Part of 2. Cwestiynau i Arweinydd y Tŷ – Senedd Cymru am 2:33 pm ar 16 Mai 2018.
Wel, fel y dywedais, mae gennym brosiectau arloesol iawn ar y gweill. Ond os caf ddefnyddio rhai o'r ystadegau sydd gennym: mae 85 y cant o oedolion yng Nghymru bellach yn defnyddio'r rhyngrwyd yn rheolaidd, o gymharu â 66 y cant yn 2010, a buddsoddir £1 filiwn y flwyddyn yn y rhaglen cynhwysiant digidol benodol, ein rhaglen Cymunedau Digidol Cymru, ac rydym wedi gwneud hynny bob blwyddyn ers 2015. Ers hynny, rydym wedi cynorthwyo dros 117,300 o unigolion i ymgymryd â thechnoleg, ac rydym wedi hyfforddi dros 1,000 o arwyr digidol ifanc, sef y rhaglen rydym yn sôn amdani, lle mae pobl ifanc o ysgolion, colegau a sefydliadau ieuenctid yn gwirfoddoli i gynorthwyo pobl hŷn i ymwneud â thechnoleg ddigidol.
Mae'r rhan fwyaf o weithgareddau ariannu yn y cyswllt hwn wedi'u hanelu at fynd i'r afael â'r sgiliau digidol sylfaenol roeddem yn sôn amdanynt, gan alluogi pobl hŷn i fod yn llai ynysig yn gymdeithasol ac i gael mynediad at wasanaethau sylfaenol. Ond rydym yn ymwybodol iawn hefyd ein bod eisiau cynyddu sgiliau digidol y bobl ifanc sy'n gwneud y gwaith gwirfoddol a'r addysgu mewn gwirionedd, a chynnwys hynny yn y gwaith cwricwlwm rydym yn ei wneud, a chyda'n cynllun arwyr digidol. Felly, mae'n rhaglen wych, ac rydym yn datblygu'r ddwy ochr i hynny mewn gwirionedd, ac yn bwriadu cyflwyno hynny mor eang â phosibl drwy Gymru. Rwyf wedi bod yn trafod ag Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd ynglŷn â'r hyn y gallwn ei wneud mewn ysbytai ar gyfer pobl sydd wedi'u hynysu yn gymdeithasol, sydd wedi bod yn yr ysbyty am gyfnodau hir, lle mae gennym gynulleidfa barod ar un ystyr, Lywydd.