Part of the debate – Senedd Cymru am 3:36 pm ar 16 Mai 2018.
Diolch. Rwy'n clywed yr ymadrodd hwn drwy'r amser—'ymddygiad amhriodol'. [Torri ar draws.] A allech chi ddiffinio beth ydyw? Mae'n debyg mai'r ymddygiad mwyaf amhriodol yw gwneud honiadau ffug, er enghraifft. Mae hwn yn ymddangos yn dda iawn ar bapur, ond os edrychwch ar y diffyg parch yn y Siambr hon, wrth i mi yngan ychydig eiriau yn awr—y diffyg parch llwyr gan Aelodau gyferbyn â mi—nid yw'n ymddangos ei fod yn werth y papur y mae wedi'i ysgrifennu arno. Felly, beth yw 'amhriodol'?