Part of 3. Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad – Senedd Cymru am 3:12 pm ar 16 Mai 2018.
Rydym wedi gwneud cynnydd da yn y maes hwn drwy ymgorffori ystyriaethau'n ymwneud ag amrywiaeth a chynhwysiant yn y broses o gynllunio gwasanaethau a phrosiectau, datblygu polisi, caffael ac unrhyw newidiadau i ystâd y Cynulliad. Rydym hefyd wedi cynyddu nifer yr asesiadau o'r effaith ar gydraddoldeb a gynhaliwyd, gan gynnwys, er enghraifft, un sy'n adolygu proses recriwtio'r Comisiwn ac un ar gyfer y senedd ieuenctid.