– Senedd Cymru am 3:34 pm ar 16 Mai 2018.
Eitem 6 ar yr agenda y prynhawn yma yw dadl ar bolisi urddas a pharch y Cynulliad. Galwaf ar Gadeirydd y Pwyllgor Safonau Ymddygiad i gynnig y cynnig—Jayne Bryant.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n falch o gyflwyno'r polisi urddas a pharch i'r Cynulliad heddiw. Mae'n darparu eglurder i'r darpariaethau sydd eisoes yn y cod ymddygiad mewn perthynas â'r safonau uchel o urddas a pharch y gall pawb, ac y dylai pawb, eu disgwyl wrth ddod i gysylltiad ag ACau a'r bobl sy'n gysylltiedig â'r Cynulliad.
Mae hwn yn cael ei gynnig heddiw fel rhan o waith parhaus y pwyllgor safonau i greu diwylliant heb aflonyddu o unrhyw fath, diwylliant lle mae pawb yn teimlo eu bod wedi'u grymuso i herio ymddygiad amhriodol os yw'n digwydd iddynt hwy neu os ydynt yn ei weld yn digwydd i rywun arall. Daeth y pwyllgor i'r casgliad fod y polisi hwn yn angenrheidiol o ganlyniad i gasglu tystiolaeth ac adroddiadau yn y cyfryngau. Mae'n gam cadarnhaol i'r cyfeiriad cywir ar y llwybr i newid ystyrlon.
Mae'r polisi a'r canllawiau cysylltiedig yn egluro pa fath o sefydliad yw hwn a pha fath o sefydliad y mae'n rhaid iddo fod. Mae'n nodi camau i sicrhau bod pawb yn teimlo'n ddiogel ac yn gyffyrddus, a'u bod yn cael eu parchu pan fyddant yn ymwneud â Chynulliad Cenedlaethol Cymru, ac mae'n egluro'r opsiynau ar gyfer lleisio pryderon neu wneud cwynion. Cafodd ei ddrafftio gyda mewnbwn gan staff ar draws Comisiwn y Cynulliad, staff cymorth Aelodau'r Cynulliad a'r comisiynydd safonau, yn ogystal ag ymgynghoriad allanol â phobl a sefydliadau y tu allan i'r Cynulliad.
Heddiw, rydym yn gofyn i'r Aelodau ymrwymo i'r safonau a nodir yn y polisi hwn. Fel cynrychiolwyr ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru, mae angen inni ddangos arweinyddiaeth ac ysgwyddo'r cyfrifoldeb o fynd i'r afael â materion yn ymwneud ag ymddygiad amhriodol. Mae cymeradwyo'r polisi hwn heddiw yn gam pwysig i wneud hynny. Mae'r polisi hwn yn rhan o broses barhaus. Mae'r Pwyllgor Safonau Ymddygiad yn benderfynol o sicrhau ei fod yn hollol glir nad oes unrhyw le i ymddygiad amhriodol yn y Cynulliad a bod pobl yn cael eu grymuso i fynegi pryderon neu wneud cwynion.
A wnewch chi ildio?
A ydych yn ildio?
Ydw.
Diolch. Rwy'n clywed yr ymadrodd hwn drwy'r amser—'ymddygiad amhriodol'. [Torri ar draws.] A allech chi ddiffinio beth ydyw? Mae'n debyg mai'r ymddygiad mwyaf amhriodol yw gwneud honiadau ffug, er enghraifft. Mae hwn yn ymddangos yn dda iawn ar bapur, ond os edrychwch ar y diffyg parch yn y Siambr hon, wrth i mi yngan ychydig eiriau yn awr—y diffyg parch llwyr gan Aelodau gyferbyn â mi—nid yw'n ymddangos ei fod yn werth y papur y mae wedi'i ysgrifennu arno. Felly, beth yw 'amhriodol'?
[Anghlywadwy.]
Pe baech yn darllen y polisi rwy'n credu y gwelech chi—
Rydych yn rhoi parch, Weinidog, ac rydych yn ei roi yn ôl.
Diolch. Rydych wedi gwneud eich cyfraniad. Nid wyf angen i chi ddod â'r cyfraniad i ben o'ch sedd.
Rwy'n siarad â'r Gweinidog, mae'n ddrwg gennyf.
Na, nid wyf angen cyfraniadau o'ch sedd, diolch. Gadeirydd.
Fel rwy'n dweud, hoffwn bwysleisio bod y gwaith hwn yn mynd rhagddo. Nid wyf eisiau darogan canlyniad trafodaethau'r pwyllgor, ond rwyf am amlinellu bwriadau eang y pwyllgor yn fras. Rydym yn argyhoeddedig o'r angen i sicrhau bod unigolion yn teimlo eu bod yn gallu ac yn barod i drafod eu pryderon. I wneud hyn, mae'r pwyllgor yn ceisio cael mewnbwn i'r ymchwiliad o amrywiaeth eang o arbenigeddau'n ymwneud â newid diwylliannol, amrywiaeth a pharch. Mae'n bwysig fod y pwyllgor yn dod i gasgliadau cadarn sy'n seiliedig ar dystiolaeth ac argymhellion sy'n gallu llywio'r diwylliant galluogi rydym yn disgwyl i'r Cynulliad ei feithrin.
Ar hyn o bryd, rydym yn canolbwyntio ar sicrhau bod gennym y strwythurau a'r cyfleusterau cywir ar waith ar gyfer y tymor hwy. Mae hyn yn cynnwys ystyried y darpariaethau yn y cod ymddygiad a'r weithdrefn gwyno i wneud yn siŵr eu bod yn glir. Rydym yn gobeithio y bydd yr Aelodau'n cytuno i ymgorffori'r polisi hwn yn y cod yn ddiweddarach eleni pan fydd y pwyllgor wedi dod i gasgliad ar y newidiadau ehangach i'r cod ymddygiad. Rydym hefyd yn ystyried y cymorth a ddarperir i swyddfa'r comisiynydd safonau a'r angen i sicrhau bod hwn yn ddigonol ac yn briodol i ymdrin â natur sensitif cwynion.
