Part of the debate – Senedd Cymru am 4:30 pm ar 16 Mai 2018.
Rydw i'n cefnogi, wrth gwrs, y cais gan fy nghyfaill i ddod â'r cynnig deddfwriaethol yma, ond rydw i'n gwneud hynny am sawl rheswm. Yn gyntaf oll, mae'n ddymuniad gen i a Phlaid Cymru i weld ein bod ni'n dod i ben â gwerthu ceir newydd sydd yn ddibynnol ar danwydd ffosil erbyn 2030, ac rydw i'n synnu nad yw Llywodraeth San Steffan wedi gwneud camau i gyflymu'r broses yma. Rydym ni'n dal i edrych tuag at 2042 ar gyfer hyn, er ein bod ni'n gwybod yr effaith ar ansawdd awyr sydd yn deillio o beiriannau tanwydd ffosil, a diesel yn benodol. Rydw i hefyd yn ei wneud e gan ein bod ni o'r farn, er bod y twf yma yn digwydd yn organig, bron, mewn cerbydau trydan, ei bod hi'n wir i ddweud, megis gyda band llydan, fel soniais i, y byddem ni yn rhannau helaeth o Gymru ar ein colled oni bai fod ymyrraeth gan y wladwriaeth i sicrhau cyfartaledd. Roedd y pwynt roedd Lee Waters yn ei wneud yn un digon teg, ond er mwyn helpu'r cyfartaledd yna, mae'n rhaid i'r Llywodraeth sefyll i mewn a gwneud yn siŵr bod hyn yn digwydd. Ac rydw i'n meddwl bod hynny'n rhywbeth rydym ni'n gyfarwydd â gorfod ei wneud yn y cyd-destun Cymreig.
Ar ôl i Blaid Cymru negodi y £2 filiwn ar gyfer cynllun cyhoeddus o bweru ceir trydan, rydw i wedi cysylltu â phob cyngor sir yng Nghymru i ofyn beth roedden nhw'n ei wneud i helpu'r broses yma, ac mor belled rydw i wedi cael ateb nôl gan hanner—gan gynnwys Ynys Môn, os caf i ddweud; da iawn Ynys Môn. Nid ydw i yma i enwi'r cynghorau, achos mae pob un ohonyn nhw'n dweud eu bod nhw'n gwneud eu gorau glas, ond mae'n amlwg beth sydd ar goll yn ambell i le. Mae yna gynghorau heb unrhyw bwynt gwefru cyhoeddus o gwbl. Mae yna lefydd yng Nghymru—. Os rydych chi'n teithio, Rhun, o Ynys Môn i Gaerdydd, mae'n ddigon posib, fel gyda'r trên, y bydd rhaid i chi fynd drwy Loegr i sicrhau eich bod chi'n gwneud y daith yn saff. Dyna'r math o fframwaith sydd gyda ni ar hyn o bryd.
Cwpwl o bethau sydd wedi codi yn hynny sydd yn awgrymu i fi ein bod ni angen rhywfaint o ddeddfwriaeth neu bwysau deddfwriaethol yn y maes yma yw: yr angen i greu rhwydwaith cenedlaethol; yr angen i'r rhwydwaith yna fod â bathodyn Cymreig arno fe, os liciwch chi, so mae pobl yn gwybod bod Llywodraeth Cymru yn rhan o'r broses yma; ein bod ni'n sicrhau drwy ymrwymiad deddfwriaethol bod y pwyntiau gwefru yma yn open source ac yn agored i bawb—felly beth sydd gyda chi, wrth gwrs, yw bod un cwmni yn licio cadw fe jest ar gyfer eu ceir nhw, ond rydym ni angen i hwn fod ar gael i bawb—ac ein bod ni'n gallu annog a helpu cynghorau lleol a phobl eraill a chyrff cyhoeddus sydd â diddordeb yn hyn nid jest i roi un pwynt i mewn, ond sawl pwynt i mewn. Rydym ni eisiau buddsoddiad eithaf sylweddol fan hyn; ie, paratoi ar gyfer y twf sy'n dod yn hytrach na beth sydd gyda ni nawr, efallai, fel roedd David Melding yn sôn, ond mae angen gweld hynny.
Y pwynt olaf oll rydym ni angen ei weld yng nghyd-destun ymyrraeth Llywodraeth yw bod y grid mewn mannau o Gymru heb fod yn ddigon cadarn na chryf ar gyfer y twf sy'n mynd i gael ei weld mewn pweru ceir. Mae capasiti'r grid yn gyfyng iawn mewn mannau o Gymru, yn enwedig yn y canolbarth, ac rydw i eisiau i'r Llywodraeth gydweithio gyda Llywodraeth San Steffan i fynd i'r afael â hynny. A gan bod y grid yn dweud na fydd modd cael batris mwy nag 1 MW yng Nghymru am o leiaf ddegawd arall—dyna'r sefyllfa, mae'r Grid Cenedlaethol yn dweud nawr—mae'r syniad o gael batris bach ym mhob man, sef y ceir trydan yma, yn defnyddio ein pŵer a'n hynni adnewyddol ni, yn ddeniadol iawn i fi, ond mae angen ymyrraeth y Llywodraeth, nid oes dim dwywaith gen i.