Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid – Senedd Cymru am 1:39 pm ar 16 Mai 2018.
Diolch i'r Aelod am ei chwestiwn. Mae'r broses ar gyfer dyrannu arian i wasanaethau digartrefedd yn dilyn y broses ar gyfer y gyllideb yn ei chyfanrwydd. Nodir y blaenoriaethau mewn cyfarfodydd dwyochrog, gyda'r Cabinet yn cytuno ar y dyraniadau terfynol. Roedd nifer cynyddol yr achosion o ddigartrefedd, a dyhead y Llywodraeth hon i ddileu digartrefedd ymhlith pobl ifanc, yn sail i'r arian ychwanegol a gytunwyd gan y Cynulliad at y dibenion hyn ym mis Ionawr eleni.FootnoteLink