Yn dilyn y datganiad ym mis Tachwedd, gofynnodd y Llywydd i'r comisiynydd safonau weithio gyda phob un o'r pleidiau gwleidyddol a gynrychiolir yn y Cynulliad. Roedd yn galonogol clywed, mewn cyfarfod diweddar o'r Pwyllgor Safonau Ymddygiad, fod y comisiynydd wedi cyfarfod â phob un o'r pleidiau a bod cynnydd yn cael ei wneud. Mae'n rhaid egluro prosesau, a hynny heb ryddhau unrhyw grŵp o'u cyfrifoldebau.
Rydym yn hyderus fod y darpariaethau a roddwyd ar waith yn y Cynulliad hyd yma yn symud i'r cyfeiriad cywir. Mae gofyn i bob un ohonom weithredu gydag urddas a pharch tuag at bawb ym mhob agwedd ar ein bywydau. Mae'n rhaid i'r agwedd hon fod yn sail i'r holl drafodaethau a geir yn y dyfodol. Rwy'n credu bod y polisi urddas a pharch hwn yn gosod safonau clir a disgwyliadau cadarn. Caiff ei gyflwyno i chi heddiw fel man cychwyn proses sy'n sicrhau mwy o eglurder i bawb. Gobeithio y bydd pawb yn y Siambr hon yn cefnogi'r polisi pan fyddwn yn pleidleisio ar hyn yn ddiweddarach heddiw.
Galwaf ar y Llywydd, Elin Jones.
Rwy'n croesawu'r cyfle i gyfrannu at y ddadl yma heddiw fel Cadeirydd y Comisiwn a hefyd fel Llywydd. Er na all y Dirprwy Lywydd na minnau bleidleisio yn y ddadl yma heddiw, rwyf am gofnodi ein hymrwymiad llwyr i'r polisi yma ger eich bron chi heddiw. Rwy'n ddiolchgar bod y Pwyllgor Busnes wedi penderfynu nad yw hyn yn bolisi y dylid ei fabwysiadu heb bleidlais gadarnhaol yn y Siambr heddiw, felly bydd angen pleidlais wedi'i chofnodi ar y cynnig hwn yn ddiweddarach y prynhawn yma i ddangos a phwysleisio ymrwymiad yr Aelodau i'r polisi yma.
Mae'r polisi, felly, sydd ger ein bron ni heddiw yn arwydd o garreg filltir yn y daith rŷm ni wedi cychwyn arni ers mis Hydref diwethaf i wella'r ffordd yr ydym yn ymdrin â chwynion am ymddygiad amhriodol. Rydym wedi gwrando, ymgynghori ar ein cynlluniau, a'u haddasu. Rydym hefyd wedi meincnodi ein camau gweithredu yn erbyn yr arfer gorau mewn mannau eraill er mwyn sicrhau bod gennym bolisi ar waith sy'n addas at y diben wrth inni symud yn ein blaenau.
Hoffwn ddiolch i staff ac undebau llafur y Cynulliad am gymryd rhan yn y ddeialog adeiladol sydd wedi ein galluogi i gyrraedd y cam yma heddiw. Rydym bellach mewn sefyllfa lle cytunwyd ar bolisi'r Comisiwn drwy'r bartneriaeth â'r undebau llafur. Mae'r bwrdd taliadau, sy'n gyfrifol am delerau ac amodau'r staff rydym yn eu cyflogi fel Aelodau Cynulliad, hefyd wedi cytuno ar y polisi. Eto, mae staff cymorth yr Aelodau, trwy'r grŵp cyfeirio a'u hundebau llafur, wedi cymryd rhan mewn modd adeiladol ac effeithiol er mwyn ein helpu i gyrraedd y cam yma.
Fel Llywydd, rwy'n addo y bydd y polisi hwn a pholisi staff y Comisiwn yn parhau i fod yn gyson. Er bod prosesau cymeradwyo gwahanol, mae cynnwys y polisi yn parhau i fod yr un peth ac, yn bwysig, rydym bellach mewn sefyllfa lle bydd yr holl grwpiau o staff—staff y Comisiwn, staff cymorth yr Aelodau, ein contractwyr ac Aelodau'r Cynulliad—yn ddarostyngedig i'r un safonau ymddygiad uchel. Roedd yn bleser gennyf glywed gan Jayne Bryant y byddwn yn cadw at y bwriad gwreiddiol o gysoni'r polisi urddas a pharch o ran Aelodau'r Cynulliad gyda chod ymddygiad Aelodau'r Cynulliad pan fydd y pwyllgor safonau wedi cwblhau ei waith.
Dim ond un o'r conglfeini, wrth gwrs, yw'r polisi urddas a pharch a fydd yn helpu i feithrin mwy o ymddiriedaeth yn y system ac yn y sefydliad. Ond mae'n ymwneud â mwy na'r gweithdrefnau polisi a chwynion sydd gennym ar waith; diwylliant y sefydliad a sut rydym ni'n ymateb i honiadau fydd yn gwneud y gwahaniaeth. Mae'r cyfrifoldeb hwnnw arnom ni i gyd fel Aelodau'r Cynulliad, Comisiynwyr, y comisiynydd safonau a'r pleidiau gwleidyddol. Ni ddylai'r pleidiau gwleidyddol fyth ysgubo'r materion yma o'r golwg, ac rwy'n edrych ymlaen at glywed gan y comisiynydd safonau maes o law am yr adolygiad y gofynnais iddo fe ei gynnal er mwyn cysoni gweithdrefnau cwyno pleidiau gyda'n gweithdrefnau cwyno ni ein hunain yn y Cynulliad. Mae'n amlwg i mi ein bod yn symud i'r cyfeiriad cywir, ond rwy'n llwyr dderbyn bod llawer mwy o waith i'w wneud, ac felly, y bydd angen inni adolygu ein sefyllfa yn barhaus o hyn ymlaen.
