Part of 4. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru am 3:26 pm ar 16 Mai 2018.
Diolch i chi am y cwestiwn dilynol hwnnw. Rwy'n falch iawn eich bod wedi cydnabod y gefnogaeth a'r croeso a roddwyd gan feddygon teulu drwy Goleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol ac yn benodol drwy Gymdeithas Feddygol Prydain. Rydym wedi gweithio ochr yn ochr â Chymdeithas Feddygol Prydain, fel yr undeb llafur ar gyfer ymarferwyr cyffredinol, i weithio nid yn unig ar heriau indemniad, ond ar sut y darparwn ateb mewn gwirionedd. Mae gennym ddau ddewis penodol posibl: y cyntaf yw'r posibilrwydd o gael cynllun ar gyfer Cymru yn unig. Yr ail yw gweithio ochr yn ochr â chynllun ar gyfer Cymru a Lloegr. Mae'n rhaid i ni sicrhau bod cynllun yn fforddiadwy, fod cynllun er budd gorau meddygon teulu a'u cleifion yma yng Nghymru, a bod cynllun, fel y dywedais, yn cynnwys yr holl weithwyr gofal iechyd proffesiynol, gan gynnwys staff locwm a gweithwyr iechyd proffesiynol eraill sy'n gweithio ym maes ymarfer cyffredinol. Felly, dros y misoedd nesaf, bydd fy swyddogion yn gweithio gyda Phwyllgor Ymarferwyr Cyffredinol Cymru, sef Pwyllgor Ymarferwyr Cyffredinol Cymdeithas Feddygol Prydain, sefydliadau amddiffyn meddygol, Cronfa Risg Cymru ac adran iechyd a gwasanaethau cymdeithasol y DU, a byddaf mewn sefyllfa i ddarparu diweddariad pellach i'r Aelodau ym mis Medi eleni.