Part of 4. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru am 3:26 pm ar 16 Mai 2018.
Diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae Cymdeithas Feddygol Prydain a Choleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol wedi ymateb yn gadarnhaol i'r cam hwn gan Lywodraeth Cymru, ac yn wir, cefais e-bost personol gan Gymdeithas Feddygol Prydain y bore yma yn dweud pa mor falch yr oeddent gyda hyn, a gwn y caiff groeso cynnes gan feddygon teulu yn fy etholaeth i hefyd. Pryd y byddwch chi mewn sefyllfa i roi newyddion pellach i ACau am waith ar unrhyw gynllun yn y dyfodol?