Amrywiaeth a Chynhwysiant

Part of 3. Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad – Senedd Cymru am 3:13 pm ar 16 Mai 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mr Neil Hamilton Mr Neil Hamilton UKIP 3:13, 16 Mai 2018

(Cyfieithwyd)

Diolch i'r Comisiynydd am yr ateb hwnnw. Mae'n amlwg o ddatganiad amcan 4 ei fod yn ymwneud ag integreiddio amrywiaeth a chynhwysiant yng ngwaith pawb ohonom a gwaith y Comisiwn. A yw'r Comisiynydd, felly, yn cytuno â mi ei bod yn bwysig iawn fod Comisiynwyr eu hunain yn arwain drwy ddangos esiampl yn y maes hwn? Er bod pawb yn meddwl yn syth am gydraddoldeb hiliol, cydraddoldeb rhwng y rhywiau, cydraddoldeb o ran cyfeiriadedd rhywiol, ac ati, ac ati, mae'r cwestiwn o gyfeiriadedd gwleidyddol yr un mor bwysig hefyd. Felly, mae disgrifio Aelodau eraill—