Digartrefedd

Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid – Senedd Cymru am 1:42 pm ar 16 Mai 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mohammad Asghar Mohammad Asghar Conservative 1:42, 16 Mai 2018

(Cyfieithwyd)

Ysgrifennydd y Cabinet, fe fyddwch yn gwybod am argymhellion y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol y dylid ystyried pobl sy'n cysgu allan yn bobl ag angen blaenoriaethol am dai. Fodd bynnag, cyn y gellir gweithredu hyn, bydd angen digon o adnoddau a chymorth ar waith i ymdopi gyda'r newid hwn. Pa drafodaethau a gawsoch gyda'ch cyd-Aelodau o'r Cabinet ynglŷn â chynyddu'r swm o gyllid a ddyrannwyd i fynd i'r afael â phroblem pobl ddigartref yn cysgu allan yng Nghymru, os gwelwch yn dda? Diolch.