Part of the debate – Senedd Cymru am 4:42 pm ar 16 Mai 2018.
Diolch, Lywydd. Efallai y bydd Aelodau yn y Siambr hon wedi sylwi fy mod yn gwisgo'r sêl-fodrwy hon. Fe'i rhoddwyd i mi gan fy nhad pan oeddwn yn 16 mlwydd oed. Modrwy fy nhad-cu oedd hi mewn gwirionedd. Mae hi wedi tynhau wrth imi heneiddio, rhaid dweud. Cafodd fy nhad-cu ddiagnosis o ganser y coluddyn yn y 1970au, a goroesodd i mewn i'r 1980au. Un o'r pethau a ddywedodd wrthyf oedd, 'Hoffwn fyw yn ddigon hir i dy weld yn mynd i brifysgol.' Bu farw fy nhad-cu pan oeddwn yn 10 mlwydd oed. Rwy'n siŵr fod llawer ohonom wedi cael ein cyffwrdd gan straeon am ganser y coluddyn, ac felly mae'n bleser gennyf gyflwyno'r ddadl hon yn y Siambr heddiw.
Mae sgrinio ar gyfer canser y coluddyn ar gael bellach yn genedlaethol ar draws pedair gwlad y DU, ac yng Nghymru caiff ei ddarparu ar gyfer pobl rhwng 60 a 75 oed. Rydym wedi gweld newidiadau arloesol mawr yn yr opsiynau sydd ar gael ar gyfer triniaeth, ac maent wedi arwain at ostyngiad o 13 y cant yn y cyfraddau marwolaeth ar gyfer y DU yn ei chyfanrwydd. Dyma deyrnged i waith caled llawer o weithwyr gofal iechyd proffesiynol ac ymchwilwyr yn y gwasanaeth iechyd gwladol a'r diwydiant fferyllol. Fodd bynnag, mae'n amlwg fod gennym waith i'w wneud o hyd, ac mae elusen Bowel Cancer UK wedi ein helpu i weld lle y gellir gwneud y gwaith hwnnw. Caiff oddeutu 41,000 o bobl ledled y DU ddiagnosis o ganser y coluddyn bob blwyddyn. Mae mwy na 2,200 ohonynt yma yng Nghymru. Felly, y realiti poenus a thorcalonnus yw, o'r 16,000 o bobl ledled y DU, bydd dros 900 yng Nghymru yn colli eu brwydr yn erbyn y clefyd ofnadwy hwn. Rwy'n siŵr y byddai pawb yn y Siambr heddiw yn cytuno ei fod dros 900 yn ormod.
Yn syml, po gynharaf y ceir diagnosis, y mwyaf yw'r tebygolrwydd y byddwch yn goroesi pum mlynedd neu fwy. Mae diagnosis cynnar yn allweddol a rhan hanfodol o hyn yw codi ymwybyddiaeth a sgrinio, ac rwyf am sôn am hynny wrth Lywodraeth Cymru yn fy araith heddiw. Mae angen i bobl fod yn ymwybodol o symptomau posibl canser y coluddyn, a gwn fod gan yr Aelodau rwyf wedi siarad â hwy gynlluniau i drafod hynny'n fanwl. Os ydych yn meddwl efallai fod gennych symptomau canser y coluddyn, peidiwch â theimlo cywilydd a pheidiwch â'u hanwybyddu, ewch i'w cael wedi'u harchwilio.
Rwy'n cydnabod bod pump o'r saith bwrdd iechyd yng Nghymru yn methu cyrraedd targedau gorfodol Llywodraeth Cymru ar gyfer amseroedd aros—mae dros 1,800 o gleifion yng Nghymru yn aros mwy nag wyth wythnos am ddiagnosis canser y coluddyn. Daw hyn o adroddiad a gyhoeddwyd ym mis Chwefror gan Bowel Cancer UK, y gwnaethom helpu i'w lansio. Helpodd Mandy Jones ac Andrew Davies ACau i'w lansio yma ym mis Chwefror. Canfu'r adroddiad hefyd fod llai na hanner y bobl sy'n gymwys ar gyfer profion sgrinio am ganser y coluddyn yng Nghymru wedi gwneud y prawf, ond sgrinio yw'r ffordd fwyaf effeithiol o ganfod canser y coluddyn. Ysgrifennais at y Gweinidog ar y pryd, Rebecca Evans, pan oedd hi'n Weinidog iechyd y cyhoedd ym mis Chwefror 2017 ar fater gostwng yr oedran sgrinio o 60 i 50, fel sy'n digwydd yn yr Alban ar hyn o bryd. Cefais fy nghalonogi pan ddywedodd, ar 23 Chwefror 2017, 'mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ymestyn rhaglen sgrinio'r coluddyn yng Nghymru i ddynion a menywod rhwng 50 a 59 oed, ond mae ein ffocws ar gynyddu'r nifer sy'n cael y prawf yn yr ystod oedran presennol a lleihau'r annhegwch y gwyddom ei fod yn bodoli cyn ymestyn y rhaglen ymhellach.'
Rwy'n credu bod heddiw yn gyfle amserol i Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd roi'r wybodaeth ddiweddaraf inni ar ba gynnydd a wnaed ers mis Chwefror 2017 a pha gynnydd y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu ei wneud yn 2019, sy'n rhan o'n cynnig. Roedd y Gweinidog hefyd yn pwysleisio yn ei llythyr pa mor bwysig yw codi ymwybyddiaeth ymhlith grwpiau incwm is, oherwydd yn ystadegol maent yn llai tebygol o wneud y prawf—