Part of 3. Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad – Senedd Cymru am 3:18 pm ar 16 Mai 2018.
Wel, gwn yn bendant fy mod yn un o'r rheini sy'n gwneud cais am fwy na 10 digwyddiad y flwyddyn, ac yn sicr nid wyf eisiau atal unrhyw un arall rhag gallu gwneud cais am ddigwyddiad, ond yn sicr, ni fuaswn yn dymuno i'r lle beidio â chael ei ddefnyddio a'i adael yn wag. Oherwydd mai'r fan hon yw calon ein democratiaeth, rydym eisiau i bobl fod yma drwy'r amser, cymaint ag y gallwn. Ac rwy'n ofni y gallai'r polisi hwn fod yn rhy anhyblyg yn y pen draw. Nid wyf o reidrwydd yn sôn am nifer y digwyddiadau y gallwch eu cynnal, ond yn hytrach, am y math o ddigwyddiad sy'n briodol. A fyddai'r Llywydd yn gallu dweud pwy, mewn gwirionedd, sy'n penderfynu a yw digwyddiad yn briodol neu beidio? Ac oni fyddai'n well gadael i Aelodau'r Cynulliad benderfynu hynny?