6. Dadl ar Bolisi Urddas a Pharch y Cynulliad

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:40 pm ar 16 Mai 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 3:40, 16 Mai 2018

Rwy'n croesawu'r cyfle i gyfrannu at y ddadl yma heddiw fel Cadeirydd y Comisiwn a hefyd fel Llywydd. Er na all y Dirprwy Lywydd na minnau bleidleisio yn y ddadl yma heddiw, rwyf am gofnodi ein hymrwymiad llwyr i'r polisi yma ger eich bron chi heddiw. Rwy'n ddiolchgar bod y Pwyllgor Busnes wedi penderfynu nad yw hyn yn bolisi y dylid ei fabwysiadu heb bleidlais gadarnhaol yn y Siambr heddiw, felly bydd angen pleidlais wedi'i chofnodi ar y cynnig hwn yn ddiweddarach y prynhawn yma i ddangos a phwysleisio ymrwymiad yr Aelodau i'r polisi yma.

Mae'r polisi, felly, sydd ger ein bron ni heddiw yn arwydd o garreg filltir yn y daith rŷm ni wedi cychwyn arni ers mis Hydref diwethaf i wella'r ffordd yr ydym yn ymdrin â chwynion am ymddygiad amhriodol. Rydym wedi gwrando, ymgynghori ar ein cynlluniau, a'u haddasu. Rydym hefyd wedi meincnodi ein camau gweithredu yn erbyn yr arfer gorau mewn mannau eraill er mwyn sicrhau bod gennym bolisi ar waith sy'n addas at y diben wrth inni symud yn ein blaenau.  

Hoffwn ddiolch i staff ac undebau llafur y Cynulliad am gymryd rhan yn y ddeialog adeiladol sydd wedi ein galluogi i gyrraedd y cam yma heddiw. Rydym bellach mewn sefyllfa lle cytunwyd ar bolisi'r Comisiwn drwy'r bartneriaeth â'r undebau llafur. Mae'r bwrdd taliadau, sy'n gyfrifol am delerau ac amodau'r staff rydym yn eu cyflogi fel Aelodau Cynulliad, hefyd wedi cytuno ar y polisi. Eto, mae staff cymorth yr Aelodau, trwy'r grŵp cyfeirio a'u hundebau llafur, wedi cymryd rhan mewn modd adeiladol ac effeithiol er mwyn ein helpu i gyrraedd y cam yma. 

Fel Llywydd, rwy'n addo y bydd y polisi hwn a pholisi staff y Comisiwn yn parhau i fod yn gyson. Er bod prosesau cymeradwyo gwahanol, mae cynnwys y polisi yn parhau i fod yr un peth ac, yn bwysig, rydym bellach mewn sefyllfa lle bydd yr holl grwpiau o staff—staff y Comisiwn, staff cymorth yr Aelodau, ein contractwyr ac Aelodau'r Cynulliad—yn ddarostyngedig i'r un safonau ymddygiad uchel. Roedd yn bleser gennyf glywed gan Jayne Bryant y byddwn yn cadw at y bwriad gwreiddiol o gysoni'r polisi urddas a pharch o ran Aelodau'r Cynulliad gyda chod ymddygiad Aelodau'r Cynulliad pan fydd y pwyllgor safonau wedi cwblhau ei waith.