Rydym wedi clywed ar y cyfryngau am fenywod sydd wedi bod yn destun ymddygiad amhriodol ond nad oeddent wedi dod i'r amlwg trwy ein gweithdrefnau cwyno ni. Mynegwyd pryderon ganddynt nad yw'n prosesau ni'n glir, nad oedd y gefnogaeth yn ddigonol, a chanfyddiad mai ychydig iawn y gellid ei wneud pe bai honiadau'n cael eu hadrodd. Mae'r rhain i gyd wedi bod yn broblemau difrifol i ni ac maent wedi llywio'r gwaith rydym wedi'i wneud hyd yn hyn. Fel sefydliad, rydym am sicrhau bod pobl yn teimlo eu bod wedi'u grymuso i ddod ymlaen, ac os ydynt yn dymuno adrodd y mater yn ffurfiol, eu bod yn teimlo'n hyderus y bydd ymchwiliad yn cael ei gynnal i'w cwyn ac yr ymdrinnir â hynny'n briodol. I'r diben hwn hefyd, rydym wedi cyflwyno swyddogion cyswllt hyfforddedig nawr i gydnabod y ffaith y gall fod angen cyngor a chefnogaeth gyfrinachol ar bobl cyn penderfynu a ddylent wneud cwyn ffurfiol.
Hefyd, mae'n bleser gennyf ddweud bod hyfforddiant ymwybyddiaeth yn cael ei gyflwyno ar draws y grwpiau gwleidyddol ar hyn o bryd. Rwyf am ailadrodd heddiw yr hyn a ddywedwyd yn ein datganiadau ym mis Tachwedd a mis Chwefror: ni chaiff ymddygiad amhriodol gan Aelodau, eu staff hwy na staff y Comisiwn ei oddef. Ar y cyd, mae gennym ni i gyd gyfrifoldeb i sicrhau bod y Cynulliad Cenedlaethol yn amgylchedd ddiogel i'r rhai sy'n gweithio yma, i'r rhai sy'n ymweld â'r ystâd ac i unrhyw un sy'n ymwneud â ni. Mae'r egwyddorion hynny'n berthnasol lle bynnag rydym ni yn gwneud ein gwaith.
I gloi fy nghyfraniad, felly, mae'n werth cydnabod ein bod yn sefydliad diwylliannol amrywiol, a'n bod wedi cael llawer o wobrau am fod yn Senedd gynhwysol. Rwy'n falch o hyn, ond ni allwn orffwys ar ein rhwyfau—rhaid inni barhau i ymdrechu i wneud yn well. Er mwyn sicrhau hyder ac ymddiriedaeth y cyhoedd, rhaid i ni feithrin diwylliant sy'n gynhwysol a heb achosion o aflonyddu a rhaid i ni gael y gweithdrefnau cywir i ymateb yn effeithiol ac yn briodol pan fydd achosion yn digwydd. Mae hynny'n golygu mwy na chael polisi ar waith, er bod hynny'n bwysig; mae'n golygu ein bod ni, y 60 Aelod Cynulliad yn y Senedd yma, yn ymddwyn, bob dydd ac ym mhob lle ac ar bob cyfrwng, gydag urddas a pharch. Dyna beth mae pobl Cymru yn disgwyl ohonom ni.
Hoffwn ddiolch i'r Aelod Cynulliad ac unrhyw un arall, mewn gwirionedd, sy'n gweithio ar symud ymlaen gydag urddas a pharch. Gwn fod sôn am y peth fel dadl—nid wyf yn meddwl bod unrhyw drafod, unrhyw ddadl, o fath yn y byd am hyn. Wrth siarad â chi heddiw, gwnaf hynny ar ran grŵp y Ceidwadwyr Cymreig rwy'n gadeirydd arno.
Rydym yn llwyr gefnogi'r cynnig hwn—yn wir, rydym yn ei groesawu. Rwy'n siŵr na fydd, fel y dywedaf, yn fawr o ddadl, er y gwnaf—. Mae wedi mynd, mae wedi gadael y Siambr, ond roeddwn yn mynd i godi mater gyda fy nghyd-Aelod, Mr McEvoy. Buaswn yn disgwyl i'r holl Aelodau sydd yma'n bresennol gefnogi polisi, nodau ac amcanion y cynnig. Rwy'n falch iawn o weld y bydd yn cysylltu'n agos iawn â gwaith y comisiynydd safonau.
Bob amser, lle bynnag yr ydym, fel Aelodau Cynulliad, credaf y dylem fod yn ymwybodol o'n cod ymddygiad ein hunain ac egwyddorion Nolan, oherwydd rwy'n credu bod uniondeb mewn bywyd, mewn unrhyw rôl broffesiynol, yn enwedig rôl gyhoeddus, yn allweddol. Rhaid i sicrhau nad oes unrhyw le i ymddygiad amhriodol yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru, a sicrhau rhyddid rhag aflonyddu o unrhyw fath i'r rhai sy'n gysylltiedig â'r Cynulliad, fod yn egwyddor sylfaenol y parhawn i adeiladu arni. Ond credaf hefyd fod hyn yn berthnasol i ni pan fyddwn yn gweithio neu'n—. Fel y mae fy mhrif chwip yma wedi sôn o bryd i'w gilydd, rydym yn Aelodau'r Cynulliad 24 awr o bob diwrnod o'r wythnos a'r flwyddyn, ac ni ddylwn byth anghofio hynny. Rhaid iddi fod yn fraint ac yn anrhydedd i ni gynrychioli ein hetholwyr. Os caniateir ymddygiad gwael, yna buaswn eisiau cwestiynu'r sefydliad ei hun. Rhaid inni fynd ati i greu'r diwylliant cywir. Os oes ymddygiad amhriodol yn digwydd, neu hyd yn oed os ceir canfyddiad o ymddygiad amhriodol, rhaid i ni gael diwylliant lle mae gennym y dulliau cywir ar waith yma, a'r gefnogaeth, fel nad oes neb yn teimlo na allant leisio cwyn.
Mae'r Ceidwadwyr Cymreig yn croesawu nodau'r polisi urddas a pharch, gan chwalu'r rhwystrau i'r rhai a fyddai'n dymuno mynegi pryder. Mae'n hanfodol fod unrhyw un sy'n teimlo eu bod wedi wynebu aflonyddu neu ymddygiad amhriodol yn teimlo wedi'u grymuso. Mae grymuso'n allweddol. Mae hyder yn y system hefyd yn bwysig er mwyn annog pobl i fynegi eu pryder pan nad yw rhywbeth yn iawn, boed yn ganfyddedig neu'n wirioneddol. Mae'r polisi hwn yn darparu gweithdrefn glir a chyfrinachol ac yn amlinellu systemau y credaf y dylai pobl allu ymddiried ynddynt.
