1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid – Senedd Cymru ar 16 Mai 2018.
3. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am fuddsoddi strategol yng Ngorllewin De Cymru? OAQ52177
Fel rhan o’r buddsoddi strategol yng Ngorllewin De Cymru, bydd y £266 miliwn ychwanegol a gyhoeddwyd gydag adolygiad canol cyfnod cynllun buddsoddi yn seilwaith Cymru yn dod â chyllid newydd i deithio llesol, cynlluniau cyfalaf y gwasanaeth iechyd gwladol, ac ailgylchu gwastraff.
Diolch yn fawr am yr ateb yna. Nawr, mae Llywodraeth Cymru wedi gwario dros £11 miliwn wrth geisio datblygu parc busnes strategol yn Felindre, Abertawe. Ers dymchwel y gweithfeydd dur yna ym 1996, rŷm ni wedi gweld nifer o strategaethau marchnata yn ceisio denu cwmnïau i'r parc busnes yna, ond mae'r lle dal yn wag. Mae rhwystredigaeth amlwg yn lleol o ran cyflymder datblygiad y safle yma, sydd efo'r potensial i greu cannoedd o swyddi. A ydych chi hefyd yn rhwystredig gyda'r diffyg cynnydd yma a beth ydych chi'n bwriadu ei wneud ar y cyd efo cyngor Abertawe i symud pethau ymlaen?
Diolch i Dai Lloyd am y cwestiwn yna. Wrth gwrs, rwy'n cydnabod beth y mae e'n ei ddweud am yr amser sydd wedi mynd ymlaen heb gael pethau yn digwydd ym Mharc Felindre. Beth rydw i wedi'i ddeall oddi wrth bobl sy'n gweithio yn y maes yna yw ein bod ni wedi bod mas yn trial tynnu pobl i mewn i'n helpu ni i ddatblygu y safle. Mae'r nodyn sydd gyda fi yn dweud
mae safon y datblygwyr a'r meddianwyr sydd bellach wedi mynegi diddordeb yn y safle wedi bod yn galonogol iawn, ac mae fy nghyd-Aelod Ken Skates yn awyddus i fwrw ymlaen fel y gallwn oresgyn yr anawsterau a nodwyd gan Dr Lloyd.
Ysgrifennydd y Cabinet, yn amlwg, roedd rhan o'ch datganiad ar y gyllideb yn cynnwys buddsoddiad o dros £30 miliwn yng ngwaith dur Tata ym Mhort Talbot. A allwch ddweud wrthym pa gynnydd a wnaed ar y buddsoddiad hwnnw ac a fydd yn digwydd, mewn gwirionedd, yn ystod y flwyddyn ariannol hon?
Wel, Lywydd, mae'r Llywodraeth yn awyddus i fuddsoddi ym Mhort Talbot mewn partneriaeth â Tata, lle y gallwn fod yn sicr fod ein buddsoddiad yn rhan o gynllun hirdymor i sicrhau cynaliadwyedd cynhyrchu dur yng Nghymru. Rydym yn barod i wneud mwy gyda'r cwmni, cyhyd ag y bo'r cynlluniau hynny'n dangos y byddant yn defnyddio buddsoddiad cyhoeddus ochr yn ochr â'u buddsoddiad eu hunain mewn ffordd a fydd yn creu'r capasiti cynhyrchu dur yn y dyfodol. Mae fy nghyd-Aelod Ken Skates, ac yn wir, y Prif Weinidog, wedi bod yn trafod gyda'r bobl uchaf yn Tata i sicrhau ein bod yn cyflwyno cynlluniau sy'n caniatáu inni wario'r arian mewn modd amserol ac i ddiogelu dyfodol cynhyrchu dur.
Rwyf am ddychwelyd at gwestiwn Dai Lloyd. Ysgrifennydd y Cabinet, rydym yn sôn am 20 mlynedd yma, a chredaf fod arnom angen rhywfaint o sicrwydd, yn arbennig yn fy rhanbarth i, nad Kancoat arall mo hyn, na technium arall yn wir. Yn dilyn cronfa buddsoddi Cymru mewn adfywio, credaf fod arnom angen rhywfaint o sicrwydd fod y buddsoddiad yn adferadwy ac na fyddwn yn gweld gwerthiannau sy'n sylweddol is na'u gwerth. Yn gyntaf oll, a allwch ddweud wrthyf pa sicrwydd sydd gan Lywodraeth Cymru ar y tir hwnnw, ac yn ail, pa sgyrsiau a gawsoch gyda bwrdd y fargen ddinesig, eich cyd-Aelodau yn y Cabinet, ac yn wir, Llywodraeth y DU er mwyn sicrhau ein bod yn manteisio i'r eithaf ar yr ased defnyddiol hwnnw?
Wel, Lywydd, credaf mai cwestiynau i fy nghyd-Aelod Ken Skates yw'r rhain mewn gwirionedd, gan mai ef sy'n uniongyrchol gyfrifol am y polisi a'i gyflawniad ymarferol. Rwy'n sicr y bydd yn cytuno gyda'r pwyntiau a wnaeth yr Aelod o ran ei awydd i sicrhau enillion priodol i'r cyhoedd ar y buddsoddiad a wnaed ar y safle.