Part of the debate – Senedd Cymru am 4:03 pm ar 16 Mai 2018.
Wrth gwrs, rydw i'n cytuno yn llwyr efo chi, ond mae’r ystadegau yn dweud stori glir iawn: fod merched yn llawer iawn mwy tebygol o fod wedi cael eu heffeithio gan aflonyddu a thrais. Er enghraifft, mae un o bob pedair o ferched yng Nghymru a Lloegr yn dioddef camdrin domestig; dynion 13 y cant. Felly, mae yna anghyfartaledd yna, ond nid yw hynny i ddweud, wrth gwrs, nad ydyw yn digwydd i ddynion hefyd. Fe wnaf i orffen ar y nodyn yna. Diolch.