydd gwaethaf y gaeaf wedi bod, y bydd yr angen i ariannu'r gwasanaethau sy'n angenrheidiol er mwyn diwallu anghenion pobl ddigartref yn dechrau llithro i lawr yr agenda gyhoeddus. Fodd bynnag, fel y byddwch yn cytuno, rwy'n siŵr, mae'n debyg mai dyma'r union adeg y dylem fod yn cynllunio i sicrhau bod cyllid digonol yn cael ei ddarparu gyfer yr anghenion hyn, yn enwedig yn wyneb bygythiad cynyddol credyd cynhwysol, a fydd yn cael ei gyflwyno yn fy etholaeth y mis nesaf. Yn sicr, mewn cymunedau fel Merthyr Tudful a Rhymni, credaf ein bod yn gweld mwy o alw am y gwasanaethau hyn, ac fel eraill, rwy'n gweld y dystiolaeth honno bob dydd. Felly, a allwch roi sicrwydd i mi eich bod chi, fel Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, yn parhau i drafod gyda chyd-Weinidogion ynglŷn â'r ffordd orau yn gyffredinol i Lywodraeth Cymru ymateb i'r anghenion hyn?
Lywydd, a gaf fi ddechrau drwy gytuno â phwynt agoriadol yr Aelod? Un o gyfrifoldebau diamheuol y Llywodraeth, ac yn wir, y Cynulliad, yw sicrhau ein bod yn parhau i fod yn effro i anghenion cymdeithasol difrifol pan fyddant yn codi. Yn anochel, yn y parth cyhoeddus, mae problemau'n mynd a dod, ond credaf y gallwn ddweud, ers i mi fod yn Aelod yn y lle hwn, fod Aelodau o bob rhan o'r Cynulliad yn sicrhau eu bod yn codi'r materion hyn drwy gydol y flwyddyn, nid yn unig pan fyddant yn digwydd bod o dan chwyddwydr y cyhoedd, a dyna un o'r cyfrifoldebau gwirioneddol bwysig y mae'r Cynulliad yn eu cyflawni.
Mae'r arian a ddarparwyd gennym—yr £20 miliwn ychwanegol yn y gyllideb eleni ac eto'r flwyddyn nesaf—yno drwy gydol y flwyddyn. Mae yno i gefnogi'r cynllun cysgu allan a gyhoeddwyd yn gynharach eleni gan fy nghyd-Aelod, y Gweinidog sydd â chyfrifoldeb dros dai ac adfywio. Yn y rownd o gyfarfodydd dwyochrog ar y gyllideb rwyf ar fin ei chwblhau gyda fy holl gyd-Aelodau o'r Cabinet, mae tai yn faes a drafodwyd ym mhob un o'r cyfarfodydd dwyochrog hynny gan mai dyna yw'r sylfaen i fywyd llwyddiannus, ac mae pawb yng Nghymru'n haeddu sylfaen er mwyn gallu cynllunio ar gyfer y dyfodol a chreu dyfodol ar eu cyfer eu hunain a'u teuluoedd.
Ysgrifennydd y Cabinet, fe fyddwch yn gwybod am argymhellion y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol y dylid ystyried pobl sy'n cysgu allan yn bobl ag angen blaenoriaethol am dai. Fodd bynnag, cyn y gellir gweithredu hyn, bydd angen digon o adnoddau a chymorth ar waith i ymdopi gyda'r newid hwn. Pa drafodaethau a gawsoch gyda'ch cyd-Aelodau o'r Cabinet ynglŷn â chynyddu'r swm o gyllid a ddyrannwyd i fynd i'r afael â phroblem pobl ddigartref yn cysgu allan yng Nghymru, os gwelwch yn dda? Diolch.
Diolch i'r Aelod am ei gwestiwn. Fel y dywedais eiliad yn ôl, mae materion tai wedi bod yn rhan o'r holl gyfarfodydd dwyochrog ar y gyllideb a gefais gyda chyd-Aelodau o'r Cabinet. Mae gan bob cyd-Aelod o'r Cabinet ddiddordeb mewn materion tai a digartrefedd, boed yn broblemau iechyd meddwl ac iechyd corfforol y mae pobl ddigartref yn eu hwynebu neu'r pwysau ar wasanaethau llywodraeth leol sy'n deillio o ddigartrefedd. Felly, gallaf roi sicrwydd i'r Aelod ei fod yn fater sydd o ddiddordeb i bob Aelod o'r Cabinet. Gwn fod y buddsoddiad ychwanegol a ddarparwyd gennym ar gyfer gwasanaethau digartrefedd wedi'i gefnogi ar draws y Siambr.