Fe ddywedaf hyn, er hynny: rwyf wedi bod yn siomedig tu hwnt, a byddaf yn ysgrifennu at y BBC, a gofynnwyd i mi gan aelodau o fy staff fy hun—. Credaf fod arolwg wedi ei anfon gan y BBC at bob aelod o staff Aelodau'r Cynulliad, ac mae'r cwestiynau yno'n rhai cyffredin, ac mae rhai ohonynt, mewn gwirionedd, yn ymwthgar yn fy marn i. Rwy'n teimlo mewn gwirionedd ei fod wedi peri tramgwydd a gofid i rai aelodau o staff, ac rwy'n teimlo bod angen i'r BBC eu hunain edrych i mewn ar eu sefydliad eu hunain, oherwydd os ydym yn mynd i gael diwylliant o ymddiriedaeth a gonestrwydd ac ymddygiad priodol, rwy'n siomedig iawn ynghylch natur a chywair yr arolwg a aeth allan, a byddaf yn ysgrifennu at y BBC. Nid oes systemau cymorth ar waith mewn perthynas â'r arolwg penodol hwnnw, ac mae rhai o'r cwestiynau yn mynd yn rhy bell yn fy marn i. Felly, roeddwn am gofnodi hynny oherwydd byddaf yn ysgrifennu ar ran y grŵp. Diolch.
Rydw i'n codi i gefnogi'r cynnig yma i gymeradwyo polisi urddas a pharch y Cynulliad. Mae e'n gyfraniad pwysig at roi fwy o eglurder i ni ar nifer o agweddau pwysig, hynny yw beth yw disgwyliadau'r Cynulliad Cenedlaethol yma o unrhyw un sy'n ymwneud â'r sefydliad, beth yw ymddygiad amhriodol, beth i'w wneud os ŷch chi am wneud cwyn ynglŷn ag achos a beth yw'r gweithdrefnau perthnasol, a sut hefyd, wrth gwrs, y bydd achwynwyr, tystion a'r rhai sydd â chŵyn yn eu herbyn nhw yn cael eu diogelu o fewn y prosesau yma. Mae e i gyd yn gyfraniad pwysig, yn fy marn i, at fater pwysig i ni fel sefydliad. Ond mae angen, rydw i'n meddwl hefyd, taro nodyn o rybudd fan hyn. Un cam bychan yw'r polisi yma mewn taith lawer iawn yn hirach, a pheidied neb â meddwl y gall un ddogfen bolisi fel hyn fod yn ddigonol, ac y gall y Cynulliad wedyn symud ymlaen yn ei sgil. Mae yna broses ehangach ar waith fan hyn, ac fel y cyfeiriodd Cadeirydd y pwyllgor safonau, mae'r pwyllgor hwnnw yn gwneud llawer o'r gwaith yna ar hyn o bryd.
Nawr, mae'r dystiolaeth rŷm ni fel pwyllgor safonau wedi ei chael wedi bod yn sobreiddiol, ac wedi gwneud inni sylweddoli cymaint o waith sydd yna sydd angen ei wneud. Fe welsom ni'r wythnos yma, wrth gwrs, adroddiadau am y ffigurau brawychus o Brifysgol Caerdydd, a oedd yn dweud stori wahanol iawn, efallai, i'r canfyddiad sydd gan nifer o bobl ynglŷn â hyd a lled y felltith yma o aflonyddu a chamdriniaeth. Roedd e'n codi cwr y llen ar broblem sy'n llawer mwy cyffredin nag, efallai, mae nifer ohonom ni wedi ei ddychmygu, ac mae angen cydnabod, yn fy marn i, fod Prifysgol Caerdydd wedi bod yn rhagweithiol yn gosod y platfform ar-lein yma yn ei le er mwyn cofnodi achosion o gam-drin ac o aflonyddu.
Fe amlygwyd hon yn enghraifft inni yn ein tystiolaeth fel pwyllgor safonau, ac, yn sicr, rydw i'n meddwl ei fod yn rhywbeth y dylem ni fod yn ei ystyried fel opsiwn posib i ni fan hyn yn y Cynulliad, i ddatblygu cyfrwng o'r fath hefyd, oherwydd, fel y polisi parch ac urddas sydd o'n blaenau ni heddiw, mi fyddai fe, o bosib, yn un ffordd arall o fynd i'r afael â ac o daclo'r broblem yma. Oherwydd po fwyaf o gyfleoedd a chyfryngau sydd yna i godi, nodi a chofrestru’r materion yma, yna'r mwyaf tebygol yw hi y bydd dioddefwyr a thystion yn dod ymlaen, ac, yn sgil hynny, wrth gwrs, y mwyaf tebygol yw hi y byddan nhw wedyn, yn eu tro, yn cael y cymorth a'r gefnogaeth sydd eu hangen arnyn nhw, ac wedyn, wrth gwrs, yn sgil hynny, y mwyaf tebygol yw hi y medrwn ni fynd i'r afael â'r broblem yma a chreu diwylliant go iawn o barch ac urddas, nid dim ond ar bapur mewn polisi, nid dim ond o fewn y Cynulliad fel sefydliad, ond, wrth gwrs, ar draws cymdeithas yn ehangach.
Nid wyf yn cael unrhyw anhawster i ymrwymo i dri pharagraff cyntaf yr amcanion yn y polisi urddas a pharch hwn. Wrth gwrs y dylai pawb deimlo'n ddiogel, yn gyfforddus a chael eu parchu pan fyddant yn ymwneud â'r Cynulliad Cenedlaethol, a dylai pobl sy'n gweithio yma deimlo'n ddiogel ac yn gyfforddus, a chael eu parchu yn eu hamgylchedd gwaith. Rwy'n cytuno hefyd fod diwylliant y Cynulliad yn amrywiol a chynhwysol.
