Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid – Senedd Cymru am 2:14 pm ar 16 Mai 2018.
Diolch yn fawr am yr ateb yna. Nawr, mae Llywodraeth Cymru wedi gwario dros £11 miliwn wrth geisio datblygu parc busnes strategol yn Felindre, Abertawe. Ers dymchwel y gweithfeydd dur yna ym 1996, rŷm ni wedi gweld nifer o strategaethau marchnata yn ceisio denu cwmnïau i'r parc busnes yna, ond mae'r lle dal yn wag. Mae rhwystredigaeth amlwg yn lleol o ran cyflymder datblygiad y safle yma, sydd efo'r potensial i greu cannoedd o swyddi. A ydych chi hefyd yn rhwystredig gyda'r diffyg cynnydd yma a beth ydych chi'n bwriadu ei wneud ar y cyd efo cyngor Abertawe i symud pethau ymlaen?