Part of the debate – Senedd Cymru am 3:37 pm ar 16 Mai 2018.
Fel rwy'n dweud, hoffwn bwysleisio bod y gwaith hwn yn mynd rhagddo. Nid wyf eisiau darogan canlyniad trafodaethau'r pwyllgor, ond rwyf am amlinellu bwriadau eang y pwyllgor yn fras. Rydym yn argyhoeddedig o'r angen i sicrhau bod unigolion yn teimlo eu bod yn gallu ac yn barod i drafod eu pryderon. I wneud hyn, mae'r pwyllgor yn ceisio cael mewnbwn i'r ymchwiliad o amrywiaeth eang o arbenigeddau'n ymwneud â newid diwylliannol, amrywiaeth a pharch. Mae'n bwysig fod y pwyllgor yn dod i gasgliadau cadarn sy'n seiliedig ar dystiolaeth ac argymhellion sy'n gallu llywio'r diwylliant galluogi rydym yn disgwyl i'r Cynulliad ei feithrin.
Ar hyn o bryd, rydym yn canolbwyntio ar sicrhau bod gennym y strwythurau a'r cyfleusterau cywir ar waith ar gyfer y tymor hwy. Mae hyn yn cynnwys ystyried y darpariaethau yn y cod ymddygiad a'r weithdrefn gwyno i wneud yn siŵr eu bod yn glir. Rydym yn gobeithio y bydd yr Aelodau'n cytuno i ymgorffori'r polisi hwn yn y cod yn ddiweddarach eleni pan fydd y pwyllgor wedi dod i gasgliad ar y newidiadau ehangach i'r cod ymddygiad. Rydym hefyd yn ystyried y cymorth a ddarperir i swyddfa'r comisiynydd safonau a'r angen i sicrhau bod hwn yn ddigonol ac yn briodol i ymdrin â natur sensitif cwynion.
Yn dilyn y datganiad ym mis Tachwedd, gofynnodd y Llywydd i'r comisiynydd safonau weithio gyda phob un o'r pleidiau gwleidyddol a gynrychiolir yn y Cynulliad. Roedd yn galonogol clywed, mewn cyfarfod diweddar o'r Pwyllgor Safonau Ymddygiad, fod y comisiynydd wedi cyfarfod â phob un o'r pleidiau a bod cynnydd yn cael ei wneud. Mae'n rhaid egluro prosesau, a hynny heb ryddhau unrhyw grŵp o'u cyfrifoldebau.
Rydym yn hyderus fod y darpariaethau a roddwyd ar waith yn y Cynulliad hyd yma yn symud i'r cyfeiriad cywir. Mae gofyn i bob un ohonom weithredu gydag urddas a pharch tuag at bawb ym mhob agwedd ar ein bywydau. Mae'n rhaid i'r agwedd hon fod yn sail i'r holl drafodaethau a geir yn y dyfodol. Rwy'n credu bod y polisi urddas a pharch hwn yn gosod safonau clir a disgwyliadau cadarn. Caiff ei gyflwyno i chi heddiw fel man cychwyn proses sy'n sicrhau mwy o eglurder i bawb. Gobeithio y bydd pawb yn y Siambr hon yn cefnogi'r polisi pan fyddwn yn pleidleisio ar hyn yn ddiweddarach heddiw.