Dim ond un o'r conglfeini, wrth gwrs, yw'r polisi urddas a pharch a fydd yn helpu i feithrin mwy o ymddiriedaeth yn y system ac yn y sefydliad. Ond mae'n ymwneud â mwy na'r gweithdrefnau polisi a chwynion sydd gennym ar waith; diwylliant y sefydliad a sut rydym ni'n ymateb i honiadau fydd yn gwneud y gwahaniaeth. Mae'r cyfrifoldeb hwnnw arnom ni i gyd fel Aelodau'r Cynulliad, Comisiynwyr, y comisiynydd safonau a'r pleidiau gwleidyddol. Ni ddylai'r pleidiau gwleidyddol fyth ysgubo'r materion yma o'r golwg, ac rwy'n edrych ymlaen at glywed gan y comisiynydd safonau maes o law am yr adolygiad y gofynnais iddo fe ei gynnal er mwyn cysoni gweithdrefnau cwyno pleidiau gyda'n gweithdrefnau cwyno ni ein hunain yn y Cynulliad. Mae'n amlwg i mi ein bod yn symud i'r cyfeiriad cywir, ond rwy'n llwyr dderbyn bod llawer mwy o waith i'w wneud, ac felly, y bydd angen inni adolygu ein sefyllfa yn barhaus o hyn ymlaen.

Rydym wedi clywed ar y cyfryngau am fenywod sydd wedi bod yn destun ymddygiad amhriodol ond nad oeddent wedi dod i'r amlwg trwy ein gweithdrefnau cwyno ni. Mynegwyd pryderon ganddynt nad yw'n prosesau ni'n glir, nad oedd y gefnogaeth yn ddigonol, a chanfyddiad mai ychydig iawn y gellid ei wneud pe bai honiadau'n cael eu hadrodd. Mae'r rhain i gyd wedi bod yn broblemau difrifol i ni ac maent wedi llywio'r gwaith rydym wedi'i wneud hyd yn hyn. Fel sefydliad, rydym am sicrhau bod pobl yn teimlo eu bod wedi'u grymuso i ddod ymlaen, ac os ydynt yn dymuno adrodd y mater yn ffurfiol, eu bod yn teimlo'n hyderus y bydd ymchwiliad yn cael ei gynnal i'w cwyn ac yr ymdrinnir â hynny'n briodol. I'r diben hwn hefyd, rydym wedi cyflwyno swyddogion cyswllt hyfforddedig nawr i gydnabod y ffaith y gall fod angen cyngor a chefnogaeth gyfrinachol ar bobl cyn penderfynu a ddylent wneud cwyn ffurfiol.

Hefyd, mae'n bleser gennyf ddweud bod hyfforddiant ymwybyddiaeth yn cael ei gyflwyno ar draws y grwpiau gwleidyddol ar hyn o bryd. Rwyf am ailadrodd heddiw yr hyn a ddywedwyd yn ein datganiadau ym mis Tachwedd a mis Chwefror: ni chaiff ymddygiad amhriodol gan Aelodau, eu staff hwy na staff y Comisiwn ei oddef. Ar y cyd, mae gennym ni i gyd gyfrifoldeb i sicrhau bod y Cynulliad Cenedlaethol yn amgylchedd ddiogel i'r rhai sy'n gweithio yma, i'r rhai sy'n ymweld â'r ystâd ac i unrhyw un sy'n ymwneud â ni. Mae'r egwyddorion hynny'n berthnasol lle bynnag rydym ni yn gwneud ein gwaith.

I gloi fy nghyfraniad, felly, mae'n werth cydnabod ein bod yn sefydliad diwylliannol amrywiol, a'n bod wedi cael llawer o wobrau am fod yn Senedd gynhwysol. Rwy'n falch o hyn, ond ni allwn orffwys ar ein rhwyfau—rhaid inni barhau i ymdrechu i wneud yn well. Er mwyn sicrhau hyder ac ymddiriedaeth y cyhoedd, rhaid i ni feithrin diwylliant sy'n gynhwysol a heb achosion o aflonyddu a rhaid i ni gael y gweithdrefnau cywir i ymateb yn effeithiol ac yn briodol pan fydd achosion yn digwydd. Mae hynny'n golygu mwy na chael polisi ar waith, er bod hynny'n bwysig; mae'n golygu ein bod ni, y 60 Aelod Cynulliad yn y Senedd yma, yn ymddwyn, bob dydd ac ym mhob lle ac ar bob cyfrwng, gydag urddas a pharch. Dyna beth mae pobl Cymru yn disgwyl ohonom ni.