Part of 2. Cwestiynau i Arweinydd y Tŷ – Senedd Cymru am 2:36 pm ar 16 Mai 2018.
Bydd arweinydd y tŷ yn esgusodi fy niffyg dealltwriaeth o rai o'r materion sy'n ymwneud â thechnoleg. Dof o genhedlaeth lle roedd technoleg cyfathrebu yn golygu ymestyn llinyn ar draws y ffordd a rhoi tun ar bob pen iddo. [Chwerthin.] Ond rwy'n deall bod band eang cyflym iawn 96 y cant yn ardal Pontypridd yn dda iawn.
A gaf fi ofyn i chi ynglŷn ag ystadau—ystadau newydd sy'n cael eu hadeiladu? Mae yna enghraifft yn fy ardal yn Nyffryn y Coed, datblygiad Persimmon yn Llanilltud Faerdref, lle roedd yna ddau gam. Roedd y cam cyntaf yn cysylltu â band eang cyflym iawn drwy'r band eang ffeibr, ac mae hwnnw'n iawn. Ond nid yw cam 2 yn cysylltu â hwnnw—nid oes ganddo'r lefel uchaf honno, oherwydd ni ofynnodd y datblygwyr amdani. Nawr, yn sicr, rhaid bod gofyniad sy'n dweud bod yn rhaid i ddatblygiadau newydd, bron fel rhan o'u caniatâd cynllunio—gofyniad i wneud hyn mewn gwirionedd, oherwydd mae gennyf nifer fawr o etholwyr bellach sy'n dweud wrthyf mai'r cyngor gorau y maent yn ei gael yw sefydlu endid cyfreithiol i wneud cais am grant o £4,800, yna mae'n broses 17 cam, a fydd yn cymryd 12 mis, i gael y math hwnnw o gysylltiad ffeibr mewn gwirionedd.
Rwyf wedi ysgrifennu atoch am hyn, ond a yw hon yn broblem sydd wedi codi mewn mannau? Beth y gallwn ei wneud ynglŷn â hynny? Ac oni ddylem fod yn sicrhau ei bod yn rhwymedigaeth orfodol ar ddatblygwyr?