Ond rwyf am leisio gair o rybudd ynghylch amhendantrwydd peth o eiriad y polisi hwn, a hefyd ei gyrhaeddiad honedig i bawb ohonom fel Aelodau Cynulliad yn gweithredu fel unigolion preifat, hyd yn oed ar wyliau er enghraifft, neu mewn unrhyw sefyllfa breifat mewn gwirionedd. Credaf y dylem fod yn ofalus iawn ynglŷn â'r hyn yr ydym yn ei wneud yma. Os rhown ein hunain mewn sefyllfa lle y gall pobl o'r tu allan, fel y mae Janet Finch-Saunders wedi nodi'n barod, ymgymryd â gweithredoedd honedig o wyliadwriaeth—gellir gwneud hyn yn gudd yn ogystal, nid yn unig yn agored, fel y disgrifiodd, ac rydym ni, felly, yn ein holl ymwneud mewn bywyd preifat, boed ar ôl ychydig o ddiodydd yn y dafarn neu mewn bwyty, neu hyd yn oed yn ein cartref preifat ein hunain, a allai fod wedi ei fygio, yn dweud jôc a allai o bosibl beri tramgwydd i rywun a allai wneud cwyn—gallai hwn fod yn offeryn gormesol.
Nawr, fe rof un enghraifft amserol iawn. Mae'r Athro Richard Lebow, sy'n athro mewn theori wleidyddol ryngwladol yn King's College Llundain, ar hyn o bryd yn destun ymchwiliad gan y Gymdeithas Astudiaethau Rhyngwladol oherwydd iddo wneud y camgymeriad, yn un o'u cynadleddau yr wythnos diwethaf, rwy'n credu, o fynd i mewn i lifft gorlawn, a phan ofynnwyd iddo, 'Pa lawr ydych chi ei eisiau?', fe ddywedodd, 'Dillad isaf menywod'. Nawr, cafodd hyn ei wneud yn destun cwyn gan athro astudiaethau rhywedd yn un o brifysgolion gorllewin canol America, rwy'n credu. Mae bellach mewn perygl o gael ei yrfa broffesiynol wedi'i thanseilio, neu hyd yn oed ei dinistrio efallai am fod rhywun yn dal dig tuag ato, neu ei duedd wledidyddol ganfyddedig neu ragdybiedig.
Nawr, os ydym yn dehongli termau'r polisi urddas a pharch hwn yn gymesur ac yn synhwyrol, wrth gwrs nad ydym yn mynd i roi ein hunain mewn perygl, ond mae penderfyniadau diweddar yn fy mhoeni. Ac nid wyf am fanylu ar yr achos unigol, ond siaradais amdano yn y ddadl ar adroddiad y pwyllgor safonau yr wythnos cyn diwethaf, neu ddwy neu dair wythnos yn ôl. Rwy'n credu bod yn rhaid inni fireinio'r datganiad hwn fel ein bod yn gosod rhyw brawf rhesymoldeb ar y drosedd yr ydym yn ei chreu. Wrth gwrs, nid wyf am amharu ar urddas pobl eraill drwy unrhyw beth a wnaf neu a ddywedaf, ond nid wyf yn rheoli sut yr effeithir ar eraill gan yr hyn a ddywedaf. Gallai rhywun deimlo sarhad afresymol ynglŷn â rhywbeth a ddywedais, a gallai arwain at gŵyn ddisgyblu, a gallai hynny fod yn berthnasol i bob unigolyn, nid yn unig i rywun sy'n Aelod o'r Cynulliad hwn, ond pawb sy'n gweithio yma neu'n dod i gysylltiad â ni yn swyddogol. Ac yn hynny o beth, rwy'n credu bod problemau difrifol yma, ynghylch rhyddid i lefaru, ynghylch preifatrwydd—caiff y ddau eu gwarchod gan y confensiwn Ewropeaidd ar hawliau dynol a deddfwriaeth hawliau dynol eraill—a chredaf nad ydym wedi rhoi digon o ofal a sylw i'r mater hwn drwy ddrafftio'r datganiadau cyffredinol eang hyn o egwyddor heb unrhyw gyfyngiad, a'u cymhwyso i ni yn ein bywydau bob dydd, 24 awr y dydd bob dydd, fel y mae Paul Davies wedi nodi'n flaenorol. Felly, hoffwn ychwanegu gair o rybudd, heb ddymuno gwrthwynebu'r ddogfen bolisi, y dylem gyflwyno rhyw brawf rhesymoldeb a chymesuredd i'r hyn a wnawn.
Rwy'n siarad y prynhawn yma ar ran y grŵp Llafur, a hoffwn gofnodi ein diolch i'r Pwyllgor Safonau Ymddygiad am gynhyrchu'r polisi urddas a pharch sydd ger ein bron. Mae'r grŵp Llafur yn cefnogi'n gryf y mesurau a gryfhawyd i ddiogelu pawb sy'n gweithio yn ein Cynulliad Cenedlaethol neu'n wir, sy'n ymgysylltu ag Aelodau a'u staff.
Credwn fod y mecanweithiau cymorth a'r gweithdrefnau cryfach yn glir, yn gynhwysfawr ac yn briodol i bawb. Rydym hefyd yn croesawu'n fawr y ffordd y datblygwyd y polisi mewn partneriaeth agos gyda staff, gydag Aelodau ac yn wir, gyda'r rhai sydd ag arbenigedd yn y maes hwn. Mae eu barn a'u profiad wedi bod yn amhrisiadwy wrth lunio'r polisi newydd hwn. Fodd bynnag, fel y mae cyfranwyr eraill wedi nodi, mae'r ddadl hon yn ymwneud â mwy na phleidlais ar ddogfen y prynhawn yma. Yn hanfodol, mae'n ymwneud â sut yr ydym ni, fel Aelodau, staff ac fel sefydliad yn ymgorffori egwyddorion urddas a pharch ym mhopeth a wnawn.
Fel grŵp, byddwn yn ymgymryd â hyfforddiant urddas a pharch er mwyn helpu i ymgorffori'r polisi hwn ymhellach yn ein gwaith, a gwn y bydd grwpiau eraill hefyd yn cymryd rhan mewn ffordd debyg. Rydym yn edrych ymlaen at gydweithio ag eraill ar draws y Cynulliad, wrth i'r polisi gael ei gyflwyno a'i ddatblygu, er mwyn sicrhau y bydd yn parhau i gyflawni'r amcanion pwysig a nodwyd heddiw.
Ddirprwy Lywydd, rydym eisiau gweld pawb yn cael eu trin ag urddas a pharch, a dyna pam y byddwn yn cefnogi'r polisi hwn heddiw.
