4. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru ar 16 Mai 2018.
1. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad yn dilyn cadarnhad bod Llywodraeth Cymru wedi croesawu cynigion i ailenwi'r ail bont Hafren yn bont Tywysog Cymru? 173
Ased Llywodraeth y DU yw'r ail bont Hafren. Ysgrifennodd Llywodraeth y DU at y Prif Weinidog i roi gwybod iddo am y newid enw yn 2017; nid oedd y Prif Weinidog yn gwrthwynebu'r argymhelliad.
Pan ddaru'r Ysgrifennydd Gwladol ddatgan ei fwriad i ailenwi ail bont yr Hafren, ychydig fisoedd yn ôl, yn bont Tywysog Cymru, nid ydw i'n meddwl ei fod o, chi, na'r teulu brenhinol wedi disgwyl y fath wrthwynebiad. Erbyn hyn, mae dros 40,000 o bobl wedi arwyddo deiseb yn gwrthwynebu'r cynnig ac mae pôl piniwn diweddar yn dangos mai dim ond 17 y cant o bobl Cymru sydd yn cefnogi'r syniad. Mae hynny, wrth gwrs, yn gwrth-ddweud yn llwyr eich honiad chi, Ysgrifennydd Cabinet, pan ddywedoch chi fod llawer iawn o bobl Cymru yn cefnogi'r cynlluniau yma. Ond, yn dilyn y datganiad gwreiddiol, pan ofynnwyd am ymateb Llywodraeth Cymru, eich ymateb chi oedd na wnaeth Llywodraeth Cymru godi unrhyw wrthwynebiad, ac rwy'n dyfynnu yn uniongyrchol yn fanna. Ond mae ceisiadau rhyddid gwybodaeth diweddar yn datgelu llythyr gan y Prif Weinidog i'r Ysgrifennydd Gwladol yn croesawu'r penderfyniad, a hynny yn frwdfrydig a hyd yn oed yn gofyn am wahoddiad i'r agoriad swyddogol. Mae ymateb y Prif Weinidog yn y llythyr hwn yn bell o ymateb cychwynnol y Llywodraeth. Felly, dim ond un cwestiwn sydd gennyf: a ydy'r Llywodraeth wedi camarwain y cyhoedd?
Naddo. A wyddoch chi mai'r hyn y mae pobl Cymru—ac nid fi fy hun yn unig, ond pobl Cymru—yn ei ystyried yn wirioneddol ddigalon am y lle hwn weithiau yw pa mor amherthnasol ydyw i'w bywydau? Gallai'r Aelod fod wedi gofyn cwestiwn am gannoedd o swyddi a gollwyd yn ddiweddar yn y rhanbarth y mae'n honni ei fod yn ei gynrychioli. Gallai fod wedi cyflwyno cwestiwn ar bobl ddi-waith. Na, roedd yn ymwneud ag enwi pont. Nid unwaith, ond ddwywaith—[Torri ar draws.] Nid unwaith, ond ddwywaith.
Diolch. Rwyf wedi diffodd eich meicroffon oherwydd ni allaf glywed beth rydych yn ei ddweud—[Torri ar draws.] Esgusodwch fi. [Torri ar draws.] Esgusodwch fi. Nid wyf angen unrhyw gymorth gan unrhyw Aelod yn y Siambr hon i gadw trefn ar y Siambr hon. Fodd bynnag, mae rhai ohonoch yn dechrau ymddwyn fel plant, ac os ydych eisiau cael eich trin fel plant yna fe wnaf eich trin fel plant. Nid wyf eisiau gwneud hynny. Rwyf am roi'r meicroffon yn ôl ymlaen i glywed beth roedd Ysgrifennydd y Cabinet yn ei ddweud, a hoffwn glywed ei ateb.
Diolch i chi, Ddirprwy Lywydd. Mae pobl Cymru yn troi at y Siambr hon am berthnasedd—perthnasedd i'w bywydau, perthnasedd i'w swyddi, perthnasedd i'w cymunedau—ac yn lle hynny, mae gennym bobl yn cymryd rhan mewn dadl hunanfaldodus ar enwi seilwaith. Fe ddywedaf eto, yr ateb i'r cwestiwn yw 'naddo'.
Cyflwynais gwestiwn ysgrifenedig ddoe am yr ail bont Hafren a'r cyfan a ddywedoch chi mewn ymateb—y Prif Weinidog—oedd mai ased y DU yw'r ail bont Hafren. Ond fel y clywsom, roeddech yn gwybod am hyn flwyddyn yn ôl, fe wnaethoch ei groesawu, roeddech eisiau bod yn rhan o'r dathliadau. Os ydych yn frenhinwr, pam na wnewch chi gyfaddef hynny? Pam nad ydych yn agored ac yn dryloyw gyda phobl Cymru ynglŷn â'r mater hwn? Roeddech yn ei gefnogi: cyfaddefwch hynny. Cyfaddefwch hynny.
Mae'r Aelod yn gwybod nad wyf yn frenhinwr. Mae'r Aelod yn gwybod fy mod yn weriniaethwr, ond yr hyn y mae'r enw hwn yn ei wneud yw cydnabod y cyfraniad y mae Tywysog Cymru wedi'i wneud i Gymru a'r proffil byd-eang sydd gan Dywysog Cymru. Rwy'n credu bod ymddygiad yr Aelod, unwaith eto, yn eithaf gwarthus: yn bwrw sen, yn taflu honiadau o gwmpas, heb unrhyw dystiolaeth o gwbl. Ac o ran y 40,000 o enwau ar ddeiseb, cyflwynwyd cwestiwn amserol arall heddiw ynglŷn â mater sy'n effeithio ar 27 miliwn o deithiau teithwyr y flwyddyn, ac rwy'n falch o ddweud y bydd y fasnachfraint reilffyrdd nesaf yn dechrau, fel y cynlluniwyd, ym mis Hydref eleni.
Diolch yn fawr iawn. [Torri ar draws.] Diolch. Bydd yr ail gwestiwn amserol y prynhawn yma—Vikki Howells, yn cael ei ateb gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol. Vikki Howells.