Part of 3. Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad – Senedd Cymru am 3:16 pm ar 16 Mai 2018.
Mae'n ymgais go iawn i geisio sicrhau bod yr ystâd yn cael ei defnyddio yn unol â'n gwaith seneddol, yn ogystal â'n hangen i gynnal trafodaethau cyhoeddus a thrafodaethau polisi o fewn ein hystâd. Y fantais o gynnal mwy na 10 digwyddiad yw bod mwy yn digwydd ar ystâd y Cynulliad, sy'n beth da. Yn hanesyddol—fel y soniais yn fy ateb yn gynharach, ac fel rydych wedi awgrymu, mae rhai Aelodau eithaf lleol i Fae Caerdydd yn gwneud cais i gynnal llawer o ddigwyddiadau. Tra bo hynny'n beth da ynddo'i hun, mae hefyd yn gallu atal eraill, sy'n gwneud cais i gynnal digwyddiadau'n fwy achlysurol, rhag cael lle. Felly, mae sicrhau mynediad cyfartal i bob Aelod yn arbennig o bwysig.
Ond os oes yna effeithiau negyddol i'r polisi rydym yn ei roi ar waith, yna mae angen i ni edrych ar y rheini. Rydym eisoes yn rhoi adolygiad cynnar ar waith i weld a yw'r system newydd o wneud cais am le ar ystâd y Cynulliad wedi cael unrhyw effaith negyddol ar y gwaith y mae Aelodau'r Cynulliad yn ei wneud. Felly, byddem yn awyddus iawn i glywed gan Aelodau'r Cynulliad pa un a oes effaith negyddol wedi bod ar eu gwaith yn eu barn hwy, a sut y gallwn ddysgu o'r profiad ac unioni pethau os oes angen.