Diolch yn fawr iawn. Mae gennyf nifer o siaradwyr ar hyn. Nid wyf yn mynd i allu cynnwys llawer mwy ohonoch chi, ond fe gymeraf ddau siaradwr arall. Felly, fe gymeraf Siân Gwenllian.
Diolch yn fawr iawn. Mae'r diffiniad o ymddygiad amhriodol yn cael ei gynnwys yn y polisi urddas a pharch, ac mae o'n cynnwys aflonyddu, aflonyddu rhywiol, bwlio, bygwth, a gwahaniaethu anghyfreithlon. O edrych yn benodol ar ymddygiad rhywiol amhriodol, y diffiniad ydy:
'ymddygiad nas dymunwyd o natur rywiol tuag at rywun arall…Gall ymddygiad "o natur rywiol"…gynnwys, er enghraifft, awgrymiadau rhywiol annerbyniol…jôcs rhywiol, arddangos ffotograffau neu luniau pornograffig, gofyn am ffafrau rhywiol', ac yn y blaen. Hynny yw, mae o'n ddiffiniad eang, ac yn ehangach nag ymddygiad corfforol yn unig. Rŵan, rydw i'n croesawu'r diffiniad yma yn fawr iawn, ac yn croesawu'r polisi yn gyffredinol, ond rhaid dweud, fel y mae eraill wedi ei ddweud, mai cam cyntaf i'r cyfeiriad iawn ydy hyn heddiw.
Mae'n hollol amlwg bod angen newid diwylliannol radical ar draws cymdeithas yng Nghymru, ac rydw i yn galw, unwaith eto, ar Lywodraeth Cymru i gynnal arolwg cenedlaethol a sgwrs genedlaethol ar aflonyddu rhywiol a thrais rhywiol. Byddai hynny yn codi proffil y broblem, yn gyfrwng i adael i ddioddefwyr wybod bod Llywodraeth Cymru a'r Cynulliad Cenedlaethol ar eu hochr nhw, a hefyd yn ffordd o egluro beth ydy natur aflonyddu, beth ydy'r gwahanol elfennau, a pham nad yw'n dderbyniol. Mi ddylai'r sgwrs hefyd gynnwys dulliau y dylai dioddefwyr eu defnyddio i wrthsefyll ymddygiad anfoddhaol, hynny yw, sut i ateb yn y fan a'r lle, yn ogystal â chwyno'n swyddogol ar ôl i ymddygiad ddigwydd.
Mae aflonyddu rhywiol yn digwydd ym mhob man, ac efallai bod y ffocws wedi bod, cyn belled, ar aflonyddu yn y man gwaith, ond mae'n bryd cydnabod ei fod yn digwydd ar ein strydoedd, yn ein tafarndai, yn ein mannau cymdeithasol hefyd. Mae aflonyddu rhywiol yn symptomatig o sut y mae merched yn cael eu trin yn eilradd yn y gymdeithas yma, ac mae'n rhaid cydnabod bod y continwwm o drais ac aflonyddu merched yn ymwneud â phatrymau ehangach, diwylliannol o anghydraddoldeb rhywedd. Ac yn ganolog i’r cyfan mae cynnal ac atgynhyrchu perthynas o bŵer anghyfartal. Mi fydd datrys y broblem yn dasg anferth, ac mae’n gorfod cynnwys datrysiad diwylliannol, cymdeithasol eang, ac mae hynny, yn fy marn i, yn cychwyn efo trafodaeth genedlaethol. Mae’n cynnwys edrych ar y byd addysg i newid ymddygiad. Mae angen inni gychwyn o’r oedran cynnar, gan ddysgu plant a phobl ifanc am berthynas iach, a darparu addysg ryw gynhwysfawr ac ymrwymo i gyflwyno addysg orfodol a chynhwysfawr am ryw a pherthynas iach yn ein hysgolion cyn gynted ag y bo modd.
Mae hefyd angen inni greu gofod lle y mae’n bosibl i unigolion drafod y materion yma’n agored ac yn hyderus, ac y mae agwedd ragweithiol Prifysgol Caerdydd, er enghraifft, wrth greu llwyfan i adrodd am achosion o gam-drin, yn esiampl y dylai sefydliadau eraill ei dilyn. Y mwyaf o gyfleoedd i adrodd am achosion o’r fath, y mwyaf tebygol yw hi y bydd dioddefwyr yn dod ymlaen ac yn derbyn y gefnogaeth sydd ei hangen arnyn nhw. Mae hynny, yn ei dro, yn ei gwneud yn fwy tebygol y gallwn ni greu diwylliant o barch ac urddas yng ngwir ystyr y gair, ac nid yn unig yn y Cynulliad Cenedlaethol yma ond ar draws cymdeithas gyfan.
Rydw i'n meddwl y bydd Jane Hutt yn sôn, mewn ychydig, am ddatblygiad newydd, ac fe fyddaf i’n croesawu cydweithio efo Aelodau benywaidd eraill yn y Siambr yma, nid yn unig i drafod y polisi yma yn ehangach, ond er mwyn trafod materion yn ymwneud â rhywedd yn gyffredinol er mwyn—
A oes ots gennych imi wneud ymyriad? Mae'n un bach.
Mae'n ddrwg gennyf, roeddwn ar fin gorffen.
Dim ond ymyriad bach. Diolch i chi am ei gymryd. Rydych yn cadw dweud 'menywod'. Buaswn yn hoffi meddwl bod—ac rwy'n siŵr ei fod—unrhyw gyflogeion neu aelod o staff gwrywaidd neu—. Rhaid i hyn fod ar draws y rhaniad rhwng y rhywiau, oherwydd rhaid inni fod yn gwbl agored. Roeddwn am gofnodi hynny.
Wrth gwrs, rydw i'n cytuno yn llwyr efo chi, ond mae’r ystadegau yn dweud stori glir iawn: fod merched yn llawer iawn mwy tebygol o fod wedi cael eu heffeithio gan aflonyddu a thrais. Er enghraifft, mae un o bob pedair o ferched yng Nghymru a Lloegr yn dioddef camdrin domestig; dynion 13 y cant. Felly, mae yna anghyfartaledd yna, ond nid yw hynny i ddweud, wrth gwrs, nad ydyw yn digwydd i ddynion hefyd. Fe wnaf i orffen ar y nodyn yna. Diolch.
