Part of the debate – Senedd Cymru am 3:59 pm ar 16 Mai 2018.
Diolch yn fawr iawn. Mae'r diffiniad o ymddygiad amhriodol yn cael ei gynnwys yn y polisi urddas a pharch, ac mae o'n cynnwys aflonyddu, aflonyddu rhywiol, bwlio, bygwth, a gwahaniaethu anghyfreithlon. O edrych yn benodol ar ymddygiad rhywiol amhriodol, y diffiniad ydy:
'ymddygiad nas dymunwyd o natur rywiol tuag at rywun arall…Gall ymddygiad "o natur rywiol"…gynnwys, er enghraifft, awgrymiadau rhywiol annerbyniol…jôcs rhywiol, arddangos ffotograffau neu luniau pornograffig, gofyn am ffafrau rhywiol', ac yn y blaen. Hynny yw, mae o'n ddiffiniad eang, ac yn ehangach nag ymddygiad corfforol yn unig. Rŵan, rydw i'n croesawu'r diffiniad yma yn fawr iawn, ac yn croesawu'r polisi yn gyffredinol, ond rhaid dweud, fel y mae eraill wedi ei ddweud, mai cam cyntaf i'r cyfeiriad iawn ydy hyn heddiw.
Mae'n hollol amlwg bod angen newid diwylliannol radical ar draws cymdeithas yng Nghymru, ac rydw i yn galw, unwaith eto, ar Lywodraeth Cymru i gynnal arolwg cenedlaethol a sgwrs genedlaethol ar aflonyddu rhywiol a thrais rhywiol. Byddai hynny yn codi proffil y broblem, yn gyfrwng i adael i ddioddefwyr wybod bod Llywodraeth Cymru a'r Cynulliad Cenedlaethol ar eu hochr nhw, a hefyd yn ffordd o egluro beth ydy natur aflonyddu, beth ydy'r gwahanol elfennau, a pham nad yw'n dderbyniol. Mi ddylai'r sgwrs hefyd gynnwys dulliau y dylai dioddefwyr eu defnyddio i wrthsefyll ymddygiad anfoddhaol, hynny yw, sut i ateb yn y fan a'r lle, yn ogystal â chwyno'n swyddogol ar ôl i ymddygiad ddigwydd.
Mae aflonyddu rhywiol yn digwydd ym mhob man, ac efallai bod y ffocws wedi bod, cyn belled, ar aflonyddu yn y man gwaith, ond mae'n bryd cydnabod ei fod yn digwydd ar ein strydoedd, yn ein tafarndai, yn ein mannau cymdeithasol hefyd. Mae aflonyddu rhywiol yn symptomatig o sut y mae merched yn cael eu trin yn eilradd yn y gymdeithas yma, ac mae'n rhaid cydnabod bod y continwwm o drais ac aflonyddu merched yn ymwneud â phatrymau ehangach, diwylliannol o anghydraddoldeb rhywedd. Ac yn ganolog i’r cyfan mae cynnal ac atgynhyrchu perthynas o bŵer anghyfartal. Mi fydd datrys y broblem yn dasg anferth, ac mae’n gorfod cynnwys datrysiad diwylliannol, cymdeithasol eang, ac mae hynny, yn fy marn i, yn cychwyn efo trafodaeth genedlaethol. Mae’n cynnwys edrych ar y byd addysg i newid ymddygiad. Mae angen inni gychwyn o’r oedran cynnar, gan ddysgu plant a phobl ifanc am berthynas iach, a darparu addysg ryw gynhwysfawr ac ymrwymo i gyflwyno addysg orfodol a chynhwysfawr am ryw a pherthynas iach yn ein hysgolion cyn gynted ag y bo modd.
Mae hefyd angen inni greu gofod lle y mae’n bosibl i unigolion drafod y materion yma’n agored ac yn hyderus, ac y mae agwedd ragweithiol Prifysgol Caerdydd, er enghraifft, wrth greu llwyfan i adrodd am achosion o gam-drin, yn esiampl y dylai sefydliadau eraill ei dilyn. Y mwyaf o gyfleoedd i adrodd am achosion o’r fath, y mwyaf tebygol yw hi y bydd dioddefwyr yn dod ymlaen ac yn derbyn y gefnogaeth sydd ei hangen arnyn nhw. Mae hynny, yn ei dro, yn ei gwneud yn fwy tebygol y gallwn ni greu diwylliant o barch ac urddas yng ngwir ystyr y gair, ac nid yn unig yn y Cynulliad Cenedlaethol yma ond ar draws cymdeithas gyfan.
Rydw i'n meddwl y bydd Jane Hutt yn sôn, mewn ychydig, am ddatblygiad newydd, ac fe fyddaf i’n croesawu cydweithio efo Aelodau benywaidd eraill yn y Siambr yma, nid yn unig i drafod y polisi yma yn ehangach, ond er mwyn trafod materion yn ymwneud â rhywedd yn gyffredinol er mwyn—