Part of 2. Cwestiynau i Arweinydd y Tŷ – Senedd Cymru am 2:37 pm ar 16 Mai 2018.
Ydi, mae wedi bod yn ddraenen gyson yn ein hystlys mewn gwirionedd, ac mae'r holl fater yn ymwneud ag a yw'n dechnoleg seilwaith neu'n gynnyrch moethus. Yn anffodus, mae Llywodraeth y DU yn parhau i'w ystyried yn gynnyrch moethus yn hytrach na seilwaith, ac felly mae gennym lai o bwerau da yn y maes o ran yr hyn y gallwn ei wneud. Ond rwyf wedi cael sgyrsiau helaeth, gyda fy Ysgrifennydd Cabinet sydd â chyfrifoldeb dros gynllunio, a chyda'r Gweinidog Tai ac Adfywio mewn gwirionedd, ynglŷn â'r hyn y gallwn ei wneud i annog cynghorau i'w gynnwys yn rhan o gytundebau 106, er enghraifft, ac i annog yr adeiladwyr tai i osod gwifrau yn eu heiddo mewn gwirionedd.
Mae gan adeiladwyr tai, lle maent yn adeiladu dros 30 o dai ar yr un pryd, gytundeb â BT i osod y seilwaith. Ond fel arall mae'n fater o negodi rhwng y datblygwr a pha gwmni technoleg bynnag y maent yn negodi â hwy.
Fodd bynnag, mae'r cynllun rydych yn sôn amdano yn gynllun ffeibr cymunedol BT. Mae gennym gynlluniau eraill ar gael yng Nghymru a chredaf eich bod wedi ysgrifennu ataf, felly byddaf yn cysylltu â chi ynglŷn ag atebion eraill a allai fod yn bosibl ar gyfer y gymuned arbennig honno. Mae'n broblem barhaus yr ydym yn ymwybodol ohoni ac rydym yn ceisio ei datrys.