Iawn. Diolch. A chan fod Jane Hutt wedi'i chrybwyll, Jane Hutt. [Chwerthin.]
Diolch ichi, Ddirprwy Lywydd. A gaf fi groesawu'r ddadl hon heddiw ar urddas a pharch, gan gydnabod rôl y Pwyllgor Safonau Ymddygiad yn ein dwyn at y pwynt hwn lle mae cyfle i'r Cynulliad cyfan ategu'r datganiad urddas a pharch? Rwy'n falch eich bod yn cydnabod hwn, Jayne Bryant, fel Cadeirydd y pwyllgor, fel rhywbeth sy'n agored ar gyfer ei adolygu a'i ddatblygu, gan ddysgu o'r ddadl hon a'r dystiolaeth barhaus i'r pwyllgor. Ac fel y dywedoch chi, mae'n gam i'r cyfeiriad cywir fel llwybr tuag at newid ystyrlon a chyd-ddysgu, wrth gwrs, yn y Cynulliad hwn. Rwy'n falch fod y Llywydd wedi sôn am yr hyfforddiant sydd ar gael, a deallaf fod rhai ohonoch wedi'i gael—codi ymwybyddiaeth ynghylch urddas a pharch. Gobeithio y gallwn sicrhau cytundeb trawsbleidiol gan holl Aelodau'r Cynulliad i gyflawni'r hyfforddiant hwn. Byddai hynny'n dangos ymrwymiad go iawn.
Mae'n briodol ein bod yn trafod y datganiad hwn yr wythnos hon, yn dilyn y datganiad a wnaed gan Julie James ddoe ar y Diwrnod Rhyngwladol yn erbyn Homoffobia, Deuffobia a Thrawsffobia a'r sylw hefyd a dynnodd Jack Sargeant at Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl, pan ddywedodd fod yn rhaid i bawb ohonom weithio gyda'n gilydd i ddod o hyd i atebion i helpu pobl sy'n dioddef problemau iechyd meddwl. Mae hyn oll yn rhan o'n hymdrech i ddysgu a byw agenda urddas a pharch yma yn y Cynulliad.
Rydym yn gwybod faint mwy sydd angen ei wneud ym mhob ffordd, fel y dywedodd Vikki Howells—fel unigolion, fel Aelodau etholedig, fel cyflogwyr, rhaid inni wneud hyn yn flaenoriaeth. Credaf hefyd y gallwn ddysgu gan sefydliadau eraill fel Prifysgol Caerdydd. Roedd yn dda clywed gan Gwyneth Sweatman o Undeb Cenedlaethol Myfyrwyr Cymru ynglŷn â pha mor effeithiol y mae'r system ar-lein newydd wedi bod i alluogi myfyrwyr i adrodd am achosion o drais ac ymosodiadau—mae 101 o ddigwyddiadau wedi'u cofnodi gan fyfyrwyr ers mis Hydref diwethaf. Gallwn ddysgu gan yr eraill hynny, lle y gallwn weld bod y system ar-lein newydd hon wedi meithrin hyder, hyder i alluogi pobl i adrodd cwynion, a dyna sydd ei angen arnom yma.
Rwy'n arbennig o awyddus i gefnogi'r datganiad yng ngoleuni ein hangen fel Cynulliad i fod ar flaen y gad yn hyrwyddo cyfle cyfartal i bawb, gyda gwleidyddiaeth fwy caredig, yn rhydd rhag gwahaniaethu, ymddygiad amhriodol ac aflonyddu. Mae Mary Beard, yn ei maniffesto 'Women and Power', yn ein hatgoffa am gyfleoedd sydd gennym yma yn y Cynulliad yn fy marn i i newid ein diwylliant gwleidyddol, fel y gallwn fod yn fwy rhagweithiol ynghylch y math o Gynulliad sydd gennym yma. Mae hi'n awgrymu bod hynny'n golygu meddwl am bŵer mewn ffordd wahanol. Mae'n golygu ei ddatgysylltu o fri cyhoeddus. Mae'n golygu meddwl yn gydweithredol am bŵer dilynwyr, nid arweinwyr yn unig. Yr hyn sydd gennyf mewn golwg yw'r gallu i wneud gwahaniaeth i'r byd, a'r hawl i gael ein cymryd o ddifrif, gyda'n gilydd ac fel unigolion.
Mae Siân Gwenllian wedi gwneud awgrym buddiol ynglŷn â sgwrs genedlaethol ar aflonyddu rhywiol. Mae Llywodraeth Cymru yn cynnal adolygiad rhywedd. Gwyddom o'r ymgyrch #MeToo fod menywod dewr wedi bod yn codi llais o amgylch y byd. Fel y dywedodd Catherine Fookes, mae'r ymgyrch #MeToo yn grymuso hyn. Mae hon yn adeg i symud ymlaen tuag at gymdeithas sy'n gyfartal, a lle y gall menywod fod yn rhydd o rywiaeth fympwyol, neu waeth.
Diolch i'r Aelod am ildio, a gresynaf nad yw'r ddadl hon yn hwy na hanner awr o hyd, oherwydd mae llawer i'w ddweud ar y mater hwn. Ond tybed a oedd hi'n ymwybodol o'r gweithgor trawsbleidiol yn San Steffan sydd wedi argymell y dylid sefydlu swydd cynghorydd annibynnol ar drais rhywiol, gan gadw mewn cof y dylai cynghorydd wedi'i hyfforddi mewn trais rhywiol ymdrin ag aflonyddu a thrais rhywiol mewn gweithdrefn ar wahân i gwynion am fathau eraill o ymddygiad amhriodol. Tybed a oedd yr Aelod yn ystyried yr argymhelliad hwnnw pan oedd yn sôn am yr ymgyrchoedd hynny.
Credaf fod hynny hefyd yn rhywbeth y gall y Pwyllgor Safonau Ymddygiad fwrw ymlaen ag ef. Ond gan fod Siân Gwenllian yn ddefnyddiol iawn wedi rhoi rhagolwg o gyhoeddiad rwy'n ei wneud heddiw, rydym yn ceisio sefydlu grŵp trawsbleidiol newydd ar gydraddoldeb menywod i helpu i symud yr agenda hon yn ei blaen, ac yn amlwg gan ystyried tystiolaeth o'r fath am Bwyllgor Menywod a Chydraddoldebau pwerus iawn yn San Steffan a gadeirir gan Maria Miller. Rydym am gefnogi gwaith y Pwyllgor Safonau Ymddygiad ar urddas a pharch, a gwneud yn siŵr fod y Cynulliad a'r Llywodraeth unwaith eto yn arwain y ffordd ar gyfle cyfartal a chydraddoldeb canlyniadau yng Nghymru.
