Part of 2. Cwestiynau i Arweinydd y Tŷ – Senedd Cymru am 2:32 pm ar 16 Mai 2018.
Diolch. Dim ond 51 y cant o bensiynwyr sy'n byw ar eu pen eu hunain, a 25 y cant o bobl anabl yng Nghymru sydd â mynediad at y rhyngrwyd. Mae diffyg sgiliau a hyder yn aml yn ffactorau allweddol sy'n atal pobl rhag mynd ar-lein. Mae dysgu sut i ddefnyddio technoleg a mynd ar y rhyngrwyd, yn ddi-os, yn lleihau unigrwydd ac unigedd cymdeithasol ymhlith pobl hŷn, gan eu helpu i gadw mewn cysylltiad â theulu a ffrindiau. Mae meithrin sgiliau digidol yn gallu newid byd, a galluogi pobl i ailddarganfod hen gysylltiadau a ffurfio rhai newydd. Dangoswyd bod prosiectau rhyng-genhedlaeth o fudd mewn amrywiaeth o feysydd, ac mae sgiliau digidol yn ail natur i'r rhan fwyaf o bobl ifanc erbyn hyn, ac maent yn elwa o rannu eu gwybodaeth. Ceir rhai enghreifftiau gwych o amgylch Cymru lle mae hyn wedi digwydd, ond beth arall y gall Llywodraeth Cymru ei wneud i annog a chefnogi prosiectau digidol rhyng-genhedlaeth?