Mae'n rhaid imi ddweud wrth yr Aelod, unrhyw dro y bydd rhywun yma yn gofyn imi ddod o hyd i ragor o arian ar gyfer unrhyw wasanaeth ar adeg pan fo'r adnoddau sydd ar gael i Lywodraeth Cymru yn gyffredinol yn prinhau fwyfwy, yr unig ffordd o ddod o hyd i arian ar gyfer un peth yw mynd ag ef oddi wrth rhywbeth arall. Gwn y bydd yn deall bod hwnnw'n gyfrifiad anodd iawn i'w wneud.
Deallaf fod cynlluniau peilot Tai yn Gyntaf wedi cael eu datblygu ac yn mynd i gael eu datblygu mewn rhannau o Gymru, ac rwy'n croesawu hynny, fel rhan o'r ymrwymiad i fynd i'r afael â digartrefedd, ond mae ymwneud gwasanaethau eraill, gan gynnwys cyfiawnder a gofal iechyd, yn allweddol mewn perthynas â hyn. Felly, beth rydych yn ei wneud i ystyried cyfuno'r cyllidebau? Rwyf wedi siarad gyda'r sector ar sawl achlysur ac maent wedi dweud wrthyf nad oes digon o sgwrs rhwng y maes tai a maes gofal iechyd. Mae Crisis, yr elusen, a ariennir yn ninas-ranbarth Lerpwl—. Maent wedi edrych ar y dadansoddiad o sut roedd Tai yn Gyntaf yn gweithio yno, a daethant i'r casgliad fod mynediad, er enghraifft, at gymorth iechyd meddwl ail haen a bod dysgu a hyfforddi yn angenrheidiol er mwyn sicrhau bod Tai yn Gyntaf yn gweithio. Felly, os ydym am sicrhau bod Tai yn Gyntaf yn gweithio yma yng Nghymru, sy'n rhywbeth rwy'n ei gefnogi, sut y gallwn sicrhau bod y cyllidebau'n adlewyrchu'r uchelgais hwnnw?
Wel, Lywydd, mae'r Aelod yn gwneud nifer o bwyntiau pwysig. Wrth gwrs, mae'r anawsterau a wynebir gan bobl ddigartref yn gymhleth, ac yn aml maent yn ymwneud â phroblemau eraill yn eu bywydau. Dyna pam, o'r £10 miliwn a ddarparwyd yn uniongyrchol ar gyfer gwasanaethau digartrefedd yn y gyllideb eleni, fod £6 miliwn ohono wedi mynd i ddarparu lleoedd ychwanegol i bobl aros, ac mae £4 miliwn wedi mynd i'r gwasanaethau cymorth sydd angen eu darparu, er mwyn sicrhau y gall pobl fanteisio ar y cyfle y gallai dechrau newydd mewn lle newydd ei ddarparu iddynt.
Byddaf yn ystyried y pwynt a wnaed ganddi ynglŷn â chyfuno cyllidebau. Mae ganddynt fanteision; mae ganddynt anfanteision hefyd. Mae angen i bawb sy'n rhoi arian mewn cronfa ddeall y gellir defnyddio'r arian hwnnw at ddibenion y tu hwnt i'r rhai y maent yn gyfrifol amdanynt eu hunain. Mae'n ddealladwy, mewn cyfnod anodd, fod sefydliadau yn aml yn edrych yn genfigennus iawn ar yr arian y maent hwy eu hunain wedi'i gyfrannu, ac mae Aelodau yma yn aml yn gofyn cwestiynau i sicrhau bod yr arian yn dal i gael ei ddefnyddio at y diben y cafodd ei ddarparu ar ei gyfer. Felly, gall rhannu cyllidebau fod yn ateb, ond nid ydynt yn dod heb eu hanfanteision chwaith. Yn sicr, mae'n bosibilrwydd y byddwn yn ei gadw mewn cof.