Y neges allweddol, rwy'n meddwl, yw bod angen inni sicrhau bod ein polisïau a'n gweithdrefnau ar waith, fod pobl yn hyderus yn ei gylch ar draws y Cynulliad cyfan a'r rhai rydym yn eu cynrychioli a'u gwasanaethu. Rhaid i hynny fod yn ei le, ac yna rhaid i bawb ohonom gael ein dwyn i gyfrif.
Diolch yn fawr iawn. Galwaf yn awr ar Jayne Bryant i ymateb i'r ddadl.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Diolch yn fawr iawn i bawb sydd wedi siarad heddiw. Rwy'n gwerthfawrogi eich cyfraniadau i gyd yn fawr iawn, ac rwy'n annog pob Aelod o'r Siambr hon i ymwneud â gwaith y pwyllgor dros y misoedd nesaf i sicrhau nad oes lle o gwbl i unrhyw ymddygiad amhriodol yn y Cynulliad hwn. Unwaith eto, fel y dywedais, ac fel y mae nifer ohonoch wedi sôn, mae'n gam cadarnhaol i'r cyfeiriad iawn, ond unwaith eto, rhaid imi bwysleisio mai man cychwyn yw hwn mewn gwirionedd, ac mae llawer i'w wneud eto. Mae gwaith y pwyllgor yn parhau, a bydd yr Aelodau yn cael y wybodaeth ddiweddaraf. Y cam nesaf fydd cyhoeddi adroddiad y Pwyllgor Safonau Ymddygiad, a bwriadwn wneud hynny cyn toriad yr haf gobeithio.
Yn gyntaf, hoffwn ddiolch i'r Llywydd am ei sylwadau a'i chefnogaeth gref i gael hyn yn iawn drwy gydol y broses. Mae'n bwysig iawn ei bod hi'n gefnogol ac yn awyddus iawn i wneud hyn. Fel y dywedodd y Llywydd yn ei chyfraniad, mae'n ymwneud â mwy na'r polisi a'r weithdrefn gwyno sydd gennym ar waith; mae'n ymwneud â diwylliant y sefydliad a'r modd y byddwn yn ymateb i honiadau a fydd yn gwneud y gwahaniaeth, a bydd y materion hynny'n her barhaus. Ac fel y dywedais, bydd y Pwyllgor Safonau Ymddygiad yn parhau i edrych ar hynny ac ar y materion hynny.
Janet Finch-Saunders, diolch yn fawr i chi am eich sylwadau a'ch cefnogaeth gref, a'ch ymrwymiad cryf i ddileu unrhyw ymddygiad amhriodol. Mae'n hanfodol fod gan bobl hyder yn y weithdrefn honno. Felly, diolch i chi. Llyr, dyma gyfle i ddiolch i chi ac aelodau eraill y pwyllgor am eich holl gefnogaeth, gan mai pwyllgor trawsbleidiol ydym ni, ac rwy'n gwerthfawrogi'r ffaith eich bod wedi tanlinellu pa mor bwysig yw'r gwaith hwn a'i fod yn rhan o'n gwaith parhaus, oherwydd yn sicr, rhan ydyw o waith ehangach y byddwn yn ei wneud.
Neil Hamilton, diolch i chi am eich sylwadau a'ch cefnogaeth i'r polisi hwn. Hoffwn ddweud bod y comisiynydd safonau yn annibynnol ac mae'n ymchwilio i unrhyw gwynion fel cam cyntaf. Vikki Howells, diolch i chi unwaith eto am eich cefnogaeth, ac fe sonioch chi am yr hyfforddiant urddas a pharch rwyf fi a'r Llywydd a'r Dirprwy Lywydd, ac Aelodau eraill, rwy'n credu, wedi'i gael. Hoffwn weld cynifer o Aelodau, os nad yr holl Aelodau, mewn gwirionedd, yn cael yr hyfforddiant gwirioneddol bwysig hwn mewn gwirionedd. Felly, credaf fod hynny'n rhywbeth y mae'n bwysig inni wneud amser ar ei gyfer.
Siân, fel rydych wedi dweud, mae'r diffiniad yn glir yn y polisi ac roedd eich cyfraniad yn tynnu sylw at y cyd-destun ehangach sy'n rhaid rhoi sylw iddo ac fe sonioch am y drafodaeth genedlaethol, ac rwy'n edrych ymlaen yn fawr at weithio gyda chi a gweld sut y gall y pwyllgor gymryd rhan yn hynny yn ogystal. Jane Hutt, fe sonioch chi fod yn rhaid i bawb ohonom fyw gydag urddas a pharch ac mae'n rhaid i bawb ohonom arwain gyda hyn fel agenda, ac mae gwir angen inni wneud hynny yn y Cynulliad. Rwy'n croesawu'r ffaith bod grŵp trawsbleidiol wedi'i sefydlu, ac edrychaf ymlaen at weithio gyda chi, fel y bydd y pwyllgor safonau hefyd, rwy'n siŵr. Diolch i Julie Morgan am ei hymyriad, oherwydd rwy'n siŵr y bydd y pwyntiau a godwyd gennych yn cael eu hystyried yng nghyd-destun ehangach gwaith y Cynulliad a gwaith y pwyllgor safonau.
Felly, diolch i bawb sydd wedi gwneud sylwadau heddiw ac mae'n gam pwysig ymlaen. Mae hwn yn gyfrifoldeb ar bob un ohonom, ac anogaf bob Aelod i gefnogi hyn heddiw. Diolch.
Diolch yn fawr iawn. Fel yr awgrymodd y Llywydd yn ei chyfraniad, yn unol â Reol Sefydlog 11.15, mae'r Pwyllgor Busnes wedi penderfynu y bydd pleidlais ar y cynnig hwn yn cael ei wneud drwy ddull cofnodedig ac felly cynhelir y bleidlais yn ystod yr cyfnod pleidleisio.